{"product_id":"gwyddoniadur-y-beibl-9781859947487","title":"Gwyddoniadur y Beibl","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAddasiad Cymraeg o The New Lion Encyclopedia of the Bible , sef cyfrol gynhwysfawr yn esbonio cefndir, prif themâu, digwyddiadau, cymeriadau a hanesion y Beibl, gyda mapiau a siartiau, diagramau a llinellau amser, cyfeiriadur a mynegai. 300 o luniau lliw.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA Welsh adaptation of The New Lion Encyclopedia of the Bible , being a comprehensive volume explaining the background, main themes, events, characters and stories of the Bible, with maps and charts, diagrams and time lines, directory and index. 300 colour illustrations.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781859947487\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781859947487\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwyddoniadur y Beibl\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBeaumont, Mike\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-10-08\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau'r Gair\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Olaf\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e224 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol liwgar a deniadol arall gan Gyhoeddiadau’r Gair. Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg dan y teitl The New Lion Bible Encyclopedia . Nid llyfr i’w ddarllen o glawr i glawr yw hwn, ond cyfeirlyfr i bori yma ac acw ynddo. I’r sawl sydd am ddarganfod mwy am y Beibl, ei gefndir a’i gynnwys, mae’r gyfrol hon yn adnodd rhagorol i ddysgu am bobloedd, teithiau, lleoliadau, digwyddiadau a dysgeidiaeth yr Ysgrythur. Mae’n ddarllenadwy iawn ac yn llawn lluniau, mapiau, siartiau a thablau i helpu’r darllenydd i ddeall y cefndir. Mae saith adran i’r llyfr: 'Creu’r Beibl', 'Stori’r Beibl', 'Gwlad y Beibl', 'Cenhedloedd y Beibl', 'Bywyd yn y Beibl', 'Crefydd yn y Beibl' a 'Canolbwynt y Beibl – Iesu'. Ym mhob adran mae nifer o wahanol bynciau neu themâu yn cael eu trafod. Yna ar ddiwedd y gyfrol ceir mynegai a chyfeiriadur sy’n ddefnyddiol dros ben, sef deg tudalen ar hugain, bron, o bytiau byrion ar wahanol bynciau, lleoedd a phobl. Mae gan lawer o bobl gwestiynau, amheuon a rhagfarnau wrth feddwl am y Beibl. Mae eraill, wrth feddwl am ei ddarllen, yn dweud nad ydynt yn gwybod ble mae dechrau, ac yn cael rhannau helaeth ohono'n anodd iawn i’w deall. Mae’r cyfeiriadau ynddo at arferion diwylliannol a chrefyddol sy’n ddieithr i ni yn y Gorllewin yn achosi dryswch. Bydd Gwyddoniadur y Beibl yn help mawr i unrhyw un sydd am ddarllen y Beibl a deall y cyd-destun a’r cefndir yn well. Gellid dadlau mai’r Beibl yw'r llyfr mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd erioed. Bydd Gwyddoniadur y Beibl yn help i bawb sy’n awyddus i’w ddeall yn well – disgyblion ysgol uwchradd, pobl mae cynnwys y Beibl yn bur ddieithr iddyn nhw a’r rhai hynny sy’n tybio eu bod eisoes yn gyfarwydd â’i neges oesol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820952719734,"sku":"9781859947487","price":19.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781859947487_8f50ee28-bf49-42a6-a184-2bda64c36b6d.jpg?v=1790362644","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/gwyddoniadur-y-beibl-9781859947487","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}