{"product_id":"munud-yn-dy-gwmni-casgliad-o-weddiau-a-myfyrdodau-9781859948682","title":"Munud yn dy Gwmni: Casgliad o Weddïau a Myfyrdodau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol o weddïau amrywiol gan y Parchedig Owain Llyr Evans, yn cynnwys gweddïau i gynulleidfaoedd ynghyd â gweddïau ar gyfer defosiwn personol a grwpiau bychain.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA volume of diverse prayers by Reverend Owain Llyr Evans, comprising prayers for congregations, personal devotion and small groups.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781859948682\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781859948682\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMunud yn dy Gwmni: Casgliad o Weddïau a Myfyrdodau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEvans, Owain Llyr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-08-16\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau'r Gair\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e84 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOs yw arweinwyr gwledydd yn medru bygwth rhyfel mewn llai na 140 llythyren ar Trydar, pam na all siarad â Duw fod yr un mor gryno? Nid fod y gweddïau yn Munud Yn Dy Gwmni cweit mor fyr â hynny (tua maint tudalen A5 yn bennaf), ac mae modd eu hymestyn. Yn ôl yr awdur, gellir eu 'plannu fel hadau' i weddi, myfyrdod neu drafodaeth ehangach. Mewn oes ddigidol, a chymaint ohonom yn gaeth i lanw bylchau ein prysurwch trwy gyfrwng iPhone neu iPad, mae munudau gwag yn bethau prin. Dyma weddïau a luniwyd ar gyfer y fath funudau. 'Mewn distawrwydd, agorwch eich meddwl a’ch calon i Dduw,' yw’r gwahoddiad. Mae ystod patrymau a themâu’r cynnwys, fel gorwelion ysbrydol Owain Llŷr Evans, yn rhai eang iawn. Ceir yma weddïau sy’n addas ar gyfer myfyrdod personol yn ogystal â rhai sy’n galw am ymateb llafar gan gynulleidfa. Mae’r mwyafrif o’r gweddïau yn crogi ar fachyn adnod neu thema ysgrythurol. Mewn oes gynyddol ôl-Gristnogol, aeth cyfeiriadau Beiblaidd yn fwyfwy dieithr, ac ymdrecha’r awdur i addysgu, esbonio a pherthnasu ein cyflwr ni â chyflwr pobl mewn oesoedd cyntefig trwy’r fath gyfeiriadau. Mae’n cyflwyno themâu cyfoes mewn iaith bob dydd, yn rhydd o’r jargon crefyddol sy’n gymaint o turn-off i bobl heddiw, fel sy’n cael ei gydnabod yn y geiriau: 'Gall crefydd grebachu ffydd, gyfyngu gobaith a chrino cariad.” (Dyffryn). Ceir syniadau a chyffyrddiadau llenyddol trawiadol hefyd: “Ffurfiwyd calon Crist yng nghorff Mair ... llifodd ei waed yntau trwy’r gwythiennau a thrwy falfiau ei chalon.' (Gwaed). “Canu wna’r baban yn ei grud ddireol gerddoriaeth y newydd anedig.' (Canu). Aeth yr arfer o weddïo yn beth prin, ond pan ddaw argyfwng mawr i fywydau pobol, mewn poen, gofid ac ofn, mae llawer yn dal i droi at weddi ar ôl i bopeth arall fethu. Ceir gweddïau yma ar gyfer bron pob achlysur o’r fath, a daw geiriau nifer o’n cyfoedion i ganol y myfyrdodau: 'Making peace, I have found, is much harder than making war.'– Gerry Adams (Cymod). Cyfres o ddyfyniadau gan bobl enwog, gyda geiriau Iesu ar y groes fel ymateb cynulleidfaol iddynt, yw’r weddi fwyaf gwreiddiol. Dyfyniad gan y colofnydd Katie Hopkins yw’r un olaf: 'Show me bodies floating in water, play violins and show me skinny people looking sad. I still don’t care. O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.' (Maddau Iddynt.) Dyma gyfrol ddefnyddiol a heriol i Gristnogion, ac i anffyddwyr mae'n cynnig cipolwg gwerthfawr ar feddwl a gwerthoedd credinwyr eangfrydig cyfoes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821003247990,"sku":"9781859948682","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781859948682_4bce79ce-392e-4d38-ba5f-78d1941c7ca0.jpg?v=1790362704","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/munud-yn-dy-gwmni-casgliad-o-weddiau-a-myfyrdodau-9781859948682","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}