{"product_id":"geiriadur-mor-mwy-mwyaf-gomer-9781848517684","title":"Geiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn y geiriadur lliw newydd hwn ar gyfer plant 7-8 oed ceir 1000 o ddiffiniadau a thua cant o luniau. Cyflwynir enwau (unigol a lluosog), ffurfiau cwmpasog cymharu ansoddeiriau a rhannau ymadrodd Cymraeg gan adeiladu ar gynnwys y geiriadur blaenorol, Geiriadur Pinc a Glas Gomer , ar gyfer plant 6-7 oed. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2014.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA picture-word dictionary for 7-8 year old children comprising 1000 definitions and 100 pictures for nouns (singular and plural) and adjective comparisons, which builds on the first title in the series, Geiriadur Pinc a Glas Gomer for 6-7 year old children. Reprint. First Published in 2014.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848517684\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848517684\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGeiriadur Mor, Mwy, Mwyaf Gomer\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, D. Geraint\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-10-24\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e68 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 297 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Gwyddoniaduron a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Encyclopaedias and Dictionaries (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBrodor o Ynys-y-bŵl, Morgannwg, yw D. Geraint Lewis ac mae ei ddiddordeb mewn iaith a gramadeg yn ddiarhebol ac yn heintus. Cyhoeddodd nifer o eiriaduron a llyfrau gramadeg ac hefyd casgliad o garolau, caneuon gwerin a llyfr o ffeithiau unigryw. Ef yw awdur Geiriadur Cynradd Gomer, Mewn Geiriau Eraill :Thesawrws i Blant a Geiriadur Gomer i’r Ifanc ac fel geiriadurwr o’r radd flaenaf, mae ganddo’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth sy’n sylfaen gadarn i gyfres o eiriaduron i blant.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYdych chi, fel fi, yn cywiro cenedl neu dreiglad eich plentyn hyd at syrffed? Wel, efallai mai dyma’r ateb i’r broblem – geiriadur newydd sbon gan yr arch-eiriadurwr D. Geraint Lewis. Mae Gwasg Gomer i’w chanmol yn fawr am ei geiriaduron ac yn ôl y cyflwyniad mae’r geiriadur hwn yn addas i blant 7–8 oed, ond mi fydden i'n dweud y byddai’n ddefnyddiol i blant hŷn na hynny er mwyn sicrhau fod cenedl pob enw'n gywir. Ceir rhyw fil o ddiffiniadau yn y geiriadur hwn, pob un wedi'i osod yn hynod glir ar y dudalen. Nodir ai benywaidd neu wrywaidd yw gair nid trwy ddefnyddio’r ffurfiau cymleth 'eg' neu 'eb' ond trwy nodi 'hwn', 'hon' neu 'hyn'. Mae’r diffiniad yn gymharol syml – am y gair 'botwm' dywedir 'darn bach crwn, caled, fel arfer, sy’n cau crys neu got'; nodir mae 'hwn' yw e ac mae 'botymau' yw'r ffurf luosog. Mae pob llythyren yn cael lliw gwahanol ar ymyl y ddalen ac yn ganllaw i nifer o’r geiriau mae lluniau addas. Cyflwynir y plant hefyd i ansoddeiriau (gan gynnwys graddau o’r ansoddair) ac i rifau megis ‘pedwar ar bymtheg’ a ‘pedair ar bymtheg’. Eglurir yn ogystal y gall y gair fod yn dreiglad os nad yw ar y dudalen y mae'r darllenydd ifanc yn disgwyl ei weld – er enghraifft, ar ddiwedd geiriau yn y llythyren ‘o’ nodir os nad yw’r gair dan sylw i'w weld yno, efallai ei fod yn dreiglad o air sy’n dechrau â’r llythyren G. Dyma eiriadur clawr caled hynod o ddefnyddiol yn y Gymru sydd ohoni – 68 tudalen lawn gwybodaeth am £7.99 a sylfaen dda i blant ifanc a’u rhieni.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820871684470,"sku":"9781848517684","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848517684_8438ad5f-b378-4d64-b808-0929a11384a0.jpg?v=1790361568","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/geiriadur-mor-mwy-mwyaf-gomer-9781848517684","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}