{"product_id":"fy-nghariad-cyntaf-9781907424830","title":"Fy Nghariad Cyntaf","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae 12 o bobol ddewr wedi cael eu perswadio i ddatgelu cyfrinachau go bersonol, wrth hel atgofion am eu cariad cyntaf. Mae'r ysgrifau yn amrywiol ac yn ein tywys ar daith o atgofion difyr, gyda'r cariadon cyntaf yn amrywio o dedi bêr i Bryn Fôn!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePersonal and revealing writings about their first love from these 12 authors: Manon Steffan Ros, Lyn Ebenezer, Sonia Edwards, Ifana Savill, Eleri Llewelyn Morris, Bethan Gwanas, Tony Bianchi, Lleucu Fflur Jones, Ioan Kidd, Hywel Gwynfryn, Gaynor Davies, Eryl Crump.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781907424830\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781907424830\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFy Nghariad Cyntaf\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAmrywiol\/Various\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-12-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e112 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAwduron: Manon Steffan Ros, Lyn Ebenezer, Sonia Edwards, Ifana Savill, Eleri Llewelyn Morris, Bethan Gwanas, Tony Bianchi, Lleucu Fflur Jones, Ioan Kidd, Hywel Gwynfryn, Gaynor Davies, Eryl Crump.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWel, doeddwn i ddim wedi edrych ymlaen o gwbwl at ddarllen y llyfr hwn. Rhyw lanio wnaeth e acw, rywsut, ac mi oedd angen adolygiad. Mae straeon cariad cyntaf, fel arfer, yn hynod ddiflas – disgybl ysgol wedi gwirioni ar rywun ym Mlwyddyn Pedwar a dyna ddiwedd y stori, heblaw eu bod yn digwydd cwrdd eilwaith flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yn priodi. Felly dyma roi cynnig ar ddarllen rhai o'r straeon – a waw – dyma gael sioc o'r ochr orau. Nid wyf am ymhelaethu ar bob stori gan fod yma ddeuddeg i gyd gan awduron amrywiol iawn. A dweud y gwir, roeddwn i'n ffôl yn credu mai profiadau siwgrllyd plant ysgol gynradd a fyddai wedi cael eu mynegi yma. Na, mae pob math o 'gariad' yn cael ei drafod – un yn sôn am gariad at ddarllen, un arall am gariad at fwyd ac un arall am gariad at deithio, ac mae'r profiadau cynnar a fynegir yn yr atgofion yn hynod ddifyr. Atgofion dwy awdures aeth â'm bryd i yn bennaf, sef Eleri Llewelyn Morris a Bethan Gwanas. Mae atgofion Eleri am ei thedi Edmwnd Arthur yn wefreiddiol, a'r cofnodion amdani yn tyfu ac yn aeddfedu gyda'r tedi yn taro sawl tant. Hynod ddoniol yw atgofion Bethan Gwanas am ei chariad cyntaf yn yr ysgol uwchradd. Rwy'n meddwl i mi ffoli ar y stori hon am fy mod yn gallu uniaethu rhywfaint â hi – minnau, fel hithau, wedi cael fy magu mewn ardal wledig, heb fawr o syniad am ffasiwn, heb sôn am beth i'w wneud yng nghwmni bachgen! Ac os ydych yn teimlo'n isel mae'r stori hon yn donic. Fe fyddwch chi, a arferai fynychu gwersylloedd yr Urdd, hefyd yn hoff o atgof Ifana Savill ac o bosib yn rhannu profiad tebyg. Dyma gyfrol hynod ddifyr i godi calon ar ddiwrnod glawog. Bargen am wyth bunt namyn pum ceiniog!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821086347638,"sku":"9781907424830","price":3.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781907424830_5811a3e0-a38d-4414-83a1-200e53be79cf.jpg?v=1790363712","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/fy-nghariad-cyntaf-9781907424830","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}