{"product_id":"lloerganiadau-9781784618735","title":"Lloerganiadau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTrysor o gyfrol o atgofion yr awdures amryddawn, Fflur Dafydd, a fu erioed yn syllu tuag at y lloer...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA treasury of memoirs by talented author, Fflur Dafydd, who has always been seeking stars...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784618735\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784618735\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLloerganiadau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDafydd, Fflur\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-11-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMerch o Landysul yw Fflur Dafydd. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, cyn ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia a PhD ar farddoniaeth R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Mae'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn awdur a chantores-gyfansoddwraig ar ei liwt ei hun.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHen air yn Shir Gâr am y lleuad yw’r ganaid, dyna air cain, un sy’n llawn canu. Ac mae cyfrol Fflur Dafydd yn llawn ceinder a chân hefyd – y lloer-ganiadau. Mae’r gyfrol delynegol, agos atoch hon yn un fydd yn sicr o swyno’r darllenydd. Mae’n gyfrol lawn hiwmor ac yn hynod feddylgar ar yr un pryd. Rhoddodd ei darllen hi bleser anferthol i fi. Alla i weld wyneb Fflur Dafydd yn wyneb y lloer yn y gyfrol. Yn wir, fe alla i weld fy wyneb fy hun yn y gyfrol loyw, arian byw, hon, ac fe wnewch chithau weld eich hun hefyd, wy’n addo. Ac o dan olau’r lleuad ry’n ni’n cael golwg ar bob wyneb o gylch y lloer drwy’r mis crwn. Ceir ysgrif fer, flasus am y gwahanol weddau ar y lloer cyn pob pennod – o’r lleuad newydd, y lleuad gilgant, hyd y lleuad lawn ac yn ôl – sy’n disgrifio’r lleuad ar ei thaith. Mae weithiau’n defnyddio gwyddoniaeth, weithiau farddoniaeth, i esbonio a darlunio’r berthynas hudol sydd rhyngom ni, ddynion y llawr, a’r lleuad, y llinyn arian sy’n ein clymu. Golwg ar ddarnau o fywyd Fflur a geir ymhob pennod, wedi’u cyflwyno i ni yng ngolau’r lloer. Ac o, maen nhw’n ysgrifau difyr i’w darllen. Y noson honno yr aeth hi a chriw bach o blant cynradd eraill allan adeg Calan Gaea a chael eu gadael yn ddiamddiffyn yng nghefn gwlad Ceredigion. Y cariad cyntaf. Teimladau cymhleth a lletchwith llencyndod. Y byw rhwng y ddau fyd wedi geni plentyn. Y noson pan gynhaliodd Fflur a’i brawd barti yn eu tŷ newydd pan oedd eu mam a’u tad oddi cartre, a drama’r canlyniadau erchyll. Mae’r straeon hyn i gyd yn ddarnau jig-so o fywyd yr awdur. Ac yn y bennod brydferth am sefyll ar fryn yng Ngheredigion rhywle tu fas i Dregaron gan aros i’r lleuad ymddangos, a hithau’n chwilio am ysbrydoliaeth ar drothwy ysgrifennu sioe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion na ddigwyddodd yn 2020, mae Fflur yn rhannu rhyfeddod deuoliaeth y ddaear â ni, ein bod ni bobol yn gawraidd o fawr ac eto’n bitw o fach a di-nod hefyd. Mae mwy, cymaint mwy yn y gyfrol hon. Hanes Silas Evans, y seryddwr diymhongar o Aberystwyth; Christa McAuliffe yr ofodwraig, ac atomau a golau’r ffurfafen. Planed o gyfrol yw hi, un sy’n pefrio arnom. Mynnwch gopi a’i darllen – mae tu hwnt i’r byd hwn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820061430134,"sku":"9781784618735","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784618735_e7094159-37af-4230-9630-3105d9f3609c.jpg?v=1790354338","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/lloerganiadau-9781784618735","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}