{"product_id":"mets-maesllan-cwn-achub-9781783900336","title":"Mêts Maesllan: Cŵn Achub","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma llyfr rhif un deg a phedwar yn y gyfres Mêts Maesllan. Mae'r gyfres yn dilyn hynt, helynt a diddordebau criw o ffrindiau 10 ac 11 oed sef Mim, Ben, Sam a Wil (a Bob y ci) sy'n byw ym mhentref Maesllan. Mae'r gyfres yn cynnwys pecyn o 32 o lyfrau trawsgwricwlaidd sy'n cynnwys rhai ffuglen, ffeithiol ac ambell un ar ffurf mydr ac odl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHere is book fourteen in the Mêts Maesllan series. The series follow the adventures and interests of a lively group of friends - Mim, Ben, Sam, Wil (and Bob the dog) who lives in Maesllan. The series includes a pack of 32 cross-curricular books that includes some fictional, some factual and some on the form of rhyme.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781783900336\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781783900336\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMêts Maesllan: Cŵn Achub\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClement, Bethan; Thomas, Marian; Ryder, Nanna\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£2.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-07-16\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCanolfan Peniarth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e17 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e147 × 208 mm; depth 3 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma gyfres o lyfrau i gynorthwyo plant yng Nghyfnod Allweddol 2 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli lythrennedd yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar gamau seinegol a phatrymau iaith sy'n seiliedig ar 'O Gam i Gam' (Griffith, diweddarwyd gan Tomos a Jones, 2009) a'r Ffynhonnel Eirfaol' (Hughes, 1978). Mae'r llyfrau yn lyfrau byr rhwng 16 a 28 tudalen i ddenu diddordeb y plant hynny sydd fel arfer yn amharod i ddarllen. Ceir gwefan arbennig, www.canolfanpeniarth.org\/metsmaesllan ar gyfer y gyfres sy'n cynnwys gweithgareddau digidol a phapur i gyd-fynd â phob llyfr er mwyn cadarnhau'r eirfa a'r patrymau iaith a gyflwynir. Mae'r llyfrau a'r gweithgareddau wedi eu graddoli ar 4 lefel er mwyn datblygu sgiliau darllen a phob un yn adeiladu ar y lefel flaenorol. Lefel 1 (glas) - 6 llyfr yn canolbwyntio ar eiriau cytsain\/llafariad\/cytsain; Geirfa Lefel 1: Cytseiniaid unigol; llafariaid byr; llafariaid hir; geiriau c-ll-c yn bennaf; geiriau allweddol:a'i, a'r, ei, i'r, i'w, mynd, o'r, wedi, y, yn, yna, yr. Treigladau Lefel 1: Ambell dreiglad meddal p-b, t-d, c0g, b-f, m-f; ambell dreiglad trwynol b-m, d-n; Cystrawen Lefel 1: Brawddegau byr, un cymal; ailadrodd cyson; cysylltair 'a'i gysylltu enwau e.e. Sam a Mim sillgoll 'r, 'n; amser presennol y ferf - dyma, mae, ydw, ydy\/yw, dydw, dydy, oes; gorchmynion syml - cod, cer Lefel 2 (gwyrdd) - 8 llyfr yn canolbwyntio ar lythrennau dwbl e.e. ff, ch, rh; Geirfa Lefel 2: Geiriau unsill gyda chytseiniaid clwm, e.e. dant, cefn, ofn; llythrennau dwbl - ch, dd, ll, th, rh, ng, ff, si, ph; geiriauamlsillafog - deusill yn bennaf. Treigladau Lefel 2: Treiglad meddal; treiglad trwynol; dechrau cyflwyno'r treigladau llaes. Cystrawen Lefel 2: Brawddegau cytbwys - dau gyma; defnydd o gysyllteiriau - a, ond; peth ailadrodd; amser amherffaith y ferf. Lefel 3 (oren) - 7 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o gytseiniaid Geirfa Lefel 3: Cytseiniaid Clwm; geiriau amlsillafog, e.e. aderyn, anifieiliaid, anhygoel Treigladau Lefel 3: Treiglad Llaes Cystrawen Lefel 3: Brawddegau hirach a chystrawen ychydig yn fwy cymhleth; ailadrodd patrymau llai cyfarwydd; ffurf gryno'r ferf yn yr amser gorffennol - 3ydd person yn bennaf, e.e. gwelodd, cafodd, clywodd; amser dyfodol - byddaf, bydd. Lefel 4 (coch) - 10 llyfr yn canolbwyntio ar gyfuniadau o lafariaid. Geirfa Lefel 4; Geirfa yn hytrach na thestun mwy heriol; llafariaid clwm, e.e. traed, dwylo, gwyn, Korea; dyblu 'n' a 'r'; geiriau lluosog gyda llafariaid clwm, e.e. ffeithiau, streipiau, mynyddoedd. Treigladau Lefel 4: Treiglo'n ehangach. Cystrawen Lefel 4: Brawddegau mwy cymhleth; defnydd helaeth o briod-ddulliau; ffurf gryno'r ferf yn y gorffennol, e.e. gwelais, rhedais; ffurf amhersonol gorffennol, e.e. darllenwyd, penderfynwyd; cymharu ansoddeiriau - y radd eithaf; rhedeg arddodiad. ******************************* Nod y pecyn: - hybu diddordeb mewn llyfrau a mwynhad wrth ddarllen; - cyflwyno adnoddau darllen sy'n apelio at fechgyn yn ogystal â merched; - cyflwyno'r plant i ddeunydd darllen sydd â diwyg diddorol a chyfoes; - datblygu sgiliau'r plant hynny sydd ag anawsterau dysgu penodol a'r rhai sy'n profi anawsterau cyffredinol wrth ddatblygu sgiliau darllen yng Nghyfnod Allweddol 2 yn bennaf; - cyflwyno rhai llyfrau sy'n addas ar gyfer brig y Cyfnod Sylfaen ac wrth bontio i Gynfod Allweddol 3 gan ddibynnu ar lefel sgiliau darllen yr unigolyn; - darparu amrwyiaeth o wahanol ffurfiau o destun gan ynnwys llyfrau ffeithiol sy'n ddefnyddiol ar gyfer pob disgybl yn y dosbarth oherwydd natur y testun; - darparu llyfrau a gweithgareddau i annog cwestiynu pellach gan oedolion er mwyn datblygu sgiliau meddwl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHere is a series of books to help children in Key Stage 2 who have specific learning difficulties in mastering literacy in Welsh. The series centre on phonetic and linguistic patterns based on 'O Gam i Gam' (Griffith, updated by Thomas and Jones, 2009) and Ffynhonnell Eirfaol (Hughes, 1978). The books are relatively short, between 16 and 28 pages, to attract the interest of those children who are usually reluctant to read. There is a special website for the the series; www.canolfanpeniarth.org\/metsmaesllan, which includes digital and paper activities to accompany each book to reinforce vocabulary and language patterns presented. The books and activities have been graded at 4 levels to develop reading skills and each one builds on the previous level.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819545530742,"sku":"9781783900336","price":2.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781783900336.jpg?v=1790351130","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/mets-maesllan-cwn-achub-9781783900336","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}