{"product_id":"hoff-gerddi-serch-cymru-9781843230144","title":"Hoff Gerddi Serch Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad amrywiol o hoff gerddi serch y Cymry, yn cynnwys 73 o gerddi yn y mesurau caeth a rhydd yn rhychwantu wyth canrif, o'r 13eg ganrif hyd ddiwedd yr 20fed ganrif. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Mai 2002.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA diverse collection of the best-loved Welsh love poems, comprising 73 poems in free and strict metre encompassing a period from the 13th to the end of the 20th century. Reprint. First published in May 2002.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781843230144\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781843230144\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHoff Gerddi Serch Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-01-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMair, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e100 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e140 × 215 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDEWEY code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNational Library of Wales Dewey Code\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYdi, mae Robin yn swil, fel y cawn ein hatgoffa gan gerdd Talhaiarn yn y gyfrol hon, ond beth am ei gyd-Gymry? O'i chymharu âi rhagflaenydd, Hoff Gerddi Cymru  Gwerthwr gorau barddoniaeth Gymraeg yn ôl y blyrb  methwyd â threfnu cynnwys y flodeugerdd hon yn nhrefn ffafriaeth gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniodd sawl cerdd; y golygydd ei hun, Bethan Mair, a ddewisodd ambell un arall. A hynny yn nyddiau Tabŵ a Procar Poeth pan fo Cymry, hen ac ifanc, yn fodlon brolio ac arddangos eu campau rhywiol gerbron y genedl! Pwy felly yw Casanovar beirdd, ar sail tystiolaeth Hoff Gerddi Serch Cymru ? Wel, ac yntaun awdur pedair o blith y 73 o gerddi rhwng cloriaur gyfrol hon, Dafydd ap Gwilym syn hawlior llysenw hwnnw. Ei gywydd llatai ysblennydd ir wylan ynghyd â Rhieingerdd, telyneg John Morris-Jones, a Lleucu Llwyd, cân bop Dewi Pws, ywr teitlau a enwyd amlaf gan y rhai a enwebodd gerddi ar gyfer y llyfr. Maen gasgliad eclectig, felly: saif Fy Newis Riain Firain Deg gan Hywel ab Owain Gwynedd or drydedd ganrif ar ddeg gyferbyn â Ceidwad y Goleudy Emyr Huws Jones or ugeinfed ganrif; daw Myfanwy Fictoraidd o flaen dyfyniad o araith Llywelyn i Siwan o ddrama glasurol Saunders Lewis. Rhan or hwyl gyda blodeugerdd fel hon yw gweld i ba raddau y mae dyn yn cyd-fynd âr dewis a pha gerddi y byddai ef ei hun wediu cynnwys. Un on prif feirdd serch na chynrychiolir mohono fan hyn, a hynny am mai ysbrydol rhagor cnawdol ywr serch y maen canu amdano, yw William Williams, Pantycelyn: Rwyn edrych dros y bryniau pell \/ Amdanat bob yr awr; \/ Tyrd, fy Anwylyd, maen hwyrhau, \/ Am haul bron mynd i lawr ... Ond gan fod rhan o ddrama fydryddol arall ganddo wedii dyfynnu, mi fyddwn i wedi neilltuo cryn dipyn o ofod ar gyfer drama fwyaf nwydus yr iaith, sef Blodeuwedd Saunders Lewis: araith glo Blodeuwedd ar ddiwedd yr act gyntaf, er enghraifft, ei haraith yn yr ail act (Maen cyrff ni yn ddihysbydd...) a geiriau Llew Llaw Gyffes, Di ferch y blodau ... yn yr un act. Cerddi eraill y byddwn i wedi sicrhau lle ar eu cyfer  drwy fodloni ar ddetholiad yn unig o awdl Robin Llwyd ab Owain, dyweder, yn hytrach nai chynnwys yn ei chyfanrwydd  fyddai Concwest a Saesnes Siôn Eirian or dilyniant a enillodd iddo Goron 1978 ac un or cerddi serch salmaidd a enillodd i Meirion Evans y Goron y flwyddyn ganlynol; Telyneg Elin ap Hywel yn Pethau Brau ; o leiaf un o englynion T. Arfon Williams iw briod; a Llygad fy Nghariad Bobi Jones (Brown yw dolygon megis ffos ar agor ...) a fyddai wedi gwrthgyferbynnu â serch delfrydoledig Rhieingerdd Morris-Jones (Dau lygad disglair fel dwy em ...). Ond waeth heb â chodi pais: onid oedd gwahoddiad i minnau enwebu cerddi petawn i am ddal ar y cyfle? A chalon fawr goch yn sws glec ar ganol ei chlawr, gwnâir gyfrol anrheg pen-blwydd iawn ar gyfer cariad. Nid llyfr bwrdd coffi mohono  llyfr erchwyn gwely, efallai ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820583588214,"sku":"9781843230144","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781843230144_3a552f2b-3763-439e-a312-7ef6be5d2b02.jpg?v=1790358396","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/hoff-gerddi-serch-cymru-9781843230144","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}