{"product_id":"gavi-9781912173396","title":"Gavi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSaga deuluol afaelgar gan un o'n prif lenorion. Mae'r gwin Eidalaidd, Gavi, yn llinyn cyswllt sy'n llifo rhwng cymeriadau'r nofel hon sy'n holi a ydym yn gwir adnabod y bobol agosaf atom?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn intriguing family saga by one of Wales' leading authors. Gavi, the Italian wine, links the characters who are all enquiring if we really know those people who are closest to us?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173396\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173396\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGavi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Sonia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-09-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e190 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 200 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae gan Sonia Edwards ddawn amheuthun wrth delynegu am straeon caru. Dyma sydd amlycaf yn Gavi – y cariad, a sut mae hwnnw’n bodoli law yn llaw â hapusrwydd. Yn ei chyffyrddiadau ysgafn o gymhariaethau a throsiadau, daw dogn o dynerwch i’r dweud ac o’r herwydd, mae’r cariad yn llewyrchu. Gwelwn hyn ar ei buraf ym mherthynas Lwsi a Llew, yn arbennig felly pan gawn wybod sut gyfarfu’r ddau. Cyfres o ddigwyddiadau yn canlyn ar hap a dywysodd y ddau at ei gilydd – y Butterfly Effect yn ysgwyd ei hudlath eto. Ond dydi pethau ddim yn fêl i gyd. Paru anghymharus yw bwrn trymaf y nofel hon, a chanlyniadau dybryd hynny ar fywydau pobl. At hyn, cyfyd themâu o atgasedd, twyll a dialedd, sy’n cynnig inni ddarlun gonest o ffaeledigrwydd dynol. Ond er eu beiau, mae medr yr awdur i ychwanegu edefyn hoffus i’w chymeriadau yn golygu iddynt lwyddo i dynnu ar dant cydymdeimladol tu mewn i’r darllenydd o bryd i’w gilydd hefyd. Ac maen nhw’n gymeriadau lliwgar. Mae yma gyferbyniad cytbwys o bersonoliaethau – y pwyllog a’r byrbwyll, y galon-feddal a’r cythreulig, yr un sy’n cadw wyneb a’r llall sy’n gwegian ar goedd. Ac yn taro ei gysgod dros bopeth, mae’r ‘“rhywbeth” solet, cynnes, anniffiniol hwnnw’ y mae’r cymeriadau oll yn deisyfu amdano – ‘rhywbeth’ tu hwnt i fyrhoedledd chwant a hapusrwydd dros dro. Mae’r awdur yn gelfydd o ymatalgar yn ei ffordd o ddadlennu’r cyfrinachau sy’n britho’r nofel, ac yn graff yn ei hymdriniaeth o’r cymhlethdod a ddaw yn sgil y dadlennu hwnnw. Rhaid canmol y naws a grëir o ganlyniad i hyn – mae popeth mor fregus nes inni deimlo y byddai un cam gwag gan gymeriad yn golygu distryw ym mywydau sawl un arall. Dyma a wna’r nofel mor afaelgar – mae’r cymeriadau yn cordeddu cymaint ym mywydau ei gilydd nes i’r darllenydd fedru synhwyro perygl ar droed yn gyson. Ond a wnaiff pob perygl gyrraedd ei benllanw? Erin Hughes\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821141234038,"sku":"9781912173396","price":9.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173396_1ba0ae9d-61aa-4116-ba65-d3ef0953c5bf.jpg?v=1790364920","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/gavi-9781912173396","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}