{"product_id":"modryb-9780860742838","title":"Modryb","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae hon yn ddilyniant i'r cyfrolau poblogaidd Nain\/Mam-gu a Taid\/Tad-cu , a'r tro yma cawn atgofion Tudur Owen, Angharad Tomos, Mari Emlyn, Siân Thomas, Ffion Dafis,Dylan Wyn Williams, Elin Aaron, Bethan Jones Parry, Heledd ap Gwynfor, R. Alun Evans, Cathryn Gwynn ac Efa Siôr Bowen. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys 'Cywydd o fawl i bob Anti' gan Annes Glynn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eModryb (Auntie) is the sequel to the popular Nain\/Mam-gu (Grandma) and Taid\/Tad-cu (Grandad), and contains recollections by Tudur Owen, Angharad Tomos, Mari Emlyn, Siân Thomas, Ffion Dafis, Dylan Wyn Williams, Elin Aaron, Bethan Jones Parry, Heledd ap Gwynfor, R. Alun Evans, Cathryn Gwynn and Efa Siôr Bowen. It also features a wonderful poem by 2004 Prose Medal winner Annes Glynn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780860742838\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780860742838\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eModryb\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAmryw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-10-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Gwynedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e126 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e129 × 198 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol newydd yn dathlu modrybedd o bob lliw a llun Mae gan bawb ei hoff ‘Anti’, boed honno’n fodryb go iawn neu’n un o ffrindiau pennaf eich mam neu’ch nain y buoch yn ei galw’n Modryb neu Bodo neu Anti Rhywbeth ers cyn cof, heb feddwl am gwestiynu’r peth! Y tymor hwn, mae Gwasg Gwynedd yn dathlu’r cymeriadau hynod hyn mewn llyfr newydd sbon, gyda rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn siarad am eu hoff fodryb. Mae pleser, difyrrwch, addysg, ambell wên ac ambell ddeigryn i’w cael rhwng cloriau’r gyfrol ddifyr Modryb . Mae’n agor hefo ‘Cywydd o fawl i bob Anti’ gan Annes Glynn, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004. Fel y dywed Annes: “I blant, does neb fel ‘Anti’.” Mae Modryb yn ddilyniant i’r cyfrolau poblogaidd Nain\/Mam-gu a Taid\/Tad-cu , a’r tro yma cawn atgofion Tudur Owen, Angharad Tomos, Mari Emlyn, Siân Thomas, Ffion Dafis,Dylan Wyn Williams, Elin Aaron, Bethan Jones Parry, Heledd ap Gwynfor, R. Alun Evans, Cathryn Gwynn ac Efa Siôr Bowen. Am ei Anti Ceti mae’r digrifwr Tudur Owen yn hel atgofion – cymeriad a hanner y caiff Tudur ei atgoffa amdani bob tro y daw ar draws hen geiniog arbennig sydd ganddo mewn drôr yn y tŷ. Meddai: “Roedd hi’n dipyn o gymeriad, a deud y lleia, fel y gwelwch chi yn y bennod. Mi wnes i fwynhau sgwennu am Anti Ceti, a gobeithio y bydd pobl yn mwynhau darllen amdani hefyd. Unwaith ’nes i ddechrau sgwennu, roedd un atgof yn arwain at un arall, ac ro’n i’n cofio petha amdani nad o’n i wedi meddwl amdanyn nhw ers blynyddoedd. “Dwi’n gobeithio neith y gyfrol i bobl feddwl mwy am yncls ac antis. Maen nhw’n bobl bwysig yn ein bywydau ni sy’n cael lot o ddylanwad arna ni, ond dydyn nhw ddim yn tueddu i gael yr un clod â Mam a Dad neu Nain a Taid, er, yn aml iawn (yn fy achos i, beth bynnag), ti’n ymddiried mwy yn dy anti nag yn dy fam neu dy dad, ac yn deud mwy wrthi.” Er bod y mwyafrif o’r penodau’n sôn am fodryb arbennig, mae Cathryn Gwynn a Ffion Dafis yn trafod y profiad o fod yn fodryb. Mae Ffion yn amlwg yn ei helfen wrth siarad am ei thri nai, plant ei chwaer – Noa, Moi a Twm Hallam. Dywed Ffion: “Alla i ddim egluro’r emosiwn a’m trawodd pan glywais mod i’n mynd i fod yn fodryb am y tro cyntaf. Mae perthynas modryb a’i neiaint yn un unigryw. Mae hi’n un sy’n cynnig dewis a rhyddid llwyr i mi. Mae Ler a Gwion a’r hogiau’n uned gadarn, ac mae hi i fyny i mi faint o ran o’r uned honno rydw i am fod. A’r gwir amdani? Alla i ddim cadw draw!” Bethan Gwanas fu’n gyfrifol am olygu’r gyfrol. Dywed: “Roedd Nain\/Mam-gu a Taid\/Tad-cu wedi bod mor llwyddiannus ac wedi gwerthu cystal, ro'n i'n eitha siŵr bod lle i un gyfrol fach arall yn y gyfres. Weithiau, mae hi'n anodd dod o hyd i'r anrheg Nadolig perffaith ar gyfer eich modryb, ac mae'r gyfrol yma i'r dim, tydi? “Bob tro byddai cyfrannwr yn cytuno i yrru ysgrif, mi fyddwn i'n cynhyrfu'n rhacs ac yn edrych ymlaen mwya ofnadwy at weld y cynnyrch. A phan fyddai hwnnw'n