{"product_id":"ffenestri-gobaith-9781859949658","title":"Ffenestri Gobaith","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Ffenestri Gobaith yn tarddu o awen y bardd a'i argyhoeddiad Cristnogol. Bydd y casgliad o ddiddordeb i'r rhai sy'n mwynhau darllen barddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFfenestri Gobaith is a collection of poems [both free and strict metre] by John Emyr, emanating from his Christian conviction.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781859949658\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781859949658\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFfenestri Gobaith\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEmyr, John\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2023-07-21\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau'r Gair\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e112 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 148 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’n gyfnod o drai ar grefydd gydag eglwysi a chapeli yn cau ym mhob man a Chymru’n prysur droi yn wlad ddigrefydd. Llaciwyd gafael ar y gwerthoedd Cristnogol wrth i gymdeithas droi’n fwyfwy hunanol a materol. Gellid dadlau, felly, fod mwy o angen y gyfrol amserol hon arnom heddiw nag a fu erioed o’r blaen. Yn naturiol, mae hyn yn loes calon i fab gweinidog ond nid yw’n esgyn i bulpud y pregethwr i geryddu ein difaterwch. Gwell ganddo ein cyfeirio yn dawel at amgenach ffordd o fyw. Mae’n ymwrthod hefyd â’r demtasiwn i ddigalonni. Yn hytrach, wyneba’r heriau gyda ffydd un a gredo. Ffenestri Gobaith yw’r teitl a cheir llun ar y clawr o ffenestr goffa y ddwy nyrs, Dilwen a Mair Harries, sydd i’w gweld yng nghapel Bethel, Penarth. Mae’r argraffiad hwn o waith Gareth Morgan, yr arlunydd gwydr lliw o Gaerfyrddin, gyda’i gyfoeth o ddelweddau beiblaidd, yn gosod y naws i’r dim. Yna, o fewn y cloriau, cawn gyffes ffydd y bardd a’r Cristion, John Emyr, wrth iddo edrych allan ar y byd sydd ohoni drwy ffenestri lliw y cerddi unigol. Gwneir hynny ar amrywiaeth o fesurau. Ceir yma ddwy awdl goffa, un i’r Athro R. Geraint Gruffydd a’r llall i’r genhades Eluned Mair Davies o Batagonia, yn ogystal â chywyddau, englynion, hir-a-thoddeidiau, emynau, sonedau, caneuon, cerddi penrhydd, dwy filanel, tribannau, penillion telyn a chwpledi unigol. Mae’r grefft yn lân a’r geiriau’n canu, ac o’u darllen yn uchel daw’n amlwg fod clust yr awdur wedi’i diwnio i fiwsig cystrawennau Beibl William Morgan a rhythmau’r hen emynwyr. Mae hon yn gyfrol gynnes, gartrefol, sy’n llawn pobol, a theimlwn ein bod yn dod i adnabod yr awdur o fewn y tudalennau. Awen gymdeithasol ydyw sy’n dathlu achlysuron hapus gyda’i ffrindiau ac yn cofio am y rhai a gollwyd, a hynny yn y dull traddodiadol Cymreig. Un o nodweddion pennaf y gyfrol yw’r Cymreictod naturiol sy’n treiddio drwyddi. Ynddi mae’n cofleidio’r genedl gyfan a’i hamrywiol ardaloedd. Mae gwreiddiau’r bardd yn ddwfn yng Ngwynedd: bu’n ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd, yn fyfyriwr yng Ngholeg Aberystwyth, priododd ferch o Gwmafan a magodd deulu yng Nghaerdydd. Ac mae’r iaith Gymraeg yn goron ar y cyfan. Hi, fel y dywedodd, yw ‘mur egwan llys ein cof a llais ein cân’. Daw hyn â ni at y teulu agos ac unwaith eto ceir cerddi’n dathlu cerrig milltir y daith, o ben-blwydd Olwen ei wyres, hyd at ganrif ei fam Grace Roberts. Cyflwynir y gyfrol i’r wyrion a’r wyresau – chwech ohonynt – a chlosiwn at y dyn teulu yn y delyneg annwyl ‘Tad-cu ac ŵyr’, yn y cywydd crefftus i’w fab yngnghyfraith, yr arlunydd Huw Aaron, ac yn enwedig yn ei gerddi serch i’w wraig Gwen. Yn yr amseroedd anodd sydd ohoni, bydd y gyfrol hyfryd hon yn fodd i atgyfnerthu ffydd y gweddill ffyddlon sy’n dal i gadw drysau ein haddoldai ar agor. Bydd hefyd yn gyfrwng i bigo cydwybod y rhai ohonom a gollodd yr arfer o fynychu oedfa ar y Sul. Diolch amdani.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821012259190,"sku":"9781859949658","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781859949658.jpg?v=1790362826","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ffenestri-gobaith-9781859949658","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}