{"product_id":"na-nel-9781847718952","title":"Na, Nel!","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Nel yn ferch ddireidus ac yn y gyfrol hon mae tair stori ddigri. Mae ei rhieni'n gorfod gweiddi Na, Nel! arni'n aml! Addas ar gyfer darllenwyr 7 i 9 oed ond i'w mwynhau gan blant o bob oed!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA book of three stories about mischievous Nel, for readers between 7 and 9 years old, but can be enjoyed by all ages! No, Nel!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847718952\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847718952\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNa, Nel!\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJames, Meleri Wyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-02-02\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLund, John\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e112 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr Melys yn Anrheg Pasg Mae Meleri Wyn James yn gobeithio y bydd rhieni yn prynu llyfr yn ogystal â siocled yn anrheg i’w plant dros y Pasg eleni. Mae’r awdures o Aberystwyth newydd gyhoeddi llyfr newydd i blant ac mae’n cyfaddef iddi ddefnyddio ei phlant ei hun fel ysbrydoliaeth wrth greu Nel, Cymraes fach ddireidus sydd wrth ei bodd yn cael hwyl. Er mai Na, Nel! yw ei chyfrol gyntaf i blant rhwng 7 a 9 oed, mae’r awdures brofiadol eisoes wedi cyhoeddi pymtheg o nofelau a chyfrolau o straeon byrion i oedolion ac i’r arddegau. Mae hefyd yn awdur colofn i gylchgrawn Y Wawr am y profiadau dyrys a digri o fod yn fam ac mae’n gweithio fel golygydd creadigol i wasg y Lolfa. Tair stori ddoniol am ferch ddrygionus yn arddull Horrid Henry a geir yn Na, Nel!. Mae’r llyfr wedi’i anelu at ddarllenwyr rhwng 7 a 9 oed, ond mae hefyd yn addas i’w ddarllen i blant ieuengach. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys lluniau deniadol a doniol gan yr artist John Lund o Gaerdydd. Mae John wedi gweithio gyda’r artist Joanna Quinn, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith, gan gynnwys dau enwebiad am Oscar. “Mae gen i ddwy ferch 7 a 9 oed, tua’r un oedran â darllenwyr Na, Nel! , ac maen nhw a’u ffrindiau yn fy ysbrydoli’n ddyddiol ac yn gwneud i mi chwerthin mas yn uchel,” meddai Meleri, a fagwyd ym Meulah ac Aber-porth ond sy’n byw yn Aberystwyth ers dros ddeng mlynedd bellach gyda’i gŵr Sion Ilar, cynllunydd clawr y llyfr newydd. “Wrth gwrs, mae llawer o lyfrau da ar gael i blant sy’n addasiadau o lyfrau Saesneg, ond ro’n i eisiau sgrifennu straeon digri oedd â blas Cymreig. Mae’r straeon yn cyflwyno hanesion ac arferion Cymreig yn ogystal ag anturiaethau Nel a’i ffrindiau. Rwy wrth fy modd yn darllen ers fy mod i’n ferch fach ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod digonedd o ddewis o lyfrau Cymraeg ar gael. “Mae’r tair stori yn Na, Nel! wedi’u rhannu’n benodau byr er mwyn cadw diddordeb plant ac maen nhw’n cynnwys lluniau bendigedig gan John Lund. Gobeithio y bydd plant (a’u rhieni!) yn mwynhau’r straeon, ac y daw cyfle i sgrifennu mwy o anturiaethau i Nel. Gobeithio y bydd rhieni yn prynu llyfr yn ogystal â siocled y Pasg hwn! Byddwn wrth fy modd petawn i’n gallu dweud mai dyma’r gyfrol gyntaf mewn cyfres o straeon am y ferch ddireidus.” Cyhoeddodd Meleri ei chyfrol gyntaf ar ôl ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod yr Urdd Taf Elai yn 1991. Ers hynny mae ei llyfrau wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Nofel 2000 Gwasg Gomer a Rhestr Fer Gwobr Tir na-Nog 2006. Lansiwyd Na, Nel! yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth lle bu’r awdures yn rhannu’r straeon gyda phlant blwyddyn 3 yr ysgol. Uchod, gweler llun o Ella Haf a Iestyn Llew o’r Ysgol Gymraeg yn mwynhau’r darllen. “Fe wnes i chwerthin nes o’n i’n sâl,” meddai Lleucu Siôn, 7 oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol Rhydypennau ac oedd yn un o’r cyntaf i ddarllen y llyfr newydd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820839014774,"sku":"9781847718952","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847718952_dadd2500-3a24-4610-b592-171b89ace6a9.jpg?v=1790361165","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/na-nel-9781847718952","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}