{"product_id":"estyn-llaw-366-o-bytiau-sy-n-hwb-i-r-galon-9781907424779","title":"Estyn Llaw — 366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e366 o bytiau difyr ar gyfer bob diwrnod o'r flwyddyn - pytiau fydd yn hwb i'r galon, yn codi gwên ac yn procio'r meddwl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e366 interesting snippets - one for each day of the year. A book you'll return to, time and time again.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781907424779\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781907424779\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEstyn Llaw — 366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e366 o Bytiau Sy'n Hwb i'r Galon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMaelor, Esyllt; Northey, Sian; Evans-Jones, Gareth; Jones, Marred Glynn; Parri, Harri\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-10-05\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOwen, Geraint Lloyd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e176 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Amrywiol (yn Gymraeg) | EN: Miscellaneous (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOnid yw hi’n braf weithiau cael llyfr bwrdd coffi – llyfr y gallwch droi ato'n awr ac yn y man i gael mymryn o wybodaeth neu ddoethineb, yn arbennig felly pan fo'r pytiau yr ydych yn eu darllen yn codi eich calon? Wel, dyna'n union a geir yn y gyfrol hon. Llyfr yw Estyn Llaw sy’n cynnwys pwt difyr ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn. Weithiau cawn ddyfyniad gan rywun, bryd arall ddihareb, rhyw hanesyn cryno neu ddwy frawddeg fer. Ar gyfer 17 Mai, er enghraifft, ceir y canlynol: ‘Paid â llusgo dy groes heddiw. Cofia fod help ar gael i’w chario hi.’ Ar gyfer 13 Awst, rhan o hunangofiant a llythyrau Twm o’r Nant a leinw’r gofod ac yn niwedd mis Awst ceir y dyfyniad a ganlyn gan Charlie Chaplin: ‘Mae diwrnod heb chwerthin yn ddiwrnod a wastraffwyd.' Fel y gwelir, mae’r dyfyniadau yn amrywiol iawn o ran eu hyd a'u ffynhonnell, ond yr hyn sy’n gyffredin iddynt oll yw eu bod yn codi calon. Yn cyfoethogi’r dyfyniadau oll y mae lluniau hyfryd a pherthnasol. Geraint Lloyd Owen sydd wedi golygu’r gyfrol ac y mae pump arall wedi cyfrannu iddi, sef Gareth Evans-Jones, Harri Parri, Esyllt Maelor, Sian Northey a Marred Glynn Jones. Yn ei ragymadrodd fe ddywed y golygydd fod y gyfrol yn ‘arweinlyfr sy’n ein cyfeirio’n gyson o dywyllwch i oleuni’, ac meddai ymhellach: ‘Mae’n gyfle inni atgyfnerthu gogyfer â’r yfory a mwynhau ambell ddywediad a hanesyn sy’n rhoddi blas a lliw ar fywyd a gwneud byw o ddydd i ddydd yn werth chweil.’ Yn sicr mae’r gyfrol wedi llwyddo yn ei bwriad, ac mae'n llyfr defnyddiol iawn i bob athro sy’n paratoi at wasanaeth ysgol. Yn fwy na dim, mewn dyddiau tywyll, dyma gyfrol sy’n falm i’r galon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821085757814,"sku":"9781907424779","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781907424779_7c6ff2bd-6a60-4022-a081-a74c0ab8a0de.jpg?v=1790363707","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/estyn-llaw-366-o-bytiau-sy-n-hwb-i-r-galon-9781907424779","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}