{"product_id":"llyfr-mawr-rwdlan-9781847717412","title":"Llyfr Mawr Rwdlan","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr anrheg i ddathlu pen-blwydd Cyfres Rwdlan yn 30 oed eleni. Cyfrol clawr caled yn cynnwys posau, lluniau i'w lliwio, ryseitiau, storïau newydd a gwybodaeth newydd am y cymeriadau o Wlad y Rwla. Addas ar gyfer plant 2-7 oed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA gift book to celebrate the 30th anniversary of the Rwdlan book series, comprising puzzles, pictures to colour, recipes, new stories and information about the popular characters of Gwlad y Rwla, for 2-7 year old children.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847717412\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847717412\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlyfr Mawr Rwdlan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTomos, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-11-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e80 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 297 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau Lliwio, Posau a Chwisiau (yn Gymraeg) | EN: Colouring Books, Puzzles and Quizzes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFor babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDathlu Pen-blwydd Rwdlan, y Wrach Fach Ddireidus Mae gwasg y Lolfa wedi cyhoeddi llyfr anrheg newydd sbon gan Angharad Tomos i ddathlu pen-blwydd Cyfres Rwdlan yn 30 oed eleni. Mae Llyfr MAWR Rwdlan yn gyfrol clawr caled ar ffurf annual , sy’n addas i blant 2 - 7oed. Mae’r llyfr yn cynnwys llond gwlad o bosau, lluniau i’w lliwio, ryseitiau, storïau a gwybodaeth newydd am gymeriadau Gwlad y Rwla. Lansiwyd y gyfrol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Lyfrau’r Morlan, a chynhaliwyd gweithdai i blant lleol gan Angharad Tomos ei hun yng nghwmni Rala Rwdins (Mair Tomos Ifans). Bu’r bardd Eurig Salisbury hefyd yn helpu criw o bobl ifanc i gyfansoddi cerdd arbennig i ddathlu pen-blwydd y dewiniaid, sydd i’w darllen isod. “Ym 1983 es i ddosbarth celf, a thynnu llun gwrach glen efo cath o’r enw Mursen - gelwais i hi yn Rala Rwdins,” eglura’r awdures boblogaidd, Angharad Tomos. “Awgrymodd yr athrawes y dylwn wneud ffrind iddi, a dyna sut y ganwyd Rwdlan, y wrach fach ddireidus, oedd yn seiliedig ar fy chwaer fach. Yr haf hwnnw, mewn carafán, daeth llawer mwy o gymeriadau i Wlad y Rwla. Haf prysur iawn oedd 1983! “Argraffodd y Lolfa'r llyfr cyntaf y flwyddyn honno, a bellach mae 16 o lyfrau yng Nghyfres Rwdlan. Buont yn ddrama ar y radio ac ar lwyfan, ac erbyn 1994 roeddent ar S4C. Erbyn 2003, roedd gen i hogyn fy hun, a hwnnw eisiau dysgu darllen. Dyna sut ddaeth cyfres Darllen Mewn Dim i fod.” Pen-blwydd Hapus, Rwdlan Am fod Cyfres Rwdlan yn dri deg oed, Dyma’r anrhegion gorau erioed – Fe rown ni’n bresant gwych i Rwdlan, Cacen siocled yn lle cawl rwdan. I’r Dewin Dwl, llond Morlan o fêl, A straighteners i’w wallt ar ei ben siâp pêl. Rhown fadarch blasus i’r Dewin Doeth, Telesgôp a chwpan o siocled poeth, Ac i Ceridwen, llond Llyfrgell Gen O lyfrau iymi i lenwi’i phen. Crochan newydd i Rala Rwdins, I ferwi cawl a chant o bwdins, A hyd yn oed Strempan caiff bibell ddŵr (O addo bod yn ferch dda, siŵr), Ac yn olaf, peidiwch anghofio, I’r Llipryn Llwyd, fe rown i’w gwtsho Dedi bach newydd i fynd i bob lle I’w gadw yn gynnes a’i gysuro fe. Diolch i chi i gyd am anrheg gampus, A nawr cawn weiddi ‘Pen-blwydd Hapus’!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820836098422,"sku":"9781847717412","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847717412_af22dec7-0922-44a2-aef1-a601788f85db.jpg?v=1790361117","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/llyfr-mawr-rwdlan-9781847717412","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}