{"product_id":"llif-coch-awst-10-o-ganeuon-gwleidyddol-1979-2016-9781911584056","title":"Llif Coch Awst — 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi'r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA comprehensive collection of the poems of crowned and chaired bard Hywel Griffiths, comprising poems about Wales, its land and climate, its communities, history and myths.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584056\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584056\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlif Coch Awst — 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGriffiths, Hywel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.50\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.50\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-05-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDafydd, Elis; Tudur, Marged\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlif Coch Awst Fern Hill Lli ac Archan Mapio Cwm Elan Llifogydd Tyrfa Y daith i Orsedd y Cwmwl Gwylio Adar Argae Dymuniad ... Annibendod Dyfodol Y bluen eira Taflu Cerrig Addurno’r Goeden Atgof I Dylan Efyrnwy a Banwy 1914 Gair Gweithdy Dur Dic Gerallt Gwynfor Ynys Ffydd a phaent Clawdd terfyn Y gadair ddu Egin Y ferch sy’n byw ’da Padraig Pearse Gwanwyn yn Llangynog ‘Cofiwch Dryweryn’ Sêr Google Mars Dawns Wrth Sgwennu Dinasoedd Y lloerig Laitumkhrah Cyngor Teithio Y Gân Ogleddol Sut mae mynd i deml Tao Sgwâr St. Marko Ynghylch y tywydd drwg Mehefin 2016 Lens Disgwyl am y wawr Bore I fis Mehefin 2016 Trioedd Pwll y Tŵr I Dafydd Jones Hel arian papur Teilwyr Y map dwfn Croesi dros Gei Newydd Ebenezer I Osian Diymadferth Gwalia Deserta 2012 I Gareth ac Elin I Eurig a Rhiannon I Eurig yn 30 I Aran a Heledd Medi yn Aber Gwe\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO Sir Gaerfyrddin y daw Hywel Griffiths yn wreiddiol ond mae'n byw yng Ngheredigion ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Dîm y Glêr a Thîm y Deheubarth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015, a chyn hynny, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Cyhoeddodd flodeugerdd o ganu gwleidyddol, Byw Brwydr gyda Chyhoeddiadau Barddas yn 2014 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Banerog , gyda'r Lolfa yn 2009. Y mae hefyd wedi ysgrifennu nofel i bobl ifanc.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd byd natur. Mae’n arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang ar eu hôl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod a’r gro mân a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y canrifoedd sy’n lliwio’r cerddi. Fe’i magwyd ar fferm i’r gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn cyfoethogi’r gyfrol; dyma’i Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantre’r Gwaelod, gresynai fod cymaint o’n cyfoeth diwylliannol o dan y môr a’i donnau. O gofio hyn, mae’n anochel i’w flynyddoedd fel myfyriwr gydredeg â chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac mae’r achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i Osian, un o’i hymgyrchwyr diweddaraf. Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gyda’i wraig, Alaw, ac yno yn Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddi’r gyfrol hon. Yno y ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn i’r llifogydd difrifol daro’r pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan Hedd, ac mae i’r tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau. Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd â llif yr afonydd hyn drwy gronni’r dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Mae’r naturiaethwr a’r Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn – a Chwm Elan ac Efyrnwy hefyd. Ac yntau bellach wedi dychwelyd gyda’i deulu at lannau Rheidiol yn Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo sy’n mapio’i ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn afonydd Cymru yn ei gwmni.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821130649974,"sku":"9781911584056","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584056_1ba37195-c5bd-4022-ad4a-577c80099130.jpg?v=1790364545","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/llif-coch-awst-10-o-ganeuon-gwleidyddol-1979-2016-9781911584056","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}