{"product_id":"mali-a-r-mor-stormus-9781912050123","title":"Mali a'r Môr Stormus","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Mali'n dihuno un bore i ganfod bod y tŷ yn wag. Aeth ei thad ar daith bysgota ond nid yw wedi dychwelyd. Mae Mali'n casglu ei thrysorau mwyaf gwerthfawr - loced, llun o'i thad a'i hoff ddol - ac yn mynd lawr i'r harbwr i'w cyflwyno yn rhodd i'r môr yn gyfnewid am fywyd ei thad. Stori am gariad, aberth a gobaith. Addasiad Cymraeg Mary Jones o Molly and the Stormy Sea .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMali wakes one morning to find her house empty. Her father has been out fishing in stormy seas and hasn't returned from his trip. She takes her most precious possessions down to the harbour; a brass locket containing twenty little cowrie shells, a photograph of her father and her beloved doll Isla to offer the sea in return for her father's safety. A tale of love, sacrifice and hope.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912050123\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912050123\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMali a'r Môr Stormus\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDoyle, Malachy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-06-12\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGraffeg\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Mary\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWhitsun, Andy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e36 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e250 × 250 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMalachy Doyle has over 100 children's books published by leading English, Welsh and Irish publishers, from picture books to teenage novels. His work has been translated into 27 languages and he is a previous winner of the Tir na n-Og Award (Georgie), the Nestle Children's Book Award (The Dancing Tiger), the English Association Award for Non-Fiction (Cow) and many other awards in the UK and USA.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHeb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau. Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub. Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser. Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan. Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821137400182,"sku":"9781912050123","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912050123_112fd093-b15c-4c5e-b701-40b87f6524e0.jpg?v=1790364769","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/mali-a-r-mor-stormus-9781912050123","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}