{"product_id":"i-ble-r-aeth-haul-y-bore-9780862434359","title":"I Ble'r Aeth Haul y Bore?","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel hanesyddol gignoeth am ddioddefaint Indiaid y Navahos dan law y dyn gwyn yn ystod y Rhyfel Cartref yn yr Amerig yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf Tachwedd 1997.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA historical novel about the suffering of the Navaho Indians under the oppressive behaviour of the white man during the American Civil War in mid-nineteenth century. Reprint; first published in November 1997.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780862434359\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780862434359\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eI Ble'r Aeth Haul y Bore?\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWyn, Eirug\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-09-18\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e192 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e198 × 128 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Hanesyddol, Geltaidd ac Arthuraidd (yn Gymraeg) | EN: Historic, Celtic and Arthurian Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNôl yn y saith degau, pan oedd Cymru'n medru ennill mewn rygbi, fe gyfansoddodd Max Boyce gân am ffatri cynhyrchu maswyr. Yng Nghymru ar hyn o bryd mae yna ffatri cynhyrchu nofelau, ffatri un-dyn. Yr awdur diflino hwnnw yw Eirug Wyn sydd, mae'n rhaid, yn defnyddio galwyni o inc bob blwyddyn. Cymwynas fawr Eirug yw cynhyrchu cynifer o nofelau sy'n apelio at drwch y darllenwyr. Does neb yng Nghymru wedi gwneud cymaint i hyrwyddo'r nofel boblogaidd. Ar un olwg mae cynhyrchu nofelau poblogaidd yn ymddangos yn beth hawdd os mai eich syniad am nofel boblogaidd yw cynnyrch Mills and Boon. Yr hyn sy'n gwneud gwaith Eirug yn unigryw yw ei fod yn medru cynhyrchu nofel boblogaidd ar ôl nofel boblogaidd a hynny heb aberthu safonau llenyddol. Mae'r ffaith iddo ennill Gwobr Daniel Owen ynghyd ag ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn cadarnhau hynny. Nodwedd arall o'i waith yw ei ddychymyg anhygoel wrth iddo droi at wahanol feysydd. O nofel antur at nofel ar bêl-droed ac at, o bopeth, nofel ar Elvis. Y tro hwn, yn I Ble'r Aeth Haul y Bore trodd i fyd gorthrwm yr Indiaid brodorol yng Ngogledd America. Cymysgedd yw hon o ffaith a ffuglen, rhywbeth sy'n cael ei adnabod yn Saesneg fel 'faction'. Fe'i seiliwyd ar ymfudo ac alltudiaeth y Navaho o Geunant de Chelley i Fort Defiance ac yna i randir Bosque Redondo. Mae'n gosod ei destun yn effeithiol iawn gyda rhagarweiniad sy'n addasiad o hunangofiant Geronimo. Llwyddodd i greu naws bywyd yr Indiaid gyda'r brawddegau yn troin lluniau o flaen ein llygaid. Hwyrach fod ei waith teledu gyda Ffilmiau'r Bont yn ffactor yn ei ddawn ddarluniol. O hynny ymlaen cawn hanes gwarthus alltudio'r llwythi, hanes sy'n cynnwys rhai cymeriadau go-iawn fel Kit Carson, Manuelito, y Cadfridog Carleton a Geronimo ei hun. Gedy'r nofel flas chwerw wrth i ni sylweddoli nad oes dim wedi newid. Mae'r llywodraeth a alltudiodd yr Indiaid i drefedigaethau yn dal, ganrif a hanner yn ddiweddarach, i wneud yr un peth i bobloedd eraill mewn gwledydd ar draws y byd. A'r hyn sy'n gwneud y cyfan mor drist yw mai hanes cymharol ddiweddar yw hwn. Ym 1886, pan alltudiwyd yr holl Indiaid i wahanol drefedigaethau, fe gynhyrchodd Gottlieb Daimler ei gar modur cyntaf.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819023733110,"sku":"9780862434359","price":6.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780862434359_c60eb559-9165-4be7-a327-62cef18eb248.jpg?v=1790352982","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/i-ble-r-aeth-haul-y-bore-9780862434359","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}