{"product_id":"ffylantin-tw-9780907551232","title":"Ffylantin-Tw!","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad newydd cyffrous o ganeuon gwerin traddodiadol, i gyd wedi'u dethol o ffrwyth ymchwil Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Dyma brosiect arbennig i ddathlu cyfraniad Merêd a Phyllis i fyd y gân werin yng Nghymru. Cyhoeddir y caneuon mewn llyfr ac ar gryno-ddisg fel teyrnged i'r ddau gan brif artistiaid canu gwerin heddiw, gan droi hen berlau yn ganu byw unwaith eto.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn exciting new collection of traditional Welsh folk-songs, all selected from the research of Meredydd Evans and Phyllis Kinney. They are presented in book and CD format as a tribute to them both from today's leading Welsh folk artists, turning pearls from the past into living music once more.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780907551232\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780907551232\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFfylantin-Tw!\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSain, Cwmni Recordiau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£19.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-08-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCwmni Recordiau Sain\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBowen, Robin Huw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOther product form\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFformat cynnyrch arall\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e76 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh; English\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cerddoriaeth, Caneuon, Caneuon Poblogaidd (yn Gymraeg) | EN: Music and Songs (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Caneuon Gwerin (yn Gymraeg) | EN: Folk Songs (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e‘Ffylantin-tw!’ - casgliad newydd cyffrous o ganeuon gwerin traddodiadol, i gyd wedi’u dethol o ffrwyth ymchwil Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Dyma brosiect arbennig i ddathlu cyfraniad Merêd a Phyllis i fyd y gân werin yng Nghymru. Cyhoeddir y caneuon (y mwyafrif ohonynt am y tro cyntaf) nid yn unig mewn print, ond hefyd ar gryno-ddisg fel teyrnged i’r ddau gan brif artistiaid canu gwerin heddiw, gan droi hen berlau o’r gorffennol yn ganu byw unwaith eto, yn unol â gweledigaeth Merêd a Phyllis eu hunain.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eUn o’r pethau cyntaf y mae rhywun yn sylwi arno wrth gael cipolwg trwy’r llyfr trawiadol hwn yw’r amrywiaeth eang o ganeuon: o rai tymhorol a rhai serch i ganeuon hwyliog, ysgafn eu naws fel ‘Cân Twm y Sane’. Mae hyn yn adlewyrchu diddordeb ac yn deyrnged i waith y ddau sy’n cael eu hanrhydeddu yn y gyfrol hon. Mae’r trefniannau’n amrywiol hefyd: ambell un i driawd, rhai ar gyfer unawdwyr, a thrac 11, sef ‘Gwên Dando’ mewn dull o ganu penillion o’r 18fed ganrif, sy’n wahanol iawn i gerdd dant heddiw. Er bod y trefniannau wedi'u cofnodi’n glir, y CD sy’n dod â’r caneuon yn wirioneddol fyw, a bydd o gymorth mawr i unrhyw un sydd am berfformio, dehongli neu ddeall y gerddoriaeth. Wrth edrych trwy’r gyfrol, mae rhywun yn gweld ambell beth sy’n ymddangos yn gyfarwydd ar yr olwg gyntaf, ond sy’n dra gwahanol wrth edrych yn fanylach. Mae’r gân ‘Oes Gafr Eto’ yn debyg iawn i’r gân gyfarwydd ‘Cyfri’r Geifr’ o ran geiriau, ond bod yr alaw yn hollol wahanol, ac mae ‘Moel Emoel’ yn cynnwys geiriau hwyliog (ac ychydig llai parchus na’r rhai cyfarwydd) ar yr alaw enwog ‘Merch y Melinydd’. Yn ogystal, mae ambell gân yn perthyn i ddefodau cyfarwydd fel y Fari Lwyd a’r anterliwt, ac maent yn llawn hiwmor a hwyl. Mae’r CD yn dangos doniau nifer o gerddorion gwerin Cymru, yn gantorion ac yn offerynwyr, ac er ei bod ynghlwm â’r llyfr ni ddylid ei thrin fel adnodd i ddysgu’r caneuon yn unig. Mae’r trefniannau offerynnol godidog ar gyfer rhai o’r alawon arafach megis ‘Yr Wylan Gefnddu’ a ‘Hen Erddigan Morgannwg’ yn wych, yn gosod y naws ac yn llwyddo i gyfleu’r geiriau trwy sain yr alawon. Yn y bôn, credaf fod gan y llyfr hwn rywbeth i’w gynnig i bawb, yn gantorion gwerin profiadol, dechreuwyr pur neu’r rhai sy’n ymddiddori yn y maes ac eisiau clywed y gerddoriaeth. Mae’r nodiadau eang am y caneuon yn gwbl ddwyieithog ac yn cyflwyno hanes y caneuon yn syml a chryno gan gyfeirio’r darllenwyr at fwy o wybodaeth heb orlwytho’r sawl sydd eisiau’r gerddoriaeth er ei mwyn ei hun. Y prif beth y gall unrhyw un ei wneud nawr i anrhydeddu Merêd, Phyllis a’u gweledigaeth yn canu’r caneuon gwych, anarferol ac amrywiol hyn, eu cyflwyno i eraill ac yn bennaf oll eu mwynhau. Joiwch y canu!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e‘Ffylantin-tw!’ - an exciting new collection of traditional Welsh folk-songs, all selected from the research of Meredydd Evans and Phyllis Kinney. They are presented here not just as notes on a page, but also on CD as a tribute to them both from today’s leading Welsh folk artists, turning pearls from the past into living music once more, in accordance with Phyllis and Merêd’s own vision.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819066659190,"sku":"9780907551232","price":19.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780907551232.jpg?v=1790347438","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ffylantin-tw-9780907551232","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}