{"product_id":"ifor-bach-9781848519879","title":"Ifor Bach","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBu gaeaf 1158 yn arw ym mhob ystyr. A'r eira'n drwch, mae'r gwalch glas yn chwilio am fwyd, ac mae dyfodol llys Gelli-gaer yn beryglus o fregus. A fydd Ifor yn llwyddo i amddiffyn ei gastell, ei bobl a'i deulu rhag y gelyn? A phwy yn union yw'r gelyn? Nofel am frad, am fygythiad ac am gwlwm teulu, sy'n ein hatgoffa bod y gwir i'w ganfod, yn aml, yn y mannau mwyaf annisgwyl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWinter 1158 was harsh in every meaning of the word. With snow falling heavily, the peregrine falcon searching for food, and the future of Gelli-gaer Court hanging by a thread. Will Ifor be able to protect his castle, his people and his family from their enemies? A novel of betrayal, of threat and of family ties, which reminds us that the truth is often found in unexpected places.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848519879\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848519879\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eIfor Bach\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSalisbury, Eurig\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-08-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Jac\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e228 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyffrous am ffigwr hanesyddol, Ifor ap Meurig, arglwydd Senghennydd (gŵr byr iawn a dewr iawn, yn ôl yr hanes) yw Ifor Bach gan Eurig Salisbury. Er bod y nofel yn seiliedig ar y briwsion o hanes a geir am y gŵr hwn yng nghronicl Brut y Tywysogion, sef hanes Cymru rhwng 682 ac 1282, a chofnod Gerallt Gymro, ffrwyth dychymyg byw yr awdur yw’r rhan fwyaf o’r stori. Fe’n tywysir ganddo i Gymru gythryblus y 12fed ganrif – cyfnod o frwydro gwyllt a gwaedlyd rhwng y Cymry a’r Normaniaid. Heb ddatgelu gormod, cawn yn y nofel hon hanes Ifor yn adennill mawredd Senghennydd. I’r sawl sydd, fel fi, yn anobeithiol am gofio enwau, mae’r awdur wedi darparu coeden achau ar ddechrau’r gyfrol sy’n dweud pwy sy’n perthyn i bwy. Yn ogystal, ceir gwybodaeth gyd-destunol hynod ddefnyddiol yng nghefn y gyfrol – gwybodaeth am Ifor Bach a’r cyfnod – sy’n cyfoethogi’r profiad darllen. Llwydda Eurig Salisbury i ddod â’r cyfnod yn fyw i’r darllenydd â’i bortreadau lliwgar a chrwn o ffigyrau hanesyddol. Er mai Ifor Bach yw arwr amlwg y stori, mae’r awdur yn rhoi llais i Nest, gwraig Ifor, a’i ferch, Gwenllïan, dau gymeriad benywaidd cryf ac arwresau urddasol sy’n herio syniadau’r batriarchaeth am safle cymdeithasol y ferch. Hawdd iawn yw ymgolli yn nisgrifiadau bywiog yr awdur o olygfeydd megis y wledd yng Ngelli-gaer, sef gwledd arbennig i ddewis pencerdd i lys Senghennydd. Cefais fy hun yn gwirioni ar enwau’r beirdd – Iocyn ap Tegeryn Foethus, Llosgwrn Llew a Pyll Hyll, er enghraifft – a’r disgrifiadau ohonynt yn cystadlu am y fraint o gael eu dyrchafu’n bencerdd. Er mor ddieithr, dirgel a phell mewn hanes yw Cymru’r 12fed ganrif i’r darllenydd, mae disgrifiadau’r awdur o’r beirdd yn canu mawl ac yn dychanu ei gilydd yn rhwym o’n hatgoffa o ddigwyddiadau barddol cyfoes fel Bragdy’r Beirdd. Disgrifir Ifor Bach fel nofel i blant a phobl ifanc, ond hyderaf y bydd pawb o bob oedran yn ei mwynhau. Drwy stori antur gyffrous, dysgais lawer am berthynas y Cymry a’r Normaniaid, y traddodiad barddol, y gymdeithas a’r drefn wleidyddol yng Nghymru’r 12fed ganrif ac, wrth gwrs, am Ifor Bach ei hun. Er mawr cywilydd imi, doeddwn i ddim yn gyfarwydd â hanes y gŵr hwn cyn darllen y nofel, ac er astudio yng Nghaerdydd am dair blynedd, ni roddais fawr o ystyriaeth i’r Ifor a roddodd ei enw i’r clwb nos adnabyddus ar Stryd Womanby. Y tro nesaf, felly, y clywaf myfyrwyr y ddinas yn galw Clwb Ifor Bach yn ‘Welsh Club’, byddaf yn cael fy nhemtio i adrodd hanes epig Ifor ap Meurig wrthynt!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820881383798,"sku":"9781848519879","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848519879_ae204c9a-c417-41db-93dd-9ea1ff9f9fda.jpg?v=1790361674","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ifor-bach-9781848519879","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}