{"product_id":"iddew-9781907424847","title":"Iddew","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel hynod o bwerus sy'n ein dwyn i ganol bywyd cythryblus Yeshua bar-Yôsep Natz'rat (Iesu fab Joseff o Nasareth), a'i daith i'r Groes. Meddai Dewi Prysor am y nofel wefreiddiol hon, 'Dyma nofel ysgubol ac eithriadol iawn; gwaith o athrylith sy'n gwthio ffuglen Gymraeg i dir newydd.'\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA powerful novel which hurls us headlong into the chaotic life of Yeshua bar-Yôsep Natz'rat (Jesus son of Joseph of Nazareth). The story of his journey to the Cross is a familiar one, but in this original and skilful book it's presented in a way which challenges that familiarity.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781907424847\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781907424847\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eIddew\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Dyfed\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-03-16\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e224 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMagwyd fi, chwedl yr hen ystrydeb, ‘ar fronnau’r ysgol Sul’. Dysgais yn gynnar ‘yr hen, hen hanes’. Darllenais yr hanes hwnnw wedyn yn yr Efengylau. Ond ni wnes erioed ei ddarllen fel hyn. Dyma, yn sicr, y nofel fwyaf grymus ac ysgytwol a ddarllenais ers tro. Mae’r hanes yma yn cychwyn gyda’r croeshoeliad cyn ailgychwyn gyda chenhadaeth Crist a’i wyrthiau. Dychwelwn at y croeshoeliad, ond nid dyna’r diwedd. Chwe blynedd yn ddiweddarach cawn Sha’ul (Saul\/Paul) yn ymdynghedu i barhau’r gwaith. Yr hyn sy'n eich taro gyntaf yw’r defnydd o enwau Iddewig am y bobl a'r lleoedd sydd mor gyfarwydd i ni. Cawn, er enghraifft, Nehar ha Yarden (Iorddonen), Nat’zrat (Nasareth), Yohannan Mamdana (Ioan Fedyddiwr) a Yeshua bar-Yosep (Iesu fab Joseff). Fe wnaeth yr awdur ddisgrifio’i nofel fel taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth. Ie, taith dyn. Mae hynny’n ddweud arwyddocaol. Gydol y daith honno cawn weld y ddeuoliaeth sydd hefyd yn gyfuniad o Grist y dyn a’r dyn sydd Grist. Ble mae’r ffin rhwng y ddau? A oes yna ffin? A drodd Yeshua’n Dduw erbyn diwedd ei daith ddaearol? Mae’r arddull drwyddi draw yn bwerus. Effeithiol iawn yw’r dull o ailadrodd geiriau a chymalau, yn arbennig felly yng ngolygfeydd y croeshoelio ar Gûlgatâ, ‘Lle’r benglog. Lle’r lladd’. Portreadir y croeshoeliad yn ei holl fryntni, yn ei holl artaith. Nid marwolaeth urddasol ac aruchel oedd croeshoeliad. Na, fe’i portreadir yma yn ei holl realiti hyll, yn fwy fel dehongliad Mel Gibson yn The Passion of the Christ nag un gan artistiaid fel Michelangelo a Fra Angelico. Holl fwriad croeshoelio i’r Rhufeiniaid oedd achosi cymaint o artaith ag yr oedd modd, gan barhau’r artaith honno gyhyd â phosibl. Mewn cyfnod newydd o wrth-Semitiaeth mae hon yn nofel hynod amserol. Mae’n ein hatgoffa – ac mae angen gwneud – mai Iddew oedd Crist ac mai Iddewon oedd ei ddilynwyr cyntaf. Rhyfedd fel y tueddwn i anghofio hynny. Wn i ddim a gaiff darllen Iddew effaith wahanol ar Gristnogion ac ar anffyddwyr. Fel un sy’n Gristion, fe wnaeth darllen y nofel gryfhau fy ffydd. Mae’n cadarnhau i mi eiriau’r emynydd Titus Lewis mai ‘Mawr yw Iesu yn ei berson \/ Mawr fel Duw a mawr fel dyn’. Cryfder pennaf y nofel yn y pen draw yw iddi beidio â phregethu. Nid yw’n ceisio’n perswadio y naill ffordd na’r llall. Dim ond dweud yr hen, hen stori mewn dull cwbl ysgytwol. A byddai’r Esgob William Morgan ei hun yn amenio’r arddull odidog.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821086413174,"sku":"9781907424847","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781907424847_d141b160-08b3-4171-8bb2-427ccb6d50da.jpg?v=1790363715","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/iddew-9781907424847","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}