{"product_id":"gabriela-9781847716989","title":"Gabriela","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel seicolegol gyfoes gref am Gabriela, menyw ifanc drawiadol o Frasil sy'n dilyn ôl traed ei mam ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen. Dyma ddeunydd anarferol i nofel Gymraeg, ac mae'r stori'n afaelgar iawn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA powerful psychological novel about Gabriela, a striking young woman from Brazil who follows her mother's footsteps to Santiago de Compostela in Spain. A gripping story.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847716989\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847716989\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGabriela\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, John\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-10-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e208 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMagwyd John Roberts ar fferm ger Llangïan. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n dad i Mari, Lleucu ac Annes a thaid i Twm ac erbyn hyn mae’n briod â Sarah ac yn llystad i Gwen. Dyma nofel gyntaf yr awdur hwn o Aberystwyth, ond mae eisoes yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru sy’n trin a thrafod materion crefyddol yr wythnos.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCalon y nofel yw perthynas Gabriela â’i mam, sy’n cael ei ddarlunio mewn cyfres o ôl-fflachiadau byw. Ond ar ei thaith mae’n dod ar draws nifer o gymeriadau lliwgar, ac yn rhoi cip i ni o’u straeon personol difyr a dirdynnol. Mae tro annisgwyl wrth galon y nofel sy’n troi’r stori ar ei phen ac sy’n siŵr o blesio darllenwyr thrillers. Mae gan yr awdur ddawn i ddisgrifio’n effeithiol sy’n gosod y darllenydd ochr yn ochr â Gabriela ar ei thaith. Mae ei allu i greu naws ac awyrgylch yn gyrru’r darllenydd i droi tudalennau’r nofel hon wrth iddo gael ei sugno i’w chrombil tywyll. Daeth y nofel hon yn ail yng nghystadleuaeth Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2012. Cafodd ganmoliaeth uchel gan y tri beirniad. “Roedd y ganmoliaeth hael dderbyniodd Gabriela gan feirniad cystadleuaeth Daniel Owen flwyddyn ddiwethaf yn braf i’w glywed, ond mae gollwng y nofel i’w chyhoeddi wedi bod yn anodd,” eglurai John Roberts, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio yng Nghaerdydd. “Mae rhywun yn magu perthynas bersonol iawn gyda’i gymeriadau ac mae caniatau i eraill ddod i mewn i’r berthynas yn gallu bod yn chwithig.” “Merch ifanc drawiadol o Frasil yw Gabriela, ac mae’r nofel yn troi o amgylch ei pherthynas gyda’i mam,” esboniai’r awdur ymhellach. “Mae hi’n penderfynu dilyn ôl traed ei mam ar bererindod fawr i Santiago de Compostela yn Sbaen – taith a wnaeth ei mam cyn i Gabriela gael ei geni. “Ond, mae dirgelwch wrth wraidd y daith – dirgelwch a ddaw yn fwyfwy amlwg wrth i Gabriela gyfarfod gwahanol gymeriadau ar ei siwrne. Ar hyd y ffordd garegog mae hi’n mentro i dir tywyll iawn, ac mae yno dro annisgwyl wrth galon y nofel sy’n troi’r stori ar ei phen.” “Cefais fy hudo gan Gabriela,” meddai’r beirniad llên, Sioned Williams. “Dyma thriller seicolegol sy’n sugno’r darllenydd yn effeithiol i’w chrombil tywyll. Mae arddull a dawn ddisgrifiadol arbennig gan John Roberts ynghyd â gallu i greu naws ac i yrru’r darllenydd i droi’r dudalen.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820835311990,"sku":"9781847716989","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847716989.jpg?v=1790361103","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/gabriela-9781847716989","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}