{"product_id":"mwy-o-straeon-o-r-mabinogi-9781804163450","title":"Mwy o Straeon o'r Mabinogi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma'r dilyniant i gyfrol arobryn Gwobr Tir na n-Og 2016, Pedair Cainc y Mabinogi . Cynhwysir tair stori allweddol yn y llyfr hwn: 1. Y Tywysog a Merch y Cawr - Stori Culhwch ac Olwen; 2. Lludd a Llefelys; 3. Breuddwyd Macsen Wledig. Dyma greadigaeth swynol arall gan y tîm arobryn, yr awdures Siân Lewis a'r arlunydd Valériane Leblond.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis is the follow-up book to the 2016 Tir na n-Og award-winning title, Pedair Cainc y Mabinogi . Three key stories are featured in this book: 1. The Prince and the Giant's Daughter - The Tale of Culhwch and Olwen; 2. Lludd and Llefelys; 3. The Emperor's Dream. Created by the award-winning team of author Siân Lewis and illustrator Valériane Leblond.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781804163450\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781804163450\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMwy o Straeon o'r Mabinogi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Siân\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-06-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLeblond, Valeriane\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e160 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e246 × 246 mm; depth 12 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C020056\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePan gafodd y gyfrol gyntaf o addasiadau Siân Lewis o straeon Pedair Cainc y Mabinogi ei chyhoeddi, gwnaeth tipyn o argraff. Yn wir, enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2016 – fedrwch chi ddim creu llawer mwy o argraff! Wel, ar ôl hir ymaros, mae’r dilyniant i’r gyfrol arobryn honno bellach ar gael, ac mae’n addo mwy fyth o’r hyn wnaeth y gyntaf mor arbennig. I ddechrau, rhaid rhoi sylw i’r llyfr ei hun. Dyma be dwi’n ei alw’n ‘llyfr go iawn!’ Mae’r clawr caled yn rhoi’r ymdeimlad o sylwedd a safon uchel; nid llyfr i’w ddarllen unwaith a’i daflu mo hwn! Na, mae llyfr fel hwn yn rhywbeth i’w werthfawrogi, ei drysori a’i rhannu o fewn teuluoedd. Dyma’r math o lyfr y gall plentyn (neu oedolyn) ddychwelyd ato dro ar ôl tro. A phwy well i addurno’r clawr nag un o’n harlunwyr gorau, Valériane Leblond. O Ffrainc y daw hi’n wreiddiol ac mae Cymru wedi ei mabwysiadau go iawn erbyn hyn. Mae lluniau Valériane yn adnabyddus ac yn cyfleu hud a lledrith hynafol y chwedlau hyn i’r dim. Rhowch y lluniau gorjys yma ynghyd â geiriau Siân Lewis, ac mae gennych chi gyfuniad perffaith. Petaech chi’n gofyn i mi fynd ati i gyflwyno’r Mabinogi i genhedlaeth newydd, bur debyg na faswn i’n gwybod lle i ddechrau. Mae’r awdur, fodd bynnag, yn hen gyfarwydd â sut i wneud hyn, a hithau wedi llunio sawl llyfr arall amdanynt. Yn wir, mae’r Mabinogi wedi cael cryn dipyn o sylw gan gyhoeddwyr yn y blynyddoedd diwethaf, felly beth sy’n gwneud y gyfrol yma’n wahanol? Yma mae’r awdur wedi cael y rhyddid a’r lle i adrodd y straeon mewn ffordd gyflawn a chynhwysfawr iawn. Mae fersiynau symlach o’r straeon yn bodoli eisoes, ond wrth symleiddio, mae’n rhaid tocio ac mae manylion yn cael eu colli. Er mai tair stori sydd yma, sef Culhwch ac Olwen, Lludd a Llefelys a Breuddwyd Macsen Wledig, mae digon o swmp ym mhob un i’ch cadw’n darllen am sbel dda! Mae stori Culhwch ac Olwen yn enwedig, yn un hir a rhyfedd iawn, sy’n addas i’w mwynhau dros sawl darlleniad. Mae’r straeon eu hunain yn amrywiol ac yn fytholwyrdd, gyda rhai o’r negeseuon mor addas heddiw ag yr oeddent pan yr adroddwyd nhw am y tro cyntaf. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae disgwyliadau darllenwyr yn uchel iawn o ran diwyg a gwedd. Rwy’n falch o ddweud na chefais fy siomi gan y gyfrol hardd a moethus yma. Rhamant, dial, trais, cyffro, antur, brwydro, cewri, dewiniaid a dreigiau – mae gan y Mabinogi dipyn bach o bopeth. Beth mwy sydd ei angen?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820493312374,"sku":"9781804163450","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781804163450_ff79c4fe-445d-4f66-a1b6-ce214d3a8cf1.jpg?v=1790357402","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/mwy-o-straeon-o-r-mabinogi-9781804163450","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}