{"product_id":"gwyrddach-camau-bach-at-fyw-n-ddiwastraff-a-diblastig-camau-bach-at-fyw-n-ddiwastraff-a-diblast-9781912173211","title":"Gwyrddach - Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig — Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr lliw deniadol sy'n cynnig cynghorion defnyddiol i'n harwain tuag at fyw bywyd llai gwastraffus.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA visually attractive book offering tips which lead us gently into living our lives with less waste, and less plastic.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173211\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173211\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwyrddach - Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig — Camau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCamau Bach at Fyw'n Ddiwastraff a Diblastig\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Mari Elin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-09-12\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e160 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e166 × 140 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Natur, Daearyddiaeth, Daeareg (yn Gymraeg) | EN: Nature Studies, Geography, Geology (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Yr Amgylchedd (yn Gymraeg) | EN: The Environment (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA oeddech chi’n gwybod y credir y bydd mwy o blastig yn ein moroedd na physgod erbyn 2050? Dyma un o’r ffeithiau hynod drawiadol yn nhudalennau cyntaf y llyfr hwn, sy’n ceisio ein hannog i ddefnyddio llai o blastig. Mae’r llyfr yn cychwyn gyda strategaethau y gallwn ni oll eu defnyddio, fel lleihau faint o sbwriel rydym ni’n ei gynhyrchu trwy fabwysiadu’r strategaeth ‘Gwrthod, Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu, Pydru’. Mae’r tips cyntaf yn rhai mwy amlwg, efallai, fel cyfnewid poteli dŵr plastig a chwpanau coffi am rai ailddefnyddadwy, a chyfnewid bagiau siopau plastig am rai ailddefnyddadwy, ond yn yr holl adrannau – ‘Cartref’, ‘Yn y Gegin’, ‘Iechyd a Harddwch’, ‘Ffasiwn’, ‘Dathlu’ ac ‘Arafu’ – mae yna awrymiadau gwreiddiol a diddorol sy'n gallu ein helpu ni oll i fyw yn fwy cynaliadwy. Mae yna gynghorion ar sut i newid eich cyflenwyr ynni i rai gwyrdd, sut i olchi ffenestri â blawd ŷd, sut i greu menyn a sos coch, a sut i wneud balm mefus cartref a siampŵ sych, ymhlith degau o gynghorion defnyddiol eraill. Mae yna adran ar sut i wneud paned o de diblastig, sut i greu gwesty gwenyn, a sut i wneud eich ceglyn ( mouthwash ) eich hun adref. Ceir gwybodaeth am sut i drwsio tyllau mewn dillad, sut i gynnal parti yn wyrddach, a sut i lapio anrhegion mewn ffabrig. Mae’r llyfr yn gorffen ag adran ar ‘Arafu’, sy’n cynnwys syniadau am sut i dreulio amser yn ymlacio mewn ffordd gynaliadwy, a sut i werthfawrogi amser yng nghwmni byd natur a phobl eraill. Dyma lyfr pwysig iawn. Mae’n llawn syniadau am sut gallwn ni oll wneud ychydig yn fwy er mwyn byw’n wyrddach. Mae’n llyfr sy’n addas i bobl sydd megis dechrau ceisio byw’n wyrddach, yn ogystal â'r rheiny sydd eisoes yn gwneud ymdrech fawr. Hyfryd yw gallu cael yr holl wybodaeth ddefnyddiol yma mewn un lle trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r llyfr hwn wir werth ei ddarllen. Ar ddechrau’r llyfr mae Mari Elin yn dweud y gallwn ni fel unigolion wneud 3 pheth i helpu sefyllfa’r blaned, sef addysgu’n hunain, rhannu’r neges, a newid rhywbeth. Mae’r llyfr yma’n addysgiadol iawn, ac yn llawn cynghorion am sut i newid ein ffyrdd i fod yn fwy cynaliadwy. Byddai rhoi’r llyfr hwn yn anrheg yn syniad gwych er mwyn rhannu’r neges am sut i fyw’n wyrddach.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821140873590,"sku":"9781912173211","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173211_4b608fa8-aa2f-4af3-8943-9c02a9a7ea1c.jpg?v=1790364901","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/gwyrddach-camau-bach-at-fyw-n-ddiwastraff-a-diblastig-camau-bach-at-fyw-n-ddiwastraff-a-diblast-9781912173211","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}