{"product_id":"min-y-mor-9780860742791","title":"Min y Môr","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae'n ddiwedd haf mewn pentref glan môr, a phob dim yn ddigon tebyg i'r arfer ym mywyd Ruth - fisitors Min y Môr yn prinhau, y mab yn bymtheg oed oriog, a Cled yn dal y gannwyll iddi o hyd, er gwaetha'i pherthynas â Steve y syrffiwr. Pob dim yn debyg i'r arfer ... nes daw nodyn dienw drwy ddrws Min y Môr, a chysgod o orffennol Ruth yn bygwth chwalu'r cyfan.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIt's the end of summer in a seaside village, and everything seems to be as usual in Ruth's life - visitors to Min y Môr are ebbing away, her fifteen-year-old son is still moody, Cled still fancies her despite her relationship with Steve the surfer. Everything seems the same ... until a note lands on the doorstep of Min y Môr, and shadows from Ruth's past threaten to shatter everything.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780860742791\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780860742791\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMin y Môr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Mared\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-03-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Gwynedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e238 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAwdur a dramodydd, yn wreiddiol o Falltraeth ym Môn ac yn dal i fyw ar yr ynys efo’i gŵr a’i meibion, yw Mared Lewis. Hon yw ei thrydedd nofel. Cyrhaeddodd 'Y Maison du Soleil' restr hir Llyfr y Flwyddyn 2009.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae tensiwn rhwng cymeriadau, gyda’r gorffennol yn dod yn ôl i effeithio arnyn nhw, yn elfennau sydd wedi profi’n llwyddiannus mewn nofelau ar hyd y blynyddoedd, a dyna welwyd yng nghyfrol lwyddiannus ddiwethaf Mared Lewis, y Maison de Soleil . Mae’n dilyn yr un trywydd gyda Min y Môr , sydd wedi’i gosod ym mhentref Rhosneigr ar Ynys Môn. Hanes Ruth, mam sengl sy’n cadw busnes gwely a brecwast a geir yn y nofel. Mae hi a’i mab Math yn mynd drwy gyfnod sy’n gyfarwydd i bob rhiant – yr arddegau anodd, ac yntau’n cilio oddi wrthi. Mae hen ffrind plentyndod i Ruth, Cled, sy'n gweithio fel handyman i ymwelwyr a mewnfudwyr yn y pentref, yn ei helpu cryn dipyn, ac yn amlwg yn dymuno eu gweld yn closio, ond mae Ruth wedi dechrau perthynas gyda Steve, syrffiwr sy’n un o’r criw o ddysgwyr Cymraeg mae hi’n ymarfer siarad Cymraeg â nhw bob wythnos. Mae’r stori’n digwydd tua diwedd y tymor gwyliau, sy’n ddigon tebyg i unrhyw flwyddyn arall, nes daw nodyn dienw drwy’r drws, gan agor llif o atgofion a chodi llond pen o bryderon. Canlyniadau’r nodyn a chymhellion y sawl a’i hanfonodd sy’n ffurfio gweddill y nofel. Wrth i’r stori ddatblygu, mae’r tensiwn yn cynyddu, nes ei fod bron yn felodramatig erbyn y diwedd, ond mae'r ffordd y datgelir yr hanes bob yn dipyn yn ddeheuig iawn. Wrth i un gyfrinach ddod i’r golwg, caiff cwestiwn arall ei ofyn, ac mae’n anodd gwybod pwy all Ruth ymddiried ynddo. Mae Ruth ei hun yn hollol gredadwy ac yn rhywun gall y darllenydd uniaethu â hi – yn llawn cymhlethdodau a wrthgyferbyniadau, ac mae’r prif gymeriadau eraill yn taro deuddeg hefyd. Mae’n amlwg fod Mared Lewis yn gyfarwydd â bechgyn yn eu harddegau yn y ffordd mae’n disgrifio’r boen wrth i’r cwlwm tyn sy’n bodoli rhwng mam a’i mab orfod llacio. Mae Cled yntau’n gymeriad crwn, sy’n bur siomedig â’i ran – ni chyflawnodd lawer yn ei fywyd, ac mae’n gorfod cowtowio i fisitors er mwyn dal dau ben llinyn ynghyd. A daw hynny at elfen ddifyrraf a mwyaf llwyddiannus y gwaith, sef y portread o bentref glan môr lle mae llawer o’r boblogaeth yn ddibynnol ar dwristiaeth. Mae’r darlun o Rosneigr yn codi cwestiynau sy’n berthnasol i bentrefi gwyliau ar hyd a lled Cymru. Gan fod y lle mor hardd a deniadol, mae pobl wedi bod yn dod yno ers dros ganrif, ac mae elfen Saesnig gref wedi meddiannu llawer o'r pentref. Mae pobl fel Ruth, sydd â hanes o ymgyrchu’n galed dros y Gymraeg, yn gorfod cyfaddawdu a bod yn gwrtais a chyfeillgar gyda nhw i wneud bywoliaeth. Mae Mared Lewis yn ysgrifennu’n gynnil a darllenadwy, ac mae’r nofel yn frith o ymadroddion ffwrdd â hi sydd yn adrodd cyfrolau, fel y ‘llenni-tena-neith-tro-i-dy-haf' sydd mewn cymaint o ffenestri. Mae teitl y gyfrol yn amwys hefyd – Min y Môr yw'r enw ar dŷ Ruth, sydd ar lan y môr, ond mae ystyr arall min – llafn neu wayw, hefyd ymhlyg yn yr enw. Nofel dda iawn i’w darllen dros yr haf – digon i'ch cydio, ond ddim yn rhy drwm.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819013378422,"sku":"9780860742791","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780860742791.jpg?v=1790347135","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/min-y-mor-9780860742791","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}