{"product_id":"mynd-adra-n-droednoeth-9781907424632","title":"Mynd Adra'n Droednoeth","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel delynegol, gofiadwy i oedolion sy'n gofyn y cwestiwn oesol: beth yw pris gwir hapusrwydd?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA lyrical and memorable novel which asks: what is the price of true happiness?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781907424632\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781907424632\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMynd Adra'n Droednoeth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Sonia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-10-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePeidiwch â chael eich camarwain gan ddiffyg lliw a ffocws clawr y llyfr hwn. Nid nofel ddi-liw, annelwig yw hi. Mae ei ffocws hi’n glir iawn ar gariad, y cariad angerddol hwnnw sy’n ‘eich bwrw’n llwyr fel pe bai wal frics yn disgyn am eich pen’. Mae lliwiau cryf blodau’r haul – ‘y blodau sy’n chwerthin’ – a chlychau’r gog, ac arogleuon garlleg gwyllt a phethau’r môr, ynghyd â’r disgrifiadau braidd-gyffwrdd o garu dirgel, dwys, i gyd yn eu tro yn cyffroi’r synhwyrau. Mae’r llyfr wedi'i rannu’n ddau. Yn yr hanner cyntaf mae Bet a Gwenllian, menywod gwahanol iawn i’w gilydd o ran oedran a dosbarth cymdeithasol, yn dechrau siarad â’i gilydd. Mae un profiad yn gyffredin iddyn nhw fodd bynnag – mae’r ddwy mewn cariad angerddol â dynion sy’n briod â rhywun arall – Bet â Harri, a Gwenllian â Rhydian. Dyna fan cychwyn eu hymwneud â’i gilydd. Erbyn hyn mae Gwenllian, ‘galwch fi’n Gwen’, yn gofalu am Harri mewn cartref henoed, a Bet, oddi ar i wraig Harri farw, yn ymweld yn gyson ag ef, er nad yw bellach yn ymateb iddi nac yn ei nabod hi, hyd yn oed. Mae penodau’r hanner cyntaf yn eilio’n gelfydd rhwng Bet a Gwen yn disgrifio hynt eu carwriaethau – atgofion wedi’u didoli a’u mireinio gan amser yn achos Bet, ac ing carbwl a dirdynnol y presennol yn achos Gwen. Drwy hyn daw cymeriadau’r ddwy yn gliriach – Bet, y fenyw hunanfeddiannol, ddwys a synhwyrus, a Gwen, y ferch fyrbwyll, lawn angst, syddd wedi hen arfer cael ei hanwybyddu, ond sy’n llawn cariad a gofal am bobl eraill. Mae’r môr i Bet yn ffynhonnell rhamant ac atgofion nwydus, ond i Gwen mae’n destun hunllefau a braw. Mae Bet yn dyfynnu o gerdd gan T. Gwynn Jones, a Gwen ac Eifs, y ffrind fu mor fawr ei ofal ohoni, yn dyfynnu Wali Tomos! Datblygiad y cyfeillgarwch, y gyd-ddibyniaeth yn wir, rhwng Bet a Gwen sydd yn ail hanner y nofel. Os mai myfyrdod ar gariad angerddol oedd yn yr hanner cyntaf, mae’r casineb angerddol a oedd wedi bod yn ffrwtian dan yr wyneb yn ddiarwybod i ni yn dod i’r wyneb yn yr ail. Gyda’i gilydd, mae ein dwy arwres yn trechu’r heriau. Feiddiai unrhyw un awgrymu bod pethau yn disgyn i’w lle yn rhy gyfleus, tybed? Go brin, gan fod edafedd newydd gan Gwen i’w dirwyn ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821085626742,"sku":"9781907424632","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781907424632_e263bb9a-dcbb-498b-ba95-1f44fe7c98c9.jpg?v=1790363703","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/mynd-adra-n-droednoeth-9781907424632","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}