{"product_id":"hannah-jane-enillydd-gwobr-goffa-daniel-owen-2021-9781800990807","title":"Hannah-Jane: Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2021","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Hannah-Jane yn colli ei chof, ond mae ei thafod yn siarp fel rasel, fel y gŵyr Beth ei chymdoges yn iawn. Stori deuluol ddirdynnol fydd yn gwneud i chi ysu i droi'r tudalennau wrth geisio datrys y dirgelwch yng ngorffennol Hannah-Jane. Cyfrol arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen 2021.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHannah-Jane is losing her memory, but her tongue is as sharp as a razor, as Beth her neighbour knows well. The prizewinnning volume of the 2021 Daniel Owen Memorial Prize is a tense page-turner as we unravel the mystery in Hannah-Jane's life.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800990807\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800990807\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHannah-Jane: Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2021\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Lleucu\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-08-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e192 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e195 × 130 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePwy sydd ddim yn mwynhau stori dda? Ond sut, pendronais, yr oedd Lleucu Roberts, wrth feddwl am ofynion cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen – ‘nofel ... gyda llinyn storïol cryf’ – wedi gallu meddwl y basai llyfr am hen fenyw â dementia yn cynnig llinyn storïol cryf? Ond creu stori dda a wnaeth, ac mae hynny’n fesur o’i gallu cynhenid fel llenor. Wedi dweud hynny, rwy’n credu mai ei dawn i greu cymeriadau, yn hytrach na dyfeisgarwch cynllun y stori, a ddaeth â’r llwyddiant iddi. Yn fy marn fach i, roedd y ‘datgeliad’, pan ddaeth, am y rheswm am y berthynas anodd rhwng Hannah-Jane a’i merch wedi bod braidd yn amlwg ers nifer o benodau. Ond mae’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn cydio ynddoch o’r dechrau, ac rydych yn awyddus i droi’r tudalennau i weld beth sy’n digwydd iddynt. Hannah-Jane, ar gyrraedd ei naw deg oed ac â’i meddwl yn llithro’n ôl fwyfwy i flynyddoedd ei hieuenctid ac i fwrlwm cymdeithasol y ‘dre’ erstalwm, yw canolbwynt y nofel, ac mae ei myfyrdodau doniol-ddifrifol yn gampweithiau. Llwydda’r awdur yn feistrolgar i gyfleu datblygiad y dementia, o’r awgrym cynnil a geir yn y bennod gyntaf, wrth gyfeirio, er enghraifft, at ‘First Signs y Daily Post’ a chael trafferth i gofio enw’r wyres, er bod lluniau ohoni’n frith yn ei chartref, at y ffwndro cyn hir ynghylch ymhle mae ei merch yn byw ac ers pryd. Wrth i’r stori fynd rhagddi, daw ei dryswch yn fwyfwy amlwg. Erbyn i ni gwrdd â hi, hen ddynes biwis yw Hannah-Jane i bob golwg, sy’n melltithio’r rhai sydd fwyaf cymwynasgar tuag ati; ond mae’n fwy, yn llawer mwy, yn ddynes gymhleth a gwreiddiol ei mynegiant a’i phersonoliaeth. Buan y mae tristwch ei sefyllfa yn cyffwrdd â ni – ‘Ddim hyn ydw i. Dwi’n fwy na hyn.’ Ac er gwaethaf (neu oherwydd?) ei nodweddion Victor Meldrewaidd, mae Hannah-Jane yn fenyw y gallwn gydymdeimlo, a hyd yn oed uniaethu â hi. Felly hefyd y ddwy genhedlaeth nesaf yn y teulu – Susan neu Suzie, y ferch alluog a sensitif a ‘ffodd’ o’r dre a chreu cartref iddi hi a’i theulu yng Nghaergrawnt, a'i merch hithau. Pa mor wahanol ydy hi, mewn gwirionedd, i lawer iawn ohonom a adawodd ein hardaloedd genedigol i fynd i’r coleg ac i ddilyn gyrfa a magu teulu? Y gwahaniaeth, efallai, yw’r teimlad a gawn nad yw’r berthynas rhyngddi hi a’i mam yn cyd-fynd yn iawn â’r hyn a ddisgwyliem rhwng merch a’i mam. Dyma’r dirgelwch sy’n ganolog i’r stori. Mae’r berthynas rhwng Suzie a’i merch Ishi Mai, ar y llaw arall, yn un gynnes a goddefgar. Cymeriad pwysig arall yw Beth, y gymdoges ddelfrydol (neu Jen y sgript wreiddiol, yn ôl y Beirniadaethau; beryg bod Jen a Jane yn rhy debyg). Mae’n cadw llygad, yn cadw cwmni, yn cadw mewn cysylltiad â Susan y ferch, ac yn danfon neges o Asda, a hynny er gwaethaf mynych frathiadau mileinig o du’r Hannah-Jane rwystredig, sy’n ei chyhuddo o dan ei gwynt o drwyna a bod ar ôl ei phres! Beth yw’r un sydd hefyd yn poeni am y digartref ac yn ymgyrchu yn erbyn Brexit, gan beri rhwystredigaeth weithiau i’w chariad, Dafydd. Gallech ddweud bod hon yn nofel am rai o’r agweddau gorau a gwaethaf ar y natur ddynol, agweddau sy’n cael eu cynrychioli gan y gymdoges anhunanol, egwyddorol ar y naill law, a’r ‘pyrfyrt’ o ddiacon aflan a diegwyddor ar y llall. A hynny i’r graddau bod blas opera sebon arni. Ond mae’n llawer, llawer mwy na hynny ac yn ymgodymu â rhai o themâu oesol llenyddiaeth, megis i ba raddau rydym yn ein hadnabod ein hunain ac a yw hi wir yn bosibl adnabod pobl eraill yn iawn. ‘Does neb ar y ddaear yma’n deall ei gilydd’, fel y dywedodd Siwan yn nrama Saunders Lewis. Yn anorfod, roedd pen-draw i hanes Hannah-Jane, ond gadawyd y darllenydd yma’n awchu am ragor. Tybed a ellid bod wedi egluro mwy ar sut yn union y llwyddodd i ymdopi fel rhiant sengl? Faint o help a gafodd, er enghraifft, gan ei mam ei hun, a’i cefnogodd er gwaethaf y cywilydd a deimlai oherwydd bod ei merch yn fam ddibriod, y fam yr oedd Hannah-Jane yn galw arni o ganol dryswch ei henaint? A lwyddodd Hannah-Jane i ailafael yn ei gyrfa fel athrawes? Mae llawer o fylchau yn yr hanes sy’n awgrymu i mi y gellid bod wedi cael nofel 300+ yn hytrach na 191 o dudalennau. A oedd cyfyngiadau cystadlu yn gyfrifol am ddiffyg amser i ddatblygu cynllun y nofel yn llawn? Cewch flas ar y darllen. Cyn gorffen, dylwn grybwyll yr adrannau sy’n cyflwyno pob tymor yn y stori. Maent yn heriol ar y darlleniad cyntaf, ond ar ôl gorffen darllen y nofel, mae’n werth mynd yn ôl atynt a’u darllen yn uchel er mwyn synhwyro’r farddoniaeth. Mae’r olaf yn gerdd a saif yn ei hawl ei hun.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820262003062,"sku":"9781800990807","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800990807_c1f7d9ab-0ca0-4232-918e-314fae28d7d0.jpg?v=1790354998","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/hannah-jane-enillydd-gwobr-goffa-daniel-owen-2021-9781800990807","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}