{"product_id":"hela-9781800991026","title":"Hela","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel am gyfeillgarwch, rhagrith a chymuned yw Hela . Ceir hanes criw o ffrindiau - Callum, Babo, Jac Do a Saim Bach - sy'n gorfod tyfu i fyny'n gyflym iawn wrth i'r gymuned, ei phobl a phob dim sy'n gyfarwydd iddynt gael eu chwalu'n yfflon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel about friendship, deception and community. We follow a group of friends - Callum, Babo, Jac Do and Saim Bach - who have to learn to grow up quickly as their community, its people and all that is familiar to them shatter.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800991026\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800991026\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHela\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHughes, Aled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-09-13\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e224 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e131 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eUn o Ben Llýn yw Aled yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Sir Fôn. Bu’n gweithio fel gohebydd newyddion, cyn cyflwyno ei raglen foreol ei hun ar Radio Cymru o fore Llun i Iau. Mae wedi cyflwyno ar y teledu hefyd, ar raglenni fel Rhannu a Waliau’n Siarad . Hela yw ei nofel gyntaf.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePentre bach ar arfordir gogledd-orllewin Cymru yw Porth Milgi. Y math o le sy’n hudo ymwelwyr haf. Ond rhyw ‘dwll din byd’ ydi o i rai o’r trigolion sy’n byw yno’n barhaol. Un o’r rhai sy’n ysu am ddianc o’r lle yw’r bachgen ysgol, Callum. Mae o wedi byw yno, ar stad Cae Gwyn, ar hyd ei oes efo’i fam a Carl ei frawd iau. Yr hyn sy’n gwneud bywyd yn oddefol iddo yw cwmni ei ffrindiau Bobo, Jac-Do a Saim Bach. Pan ddarganfyddir corff Branwen Williams, merch sydd wedi bod ar goll ers bron i ugain mlynedd, mae bywydau’r bechgyn, a phawb arall yn y gymuned, yn cael ei droi ben i waered. Ar hap, bron, mae’r bechgyn yn cael eu hunain yng nghanol yr helynt ac yn ymdrybaeddu mewn byd o lygredd, twyll a rhagrith. Mae yma enghreifftiau o gam drin merched ifanc, gwyrdroi cwrs cyfiawnder, hunanladdiad ac arestio ar gam. Buan y down i ddeall na ellir ymddiried yn y sawl sydd mewn awdurdod, boed blismon, athro neu weinidog yr efengyl. Mae’r cyfan yn gwneud i fân bechodau Callum (megis dwyn pres casgliad o’r capel) ymddangos yn hynod ddiniwed. Y pedwar bachgen (yn hytrach na’r heddlu) sydd yn datrys y dirgelwch yn y diwedd, a hynny mewn modd digon dyfeisgar. Ond fe ddatgelir llawer o wirioneddau anghyfforddus ac anghynnes am y gymdeithas cyn i hynny ddigwydd. Synhwyraf fod y wasg yn marchnata Hela fel nofel i oedolion, ac nid oes dim o’i le ar hynny. Ond fe gredaf fod yna ddadl gref iawn dros dargedu cynulleidfa iau, yn arbennig bechgyn yn eu harddegau (rhai nad ydynt dros y blynyddoedd wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn darllen llyfrau Cymraeg). Tybed ai’r nofel hon yw’r eithriad? Nid yn unig mae rhai o’r pynciau a drafodir yn ymwneud â bywydau pobl ifanc heddiw, ond mae cymeriadau fel Callum, Bobo, Jac-Do a Saim Bach yn siŵr o apelio atynt. Rhaid dweud bod yma stori wirioneddol afaelgar. Mae Aled Hughes eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun fel darlledwr. Fe fydd bellach yn ennill bri fel awdur hefyd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820269834614,"sku":"9781800991026","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800991026_10407204-aa9b-44a4-9f15-a63b835d582c.jpg?v=1790355012","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/hela-9781800991026","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}