cyrraedd, ro'n i'n cynhyrfu fwy fyth! Fel hefo'r ddwy gyfrol arall, rydw i wedi ceisio cael ystod eang o gyfranwyr o wahanolrannau o Gymru ac o wahanol oedran a chefndir – rhai’n brofiadol, eraill yn enwau llai cyfarwydd. Mae'n rhaid i mi ddeud mod i wedi gwirioni hefo'r canlyniad ac yn teimlo bod y gyfrol yn un wirioneddol hyfryd. Mae'r amrywiaeth o fodrybedd hen ffasiwn (weithiau'n ecsentrig fel rhai Bethan Jones Parry ac Angharad Tomos) a'r modrybedd mwy modern fel Gwen Aaron, Ffion Dafis a Cathryn Gwynn, wedi fy mhlesio'n arw. Rydw i wedi gwirioni hefyd hefo cywydd Annes Glynn ar y dechrau, a chlawr hyfryd Dorry Spikes, sydd wir yn tynnu sylw. “Mae'n rhaid i mi gyfadde i ysgrif Efa Siôr Bowen, disgybl o Ysgol Eglwyswrw, roi gwên fawr ar fy wyneb. Mi ges fy mhlesio'n fawr hefyd gan ddawn lenyddol Tudur Owen. Ro'n i'n amau ers talwm fod y boi’n gallu sgwennu rhyddiaith, dim ond iddo roi cynnig arni, ac ro'n i'n iawn!”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThere’s nobody quite like an auntie There is an old saying that says only an aunt can give hugs like a mother, keep secrets like a sister and share love like a friend. This autumn a brand new book, published by Gwasg Gwynedd, sees some of Wales’ most famous people paying tribute to and reminiscing about their favourite aunties. Modryb is the sequel to the popular Nain\/Mam-gu (Grandma) and Taid\/Tad-cu (Grandad), and contains recollections by Tudur Owen, Angharad Tomos, Mari Emlyn, Siân Thomas, Ffion Dafis, Dylan Wyn Williams, Elin Aaron, Bethan Jones Parry, Heledd ap Gwynfor, R. Alun Evans, Cathryn Gwynn and Efa Siôr Bowen. It also features a wonderful poem by 2004 Prose Medal winner Annes Glynn called ‘There’s nobody quite like an auntie’. Comedian Tudur Owen reminisces about his ‘Anti Ceti’ – a unique character he’s reminded of every time he comes across an old coin he keeps in a drawer at home. “She was quite a character, to say the least, as you’ll see in my chapter. I really enjoyed writing about my Anti Ceti. Once I got started, one memory led to another and I remembered thingsabout her that I hadn’t thought of in years. “I hope the book will make people think a bit more about their uncles and aunties. They play an important role in our lives and influence us quite a bit, but they don’t always get the credit they deserve. Often (in my case, at least) you tend to be more open with your aunt, and tell her things you wouldn’t even tell your parents.” Although most chapters deal with specific aunts, Cathryn Gwynn and Ffion Dafis talk about their experiences of being aunties. Ffion is in her element talking about her three nephews, her sister’s boys – Noa, Moi and Twm Hallam. Actress Ffion said: “I can’t explain the emotion I felt when I first heard I was going to be an aunt. An aunt’s relationship with her nephews or nieces is so special, and one that offers me complete freedom and choice. Ler (my sister), Gwion and the boys are a solid unit, and it’s up to me how much I want to be part of that unit – to tell you the truth, I just can’t get enough!” Editor Bethan Gwanas added: “ Nain\/Mam-gu and Taid\/Tad-cu were so successful that I thought, there must be room in the series for one more book. Sometimes getting a Christmas gift for your auntie can be quite difficult, and this book would be perfect! “As with the other two books, I’ve tried to ensure a wide variety of contributors from across Wales, from different backgrounds and age groups – some very experienced, others less so. Every time a contributor agreed to write a chapter, I would get all excited and couldn’t wait for it to arrive. I’m especially pleased with the variety of aunties, from Bethan Jones Parry and Angharad Tomos’ old fashioned and eccentric aunts to the more modern ones of Ffion Dafis, Cathryn Gwynn and Elin Aaron. “Eglwyswrw primary school pupil Efa Siôr Bowen’s tribute to her ‘Anti Alwen’ brought a big smile to my face, and Tudur Owen’s literary talent has finally been revealed – I always suspected he could write if he tried, and I was right!”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819014361462,"sku":"9780860742838","price":6.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780860742838_46250a00-4453-4045-bc58-8719e285ea69.jpg?v=1790352954","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/modryb-9780860742838","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}