{"product_id":"genod-gwych-a-merched-medrus-9781784617196","title":"Genod Gwych a Merched Medrus","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr am 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru sy'n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru. Ceir hanesion am: Amy Dillwyn, Betsi Cadwaladr, Kate Bosse-Griffiths, Hayley Gomez, Jade Jones, Frances Hoggan, Mair Russell-Jones, Eileen Beasley, Betty Campbell, Laura Ashley, Angharad Tomos, Tori James, Gwendoline a Margaret Davies. Llyfr deniadol, llawn hwyl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA book about 12 inspiring Welsh women from all walks of life and from all parts of Wales: Amy Dillwyn, Betsi Cadwaladr, Kate Bosse- Griffiths, Hayley Gomez, Jade Jones, Frances Hoggan, Mair Russell- Jones, Eileen Beasley, Betty Campbell, Laura Ashley, Angharad Tomo s, Tori James, Gwendoline a Margaret Davies. A visually appealing, fun-filled book, with puzzles and activities.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784617196\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784617196\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGenod Gwych a Merched Medrus\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones-Jackson, Medi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2023-10-12\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Dyfan; Gwyn, Telor\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e250 × 250 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes ac Enwogion (yn Gymraeg) | EN: History and Famous People (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma lyfr fydd at ddant pob merch fach gyda breuddwydion mawr! Casgliad o 12 o ferched o Gymru sydd yma, gan gynnwys Betsi Cadwaladr, Laura Ashley a Jade Jones, ac mae’r awdur wedi mynd ati i wneud yn siŵr bod rhywbeth yma at ddant pawb, boed hynny’n fathemateg, chwaraeon, ysgrifennu neu hyd yn oed astroffiseg! Ar dudalen ddwbl cawn hanes pob unigolyn, yn ogystal â dyfyniadau, ffeithiau ac ystadegau hwyliog. Mae’r straeon ysgafn yn cyflwyno sut wnaeth pob un ohonynt lwyddo i gyrraedd y brig, ac mae’r wybodaeth wedi ei chyflwyno mewn ffordd apelgar tu hwnt, gyda nifer o ffeithiau hurt bost sy’n mynd i aros yng nghof y darllenydd. Ar ddiwedd y llyfr, mae nifer o dasgau i annog y darllenwyr i ddatrys posau, bod yn greadigol a gosod heriau i’w hunain er mwyn iddyn nhw wireddu eu breuddwydion hefyd. Mae dwy dudalen yn arbennig i nodi sut rwyt ti am newid y byd yn y dyfodol – ffordd hyfryd i drafod amcanion a gobeithion gyda darllenwyr ifanc. Rhaid canmol y darlunydd Telor Gwyn am y lluniau sy’n dod â’r hanesion yn fyw, a’r dylunydd Dyfan Williams am y dyluniad bywiog a lliwgar. Mae pob tudalen yn llawn bywyd ac yn sicr o dynnu sylw, ac mae’r clawr trawiadol yn rhoi awgrym o’r amrywiaeth a’r cyffro rhwng y cloriau. Mae’r tudalennau blaen a chefn yn cynnwys llu o enwau merched ifanc Cymru – y genhedlaeth newydd o genod gwych a merched medrus – ac rwy’n edrych ymlaen yn barod i ddarllen eu hanesion nhw'n fuan, gan obeithio y bydd y llyfr hwn yn tanio a’u hysbrydoli. Mae’r gyfrol yn anrheg berffaith i blentyn ifanc, ac mae’n siŵr o fod yn ffefryn fydd yn cael ei dynnu o’r silff yn gyson.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820006117750,"sku":"9781784617196","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784617196_33828dad-e4b9-4e92-b9bc-e8775649b0e4.jpg?v=1790354217","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/genod-gwych-a-merched-medrus-9781784617196","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}