{"product_id":"lladd-duw-9781847712820","title":"Lladd Duw","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch , Brithyll a Crawia . Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y mor ddychmygol. Mae'n ymdrin â chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, ceir digon o hiwmor ynddi hefyd. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2010.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis is Dewi Prysor's first novel since his successful trilogy, Madarch , Brithyll and Crawia . Lladd Duw is located in London and a fictional seaside town, and deals with the end of civilisation. A dark and serious novel, which, as one would expect from the author, also contains much humour. Reprint. First Published in 2010.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847712820\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847712820\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLladd Duw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePrysor, Dewi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£14.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£14.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-06-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e381 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e141 × 214 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDewi Prysor yn Lladd Duw mewn Nofel Dywyll a Chignoeth Lladd Duw yw teitl nofel ddiweddaraf Dewi Prysor a gyhoeddir yr wythnos hon. Creodd tair nofel gyntaf Dewi Prysor gynnwrf yn y byd llyfrau gyda’i bortreadai cignoeth o fywydau adar brith isfyd Gogledd Meirionydd. Mae Dewi Prysor yn newid cyfeiriad gyda’i nofel ddiweddaraf gyda chymeriadau a sefyllfaoedd hollol newydd ond yn parhau gyda’i blotio gafaelgar a’i sylwebaeth finiog ar faterion cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol. Y tro yma mae’r nofel wedi ei lleoli mewn tref lan môr ddychmygol yng Ngwynedd o’r enw Gilfach ac mae gangstyrs peryclaf dwyrain Ewrop am waed dau gymeriad, Jojo a Didi, sy’n gorfod dianc o Lundain am loches yno. Erbyn hyn mae Dewi Prysor wedi ennyn dilyniant mawr fel nofelydd gyda sawl un o’i nofelau yn cael eu hailargraffu. Yn ôl Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa, “Dyma un o lyfrau mwya cyffrous y flwyddyn. Mae Lladd Duw yn nofel ddewr ac yn llwyddo ar sawl lefel - mae’n stori afaelgar, yn llawn ffraethineb a difyrrwch, ac mae hefyd yn dangos awdur sy’n barod i drafod argyfyngau cyfoes yr ardaloedd Cymraeg mewn modd effeithiol – peth prin iawn y dyddiau yma... ” Dywedodd Llwyd Owen, “Dyma antur ar raddfa fawr gan un o awduron mwyaf cyffrous ein cenedl. Nofel llawn cymeriadau dwys a doniol a dau gymeriad canolog fydd yn ymdroi yn hir yn y cof.” Ychwanegodd Emlyn Gomer Roberts, “Chwip o nofel, gydag afiaith heintus yr awdur yn byrlymu trwyddi o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r cymeriadau yn argyhoeddi, ac yng nghanol berw can-milltir-yr-awr y plot gafaelgar ceir ambell ysbaid dawel o wir brydferthwch. Mae Prysor yn gwybod sut i ddweud stori, a’i deud hi’n dda.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820823449974,"sku":"9781847712820","price":14.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847712820.jpg?v=1790360958","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/lladd-duw-9781847712820","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}