{"product_id":"hen-chwedlau-newydd-9781913996314","title":"Hen Chwedlau Newydd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol o straeon byrion sy'n codi cymeriadau cyfarwydd o'u byd chwedlonol, a'u taflu i mewn i'n byd ni heddiw. Mae'n syndod mor berthnasol yw profiadau cymeriadau fel Blodeuwedd, Melangell a Dwynwen i'n profiadau ni. Straeon trawiadol gan awduron profiadol, dychmygus: Angharad Tomos, Bethan Gwanas, Gareth Evans-Jones, Manon Steffan Ros, Lleucu Roberts, Seran Dolma a Heiddwen Tomos.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA volume of short stories by some of Wales' most experienced and imaginative writers. Characters of familiar myths and legends are thown into our modern world. It's surprising how relevant their experiences are to our lives today. Striking stories by Angharad Tomos, Bethan Gwanas, Gareth Evans-Jones, Manon Steffan Ros, Seran Dolma and Heiddwen Tomos.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781913996314\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781913996314\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHen Chwedlau Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTomos, Angharad; Gwanas, Bethan; Evans-Jones, Gareth; Roberts, Lleucu; Ros, Manon Steffan; Dolma, Seran; Tomos, Heiddwen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-09-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e160 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 216 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRydym yn meddwl ein bod yn gyfarwydd â chwedlau epig ein gwlad a’u cymeriadau hudolus, ond mae dwy ochr i bob stori. Mae’r gyfrol hon yn ein herio i feddwl ddwywaith am y straeon yr ydym i gyd mor gyfarwydd â nhw. Yn rhy aml o lawer mae llais a phrofiad y ferch yn ein chwedlau a’n straeon yn cael ei anwybyddu, a gan bod natur ein straeon cynhenid yn dibynnu ar eu hadrodd ar lafar, mae’n debygol iawn mai dynion fyddai wedi gwneud hynny, ac o ganlyniad dim ond un fersiwn o’r stori rydym wedi ei glywed. Yn y gyfrol hon y merched sy’n hawlio’r llwyfan. Nid ydynt yn cael eu dyrchafu i uchelfannau afrealistig, fel mae rhai o’r dynion yn y Mabinogion – noder nad Culhwch gyflawnodd holl dasgau Ysbaddaden Bencawr i ennill serch Olwen, a ni all holl ddoniau Gwydion wneud i Flodeuwedd garu Lleu Llaw Gyffes, druan. Na, mae’r merched hyn yn berffaith ac amherffaith, yn gryf ac yn fregus, yn ansicr ac yn ddewr. Merched y gallwn uniaethu â nhw. Mae yma amrywiaeth o straeon, a’r awduron wedi llwyddo i gysylltu’r gorffennol a’r presennol yn gelfydd drwy roi blas heddiw ar brofiadau’r cymeriadau. Drwy gymeriad Melangell rydym yn wynebu’r argyfwng amgylcheddol enbyd a’r bobl ifanc sy’n ceisio achub y sefyllfa cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Wrth fynd o dan groen Arianrhod down i ddeall yn well pam adawodd hi Lleu, ei mab, yng ngofal ei brawd Gwydion. Mae Nyfain yn santes i ddioddef alcoholiaeth a thymer ei gŵr, ond pa mor bell yr aiff i warchod ei hefeilliaid bach – ac enw da ei gŵr creulon. Pan rydym ni, fel Dwynwen, yn syrthio mewn cariad â Mael mae ein stumogau’n disgyn pan sylweddolwn yr hyn sydd o fewn ei allu. Yn union fel yr hen chwedlau, mae merched y straeon hyn yn mynd drwy’r felin hefyd. Yn y saith stori mae’r saith awdur wedi tyrchu’n ddwfn i brofiadau bywyd y merched arallfydol yma a’u trawsnewid i fod yn gymeriadau credadwy o gig a gwaed. Erbyn cyrraedd y tudalennau olaf bydd y fersiwn newydd o’r merched chwedlonol hyn yn siŵr o aros efo chi am amser hir.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821244486006,"sku":"9781913996314","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781913996314_9829cc09-7768-4610-bdfa-270a5bdf1b79.jpg?v=1790366364","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/hen-chwedlau-newydd-9781913996314","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}