{"product_id":"gwirionedd-9781912173273","title":"Gwirionedd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel ysgubol sy'n cynnig golwg newydd ar un o ddigwyddiadau mawr bywyd - marwolaeth. Mae'n llawn dagrau, direidi a dathlu, ond yn bennaf oll, mae'n gorlifo â chariad.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel which will taken your breath away with its sensitivity and emotion. It presents a new perspective on one of life's big events - death.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173273\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173273\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwirionedd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eReynolds, Elinor Wyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-10-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e168 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e203 × 131 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel am golled yw Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds. Dilynwn daith y prif gymeriad drwy ei galar yn dilyn marwolaeth ei thad. O’r munudau olaf hyd at wasgaru’r llwch, rhannir y gyfrol yn dair rhan: 'Byw' sy'n trafod salwch a marwolaeth y tad, 'Marw', ei angladd a 'Byw Eto' sy’n ymdrin â’r golled. Plethir myfyrdodau ac atgofion gyda disgrifiadau real a gonest o geisio byw bywyd o ddydd i ddydd, gan ddygymod â cholli rhywun ar yr un pryd. Drwy ysgrifennu cain, agos atoch yn nhafodiaith Sir Gâr, llwydda Elinor Wyn Reynolds i gyfleu profiadau amrywiol a dirdynnol yn llawn. Yn wir, gallwn uniaethu’n llwyr gyda’i disgrifiadau a’i theimladau, yn arbennig wrth iddi ymgymryd â’r tasgau sy’n glwm â cholled o’r fath: y rheidrwydd i gofrestru’r farwolaeth yn swyddogol, cau cyfrifon banc, clirio’r tŷ. Ceir yma ddisgrifiadau ingol a hardd a lwydda i ddeffro atgofion a theimladau yr oeddwn wedi eu hanghofio’n llwyr. Ond nid nofel drom yw hon, er gwaethaf tristwch a dwyster y themâu a drafodir. Gan nad oes penodau fel y cyfryw, mae’r gwaith yn llifo’n ysgafn a rhwydd. Yn britho’r gyfrol hefyd mae yna hiwmor a chyffyrddiadau direidus annisgwyl, gan sicrhau nad yw’r nofel yn teimlo’n feichus a digalon. Does yna ddim gwrthdaro amlwg, tensiynau enbyd neu ddatgelu cyfrinachau mawr, annisgwyl. Drwy ganolbwyntio’n llwyr ar y profiadau bob dydd cyffredin – ond eto cwbl anghyffredin – sy’n glwm â cholli rhywun sy’n annwyl, ceir cyfle i archwilio galar a’i effaith yn llawn ar y prif gymeriad a’r teulu. Dyma nofel sydd, o ganlyniad, yn gorlifo â chariad a chynhesrwydd. Llwyddodd y gyfrol hon i’m hudo'n llwyr a hynny drwy ei disgrifiadau tyner a theimladwy a’i hysgrifennu hardd a chwareus. Mae Gwirionedd yn archwiliad llawn dyfnder o alar a cholled ond yn fwy na hynny, yn ddathliad addfwyn a llon o’r cariad sy’n clymu teulu ynghyd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821140939126,"sku":"9781912173273","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173273_ee595e94-f3e4-46ec-a983-576d515185b0.jpg?v=1790364906","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/gwirionedd-9781912173273","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}