{"product_id":"geiriau-gorfoledd-a-galar-9781785620744","title":"Geiriau Gorfoledd a Galar","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad o ddarnau o lenyddiaeth, rhai wedi eu cyfansoddi'n wreiddiol yn Gymraeg, eraill wedi eu cyfieithu o ieithoedd eraill, yn arbennig ar gyfer yr achlysuron pwysig hynny ym mywydau pob un. Mae'r gyfrol yn cynnwys pytiau addas i'w darllen neu i'w rhoi mewn cerdyn adeg geni, priodi a marw.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn anthology of poems, some original Welsh compositions, and others translated from other languages. They are all linked to those momentous occasions in a lifetime - birth, marriage and death.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785620744\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785620744\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGeiriau Gorfoledd a Galar\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, D. Geraint\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-02-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e168 × 197 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBrodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, yw D. Geraint Lewis. Llyfrgellydd ydyw o ran ei alwedigaeth; gwnaeth gyfraniad enfawr i'n diwylliant yn ei fywyd proffesiynol ac fel aelod o rai o gyrff llywodraethol Cymru – yn arbennig felly Cyngor Llyfrau Cymru. Ers blynyddoedd, bu'n byw a gweithio yng Ngheredigion; mae ef a'i wraig Delyth yn byw yn Llangwyryfon ger Aberystwyth. Mae Geraint yn awdur toreithiog ac mae ei weithiau niferus yn cynnwys geiriaduron, llyfrau gramadeg a chasgliadau diddorol ac amrywiol sy'n torri tir newydd yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfrol o ganeuon gwerin, casgliad o garolau a llyfr o ffeithiau unigryw. Yn ogystal â bod yn llyfrbryf o ieithgi a chwilotwr o fri, y mae hefyd yn gerddor da ac yn ei amser hamdden bydd yn mwynhau canu'r corn Ffrengig.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTybed sawl gwaith y cawsoch chi drafferth dod o hyd i'r peth iawn i'w ddweud ar achlysur arbennig? Dyna brofiad pob un ohonom ar ryw adeg neu'i gilydd, mae’n siŵr: sut mae mynegi llawenydd ar adegau o orfoleddu, cydlawenhau a dathlu; a mynegi tristwch ar adegau o rannu gofid, galar ac ansicrwydd? Sut wedyn y mae cynnig gobaith a chysur ar adegau pan fydd angen annog eraill i ddal ati? Yn y casgliad unigryw hwn o farddoniaeth a rhyddiaith, mae modd dod o hyd i'r union air a'r union deimlad ar gyfer pob cam ar hyd siwrnai bywyd – 'o gri ein geni hyd ein holaf gŵyn'. Dyma gyfrol anhepgorol i rai sy'n cymryd rhan mewn achlysuron cyhoeddus – pan fydd galw ar rywun i ddweud gair doeth mewn bedydd, priodas neu angladd, mewn parti pen-blwydd arbennig neu ar adeg ymddeol. Mae yma hefyd ddigonedd o ddyfyniadau priodol i'w hysgrifennu ar gerdyn – geiriau o gadernid, o lawenydd ac o gysur ar gyfer holl droeon mawr bywyd. Ond cewch rhwng y cloriau hyn hefyd drysorau i dreulio orig dawel ar eich pen eich hun yn eu cwmni. Yn wir, unrhyw adeg y bydd arnoch angen gair yn ei bryd – boed ar achlysur mawr cyhoeddus neu mewn ennyd bersonol – dyma’r llyfr i chi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn anthology of poems, some original Welsh compositions, and others translated from other languages. They are all linked to those momentous occasions in a lifetime - birth, marriage and death. The selections in this volume are suitable for readings in a service, or as quotes to write in a card. Reprint; first published in May 2007.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820104421750,"sku":"9781785620744","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785620744_69771c5c-d4d6-42d7-9f93-5ae7e9cf950e.jpg?v=1790354455","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/geiriau-gorfoledd-a-galar-9781785620744","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}