{"product_id":"llyfr-gwyrdd-ystwyth-9781911584285","title":"Llyfr Gwyrdd Ystwyth","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol o farddoniaeth hirddisgwyliedig o gynnyrch mwyaf diweddar y bardd poblogaidd a'r ysgolhaig, Eurig Salisbury. Hon yw ei ail gyfrol o gerddi wedi iddo gyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Llyfr Glas Eurig , yn 2008.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA long-awaited collection of the latest poems penned by popular poet and scholar Eurig Salisbury. This is his second volume of poems for adults, following on from his first volume Llyfr Glas Eurig in 2008.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584285\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584285\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlyfr Gwyrdd Ystwyth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSalisbury, Eurig\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-05-13\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e112 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e133 × 183 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Eurig yn ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Yn fardd poblogaidd, mae'n cyfrannu'n gyson i nosweithiau barddol ac yn aelod o dîm Y Glêr ar raglen Y Talwrn. Mae hefyd yn cyd-gyflwyno podlediad Clera gyda'i gyfaill, Aneirin Karadog. Mae wedi cael cryn lwyddiant yn eisteddfodau'r gorffennol gan ddod yn agos iawn i ennill y Gadair ar sawl achlysur ac yn 2016 fe enillodd y Fedal Ryddiaith gyda'i nofel Cai . Mae hefyd yn arbenigwr ar y gynghanedd ac yn ymddiddori'n helaeth mewn barddoniaeth ganoloesol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCerddi cyhoeddus yw’r rhain sy’n deillio o’r berthynas rhwng pobl. Tystiant i gwlwm unigolion (cariadon, teulu, cyfeillion) a chwlwm cymdeithas (dathlu, marwnadu, coffáu a chystadlu). Rhwng y ddeupen annatod hyn cawn helaethrwydd o ganu bywiol sy’n dyrchafu ystwythder ein barddoniaeth a’i gallu i addasu ac ymnythu yn ein bywydau o hyd. Fel y gellid disgwyl, cwmpesir cyfoeth o destunau, ond nid digyswllt yw’r cerddi hyn, fodd bynnag; ymddengys themâu penodol yn rheolaidd, a llwydda’r bardd i gynnig ei sylwebaeth ei hun arnynt heb golli golwg ar yr y testun. Un o’r themâu hynny, wrth reswm, yw’r iaith Gymraeg, a thrwy hynny Gymru. Yn y moli mae’r amddiffyn. Amlygir hyn mewn cerddi megis yr englynion i ddathlu pen-blwydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn ddeg ar hugain (‘Y maes llên yw’r maes lluniaidd, \/ Ymchwil yw’r grym uwchlaw’r gwraidd’); y Gymraeg ym Margoed (‘Hon yw’r fro, rhain yw’r broydd \/ Sy’n pennu ffawd yfory’); dysgu’r iaith (‘Tyrd i flasu’r ddaear hon \/ Ar dy dafod newydd sbon’); a nifer o gerddi eraill, weithiau’n echblyg, weithiau’n ymhlyg. Dyma gorffori agwedd ddirfodol yn y canu mewn modd anymwthiol a chelfydd. Clymir cyd-destun wrth ddelwedd heb fod angen traethu. Ond un o’r pethau mwyaf diddorol am y gyfrol hon, ar wahân i’r cynganeddu medrus iawn, yw’r modd diymhongar yr ymdrwytha yn y traddodiad barddol, a’i gyflwyno ar wedd gyfoes. Enghraifft dda o hyn yw’r gerdd i’r cyflwynydd Iwan Griffiths, ac yn benodol, ei farf. Cawn ddychan coeth, geiriau cyfansawdd, a chadwyni delweddau afieithus: ‘Rhocyn y wên a’r can wot, \/ Wyt arch-wenwr trichanwot’; ac yn y man, ddiweddglo sydyn, brathog: ‘I’r farf fain rhof, ar f’enaid, \/ Unsill i gloi’r pennill – paid!’ Dyma ganu llyfn sy’n nes at ddelfryd dychan y Cywyddwyr. Mae yma ymwybod cryf â’r traddodiad, ond nid yw’n hynafol; dyma draddodiad yn ein hiaith heddiw, ar delerau heddiw; traddodiad sy’n newid i gyflawni anghenion yr oes. Caiff Aberystwyth le amlwg yn y gyfrol, ac mae gogwydd y bardd gwlad weithiau i’r cerddi amdani; ond eto, gwna’r bardd hyn ar ei delerau cyfoes ei hun, megis mewn cerdd i Aber-ddiblastig (‘... byddwn ryw dro’n \/ rhydd o iau’r pecynnau caeth, \/ rhydd o boen gorddibyniaeth’). Mae hefyd drwch o gerddi teimladwy ac urddasol, yn farwnadau, yn ddathliadau (‘Caf ddal yn dynn yn nwylo gwraig \/ Sy’n graig ym mrig yr eigion’), a cherddi rhyngwladol, llydan eu gorwelion. Dyma gerddi i’w datgan a’u cofio.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821131796854,"sku":"9781911584285","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584285_39fee98b-c51b-40a8-b5ee-8a7747258eb0.jpg?v=1790364603","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/llyfr-gwyrdd-ystwyth-9781911584285","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}