{"product_id":"hen-ieithoedd-diflanedig-9781911584209","title":"Hen Ieithoedd Diflanedig","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfres o ugain cerdd wedi eu cyflwyno i siaradwyr olaf gwahanol ieithoedd ar draws y byd. Trwy gyfrwng dychymyg y bardd clywir lleisiau'r siaradwyr hyn unwaith eto ac, yn ddyfeisgar, eu safbwyntiau dychmygol tuag at eu hieithoedd diflanedig.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA volume of poetry by Mihangel Morgan comprising a series of twenty poems which look at various languages that face extinction. The subject of each poem is the alleged last speaker of each minority language. Through the poet's imagination, we hear the voice of the peoples facing losing their indigenous languages and their standpoint towards each disappearing language.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584209\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584209\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHen Ieithoedd Diflanedig\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorgan, Mihangel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-09-24\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e64 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e133 × 183 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRhagair Dolly Pentreath (Cernyweg) Tef-ffic Esens (Ubych) Ishi (Yana) Roscinda Nolasquez (Cupeno) Tuone Udaina (Dalmatieg) Fidelia Fielding (Mohegan-Pequot) Armand Lunel (Shuadit) Marie Smith Jones (Eyac) Asgwrn y Gynnen (Ayapaneco\/Nuumte Oote) Big Bill Neidjie (Gaagudju) Viktors Bertholds (Lifonaeg) Shanawdithit (Beothuc) Walter Sutherland (Norn) William Rozario (Cochin indo-Portiwgaeg Creol) Eleanor Karran (Manaweg) Tommy Leece (Manaweg) Harry Boyde (Manaweg) John Kneen (Manaweg) Sage Kinvig (Manaweg) Ned Maddrell (Manaweg)\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Mihangel Morgan yn ysgolhaig, yn llenor ac fardd adnabyddus. Wedi cyfnod fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, mae bellach yn byw yn Aberdâr. Cyhoeddodd gasgliadau o farddoniaeth ar ddechrau ei yrfa lenyddol, sef Diflaniad Fy Fi yn 1988 a Beth yw Rhif Ffôn Duw? yn 1991. Rhyddiaith – nofelau a straeon byrion – fu ei brif gyfrwng wedi hynny, ond fe ddychwelodd at farddoniaeth rai blynyddoedd yn ôl gyda chyfrol ddigri i blant, Creision Hud , yn 2001 a’r gyfrol ddychanol Digon o Fwydod yn 2005. Mae Hen Ieithoedd Diflanedig yn gyfrol newydd sbon o farddoniaeth sy’n archwilio pwnc trist a brawychus, sef tynged gwahanol ieithoedd lleafrifol ar draws y byd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMewn cyfnod pan fo bywyd yn teimlo'n fwy brau ac ansicr nag erioed, a seiliau a gwerthoedd gwladwriaethau a llywodraethau fel pe baen nhw'n cael eu troi ben ucha'n isaf, efallai nad yw'n syndod mai testun pedwaredd gyfrol o gerddi Mihangel Morgan yw ieithoedd lleiafrifol a'u gafael bregus hwythau ar fywyd. I gyfleu ei neges, defnyddia 'leisiau' yr unigolion hynny oedd y rhai olaf i yngan geiriau'r amrywiol ieithoedd dan sylw, gan gynnwys yr Ubych a siaredid yn Nhwrci, a'r Norn, iaith Ogledd-Almaenig a siaredid ar ynysoedd Orkney a Shetland. A chynhwysir hefyd gylch o gerddi am y Fanaweg ar ddiwedd y gyfrol, gan ddefnyddio 'lleisiau' unigol penodol. Er iddo gydnabod fod y Fanaweg, fel Cernyweg, wedi profi rhywfaint o adfywiad yn ddiweddar, mae'r bardd yn cyfiawnhau eu cynnwys yn y gyfrol gan na fu'r iaith yn un 'draddodiadol gymunedol' yr ynys ers saithdegau'r ganrif ddiwethaf. Wrth gyflwyno'r cylch o gerddi dywed mai ffrwyth dychymyg ydynt i raddau helaeth ac nad yw ei wybodaeth am yr ynys yn un fanwl iawn. Felly hefyd yn ei ragair, mae'n onest, agored wrth gyfaddef mai 'ychydig o ymchwil' a wnaeth i'r unigolion y rhoddodd lais iddynt – cyfaddefiadau dadleuol, o bosib, a allai arwain rhai i'w gyhuddo o ddiogi. Ond penderfyniad bwriadol fu hyn ar ei ran, meddai; defnyddiodd ambell fanylyn am yr unigolion hyn yn sbardun i'w ddychymyg hedfan. Er mai trafod diflaniad ieithoedd y mae'r bardd, pwnc allai esgor ar gerddi dwys a thrymaidd, mae naws ymgomiol, anffurfiol i nifer ohonynt a thinc ac idiom y Gymraeg fyw yn gwau drwy'r cyfan. Yn wir, dywed y bardd yn ei ragair mai'r Gymraeg a'i sefyllfa hi oedd ar ei feddwl wrth lunio'r cerddi. A'r Gymraeg ddaeth i'm meddwl yn syth wrth ddarllen 'Asgwrn y Gynnen', er ei bod yn trafod iaith leiafrifol a ddiflannodd o Fecsico. Yma, cyfleir y tyndra rhwng y 'purydd' sy'n mynnu dal gafael ar ffurfiau traddodiadol yr iaith a'r 'rhyddfrydwr' sy'n fodlon llacio fymryn ar y ffrwynau er mwyn parhad a datblygiad yr iaith. '... dyw e ddim yn dweud \"cyfarfod\" \/ Ond \"cwarfod\", \/ Ac mae'n mynnu dweud \"gafrod\" \/ Yn lle \"geifr\". Swnio'n gyfarwydd? Allwn i ddim peidio â meddwl chwaith am waith hanfodol Sain Ffagan yn cofnodi amrywiol dafodieithoedd Cymru ar dâp ar hyd y blynyddoedd wrth ddarllen y llinellau hyn yn y gerdd 'Ned Maddrell': 'Nid mewn ogof y sibrydodd ei gyfrinach \/ Eithr i glust blastig rhyw declyn o drobwll \/ Ac wrth un o'r newydd-ddyfodiaid, dieithryn \/ A gasglai hen eiriau fel cregyn traeth...' Arhosodd pennill olaf iasol 'Tef-ffic Esens' gyda mi hefyd: 'Crwydraf o neuadd i neuadd \/ Drwy balas ysblennydd fy ngramadeg \/ Heb gwrdd â neb.' Dwyster? Oes, yn naturiol, ond gwelwn fflachiadau o ddireidi nodweddiadol yr awdur yma a thraw hefyd, ac mae cyffyrddiad ysgafn, cyson y dylunydd Olwen Fowler yn llinyn arian sy'n ychwanegu at undod y gyfrol ac yn wrthbwynt i ambell wirionedd sy'n anghyfforddus i'w dreulio.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821131370870,"sku":"9781911584209","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584209_112d33ef-86d8-4526-b33b-17a157751734.jpg?v=1790364586","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/hen-ieithoedd-diflanedig-9781911584209","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}