{"product_id":"fel-yr-haul-9781848515529","title":"Fel yr Haul","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel hanesyddol newydd gan Eigra Lewis Roberts yn portreadu chwe blynedd olaf Morfydd Llwyn Owen, cyfansoddwraig ddisglair a chantores dalentog a fu farw yn drasig o ifanc.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA historical novel portraying the final six years in the life of talented musician and composer Morfydd Llwyn Owen, who died at a tragically young age.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848515529\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848515529\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFel yr Haul\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Eigra Lewis\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-07-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e376 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 192 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTybed faint ohonom ni’r Cymry a ŵyr unrhyw beth erbyn hyn am Forfydd Llwyn Owen? Ar wahân i ambell gerddor neu hanesydd cerddorol, ychydig, dybiwn i. Ac ar yr adegau prin pan genir ‘Gweddi Pechadur’ gan Thomas William, Bethesda’r Fro, mewn oedfa, faint fedr gysylltu’r dôn â Morfydd? Eto i gyd, mae hanes y ferch o Drefforest a gyflawnodd cymaint yn ystod ei hoes fer yn darllen fel nofel. A dyma’r nofel honno. Mewn atodiad pwysleisia Eigra Lewis Roberts mai nofel yw hon, nid bywgraffiad. ‘Fel hyn y gwelais i hi,’ meddai. Mae’r nofel yn agor yng Nghapel Charing Cross yn Llundain lle mae’r gweinidog, y Parchedig Peter Hughes Griffiths, yn cyflwyno wyneb newydd yn y gynulleidfa. Morfydd yw hi, a adawodd am Lundain i astudio cerddoriaeth yn 17 oed. Ceir portread byw o fywyd y Cymry yn Llundain adeg blynyddoedd y Rhyfel Mawr yn bennaf, gydag ymweliadau â gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Cawn ddarlun o Aberystwyth, lle bu’n efrydydd, a gwahanol Eisteddfodau Cenedlaethol, yn arbennig felly Eisteddfod Penbedw. Mae’r darlun byr o’r cadeirio yno yn gampwaith. Ac yna’r diwedd ym Mro Gŵyr. Roedd Morfydd a’i chriw yn troi mewn cylchoedd ffasiynol yn Llundain. Roedd hi ar delerau cyfeillgar ag o leiaf dau Aelod Seneddol, ac mae D. H. Lawrence ac Ezra Pound yn rhan o’r stori. Tynnir sylw hefyd at waith yr artist Turner, a cherddi Walt Whitman a Sigmund Freud; roedd Ernest Jones, priod Morfydd, yn un o’i ddisgyblion. Yr hyn a’m trawodd i o’r dechrau yw gallu rhyfeddol Eigra i droi o un dafodiaith i'r llall, o roi cymysgedd o Gymraeg a Saesneg yn neialog un o’r cymeriadau, a hyd yn oed droi at dafodiaith Cocni yn achlysurol. Mae’r stori’n llifo – cryn gamp i’w chynnal dros 372 o dudalennau. Tuedd amryw o adolygwyr wrth drafod nofel yw chwilio am ddeunydd ynddi ar gyfer drama deledu neu ffilm. Ond fel y dywedodd Eigra ei hun, nofel yw hon yn ei hanfod. Ac fel nofel y dylid ei hystyried. Ond am unwaith, dyma ddweud yn gwbl gyfiawn y gwnâi Fel yr Haul , o’i haddasu, ddrama deledu neu ffilm gofiadwy. Mae yna gymaint yn y nofel hon fel mai annheg fyddai bodloni ar ei darllen unwaith yn unig. Mae yma haenau o ystyrlonrwydd. Ond ei rhagoriaeth yw ei harddull lifeiriol a darllenadwy. I mi, Eigra yw olynydd naturiol Islwyn Ffowc Elis. Fedrwn i ddim cynnig canmoliaeth uwch.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820858315126,"sku":"9781848515529","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848515529.jpg?v=1790361378","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/fel-yr-haul-9781848515529","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}