{"product_id":"hanes-fy-hynodrwydd-9781915444875","title":"Hanes fy Hynodrwydd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFfordd ryfedd o ddatblygu cyfeillgarwch, efallai, yw archwilio adfeilion hen seilam Fictoraidd, ond mae Mo bob amser yn gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae cyfeillgarwch Mo ac Onyx yn gymorth i ddygymod â bywyd yn yr ysgol uwchradd, ond a fedran nhw ganfod ffordd i fod yn nhw eu hunain pan ymddengys fod y byd yn eu herbyn? Rhan o gynllun Rhyngom.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eExploring an abandoned Victorian asylum may seem like a weird way to develop a friendship, but Mo has always found that she does things a bit differently. Finding Onyx makes high school bearable, but can they ever find a way to be themselves when the world seems against them? Part of the Rhyngom Scheme.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781915444875\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781915444875\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHanes fy Hynodrwydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHeuch, Chloe\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-07-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Firefly Ltd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlwyd, Mared\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e296 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e150 × 200 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C171272\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae dechrau ysgol uwchradd yn her i unrhyw blentyn, ond trwy lygaid Miri ceir mewnwelediad i’r sialensau ychwanegol gall wynebu plentyn niwrowahanol. Yn ystod gwersi, caiff nodweddion awtistaidd fel stimio a rhannu gwybodaeth am ei diddordeb arbennig eu dehongli fel camymddygiad gan rai o’i athrawon, sy’n dewis anfon Miri o’r ystafell ddosbarth yn hytrach na chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arni fel disgybl gydag awtistiaeth. Diolch byth, mae teulu cefnogol Miri yn wrthbwynt cadarnhaol i anwybodaeth ei hathrawon, yn enwedig ei mam, sydd hefyd yn awtistaidd ac yn eiriolwr brwd dros ei merch. Newida profiad ysgol Miri am y gorau ar ôl iddi gwrdd â Carys (neu Onyx, fel mae’n well ganddi cael ei galw). Fel Miri, teimla Onyx yn wahanol i’w chyd-ddisgyblion, a hynny’n eu troi nhw’n destun sbort i hen “ffrindiau” Miri. Tyfa cyfeillgarwch agos rhwng y ddwy, ac ym mhen dim, dyma Miri wedi gwneud ffrind gorau sy’n ei charu hi am bwy ydy hi, a Miri yn dangos yr un parodrwydd i dderbyn a charu hynodrwydd Onyx. Yn anffodus, nid pawb sydd â meddwl mor agored. Cyhudda tad Onyx Miri o fod yn ddylanwad drwg, ac mae’r cymryd mesurau eithafol i gadw’r ddwy ar wahân. Yn fwy na hynny, gorfodwyd Onyx i fynychu rhyw fath o therapi trosi am nad yw'n ffitio delfryd ei thad o’r “ferch berffaith”, cipolwg sobreiddiol o’r gormes a’r camdriniaeth mae ieuenctid LHDT+ yn parhau i’w profi. Yn dilyn gwers Hanes, datblyga Miri obsesiwn gyda gwallgofdai Fictoraidd, yn enwedig ar ôl iddi ddysgu y byddai pobl gydag awtistiaeth yn cael eu hanfon yno. Mae ei chwilfrydedd yn arwain at antur i hen wallgofdy lleol gydag Onyx. Mae’r gwallgofdy’n gefnlun iasol gwych i’w helynt yn nhywyllwch y nos, yn enwedig ar noson Calan Gaeaf, ac mae hefyd yn ein hatgoffa o’r anghyfiawnder oedd yn wynebu’r rheini gyda salwch meddwl neu niwrowahaniaeth. Tra bod Miri ac Onyx yn byw mewn cyfnod a chymdeithas lawer fyw goddefgar o wahaniaethau unigol, mae’r sylwadau rhagfarnllyd a dderbynia’r ddwy yn yr ysgol am fod yn nhw eu hunain yn dangos bod yr un anwybodaeth Fictoraidd dal yn holl bresennol heddiw. Trwy adroddiad onest ac agored Miri, rhoddir llais i’r bobl ifanc sydd ar y cyrion, y rhai sy’n teimlo nad ydynt yn ffitio i mewn gyda’i chyfoedion. Ond gyda chefnogaeth ei ffrind gorau a’i theulu, dysga Miri fod dim byd o’i le â pheidio bod fel pawb arall; yn wir, daw hi ac Onyx nid yn unig i dderbyn eu hynodrwydd, ond i’w ddathlu.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821353111926,"sku":"9781915444875","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781915444875_a80dc4cd-43f8-4e5a-881a-6f17eb13508c.jpg?v=1790366950","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/hanes-fy-hynodrwydd-9781915444875","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}