{"product_id":"eryr-yr-9781785622465","title":"Eryr, Yr","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae corff wedi ei ganfod mewn wal yn y dref a rhywun wedi saethu at long bleser Môr-forwyn y Berig, un o'r busnesau bach yn y dref hunangynhaliol hon. Pan fo nodiadau amwys yn dechrau cyrraedd Goss drwy'r post, mae'r bygythiad yn bersonol. Oes cysylltiad â'r helbulon a fu?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA body has been found in a wall in the town and someone has shot at the pleasure boat Môr-forwyn y Berig, one of the town's self-sufficient small businesses. When Goss starts receiving letters in the post, the threat becomes personal. Are there connections with past troubles?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785622465\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785622465\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEryr, Yr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Gareth W.\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-03-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e208 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 196 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNid nofel yn ystyr draddodiadol y gair ydi Yr Eryr . O’r cychwyn cyntaf mae’n atgoffa rhywun o gyfresi teledu swmpus dros ben llestri sydd yn drewi o arian – cyfresi fel Dynasty a Dallas slawer dydd ac ar raddfa lai, Y Teulu ar S4C yn fwy diweddar. Mae’r cynhwysion i gyd yma; miliwnyddion, biliwnyddion, hofrenyddion, cyrff mewn concrid, tai crand, rhai pobl gyffredin, unigolion honco bost, rhyw, plismyn, y gwasanaethau cudd, Gwyddelod â chefndir sinistr, dynes hardd, cwlt crefyddol ac un plismon wedi ymddeol sy’n achub y Berig, sef ‘y nirfana Gymreig ger y lli’, yn ôl y broliant. Mae’r broliant hefyd yn dweud nad oes angen i chi fod wedi darllen helyntion blaenorol y cyn-Arolygydd Arthur Goss yn Y Teyrn ac Y Llinach er mwyn mwynhau’r nofel yma. Ac mae hyn, i raddau helaeth, yn wir. Bygythiad terfysgol ac ariannol i’r Berig ydi craidd y stori. Mae Arthur Goss bellach wedi ymddeol o fod yn uwch-swyddog efo’r heddlu (gyda llaw, fedra i ddim diodde’r term cyn-insbector, ond mater bach ydi hynny). Mae’n byw mewn carafán ac yn hyn o beth yn ein hatgoffa o’r arolygydd yn y gyfres Y Gwyll . Columbo Cymreig sy’n dioddef o anhwylder ar ei frest ydi Arthur. Dyn yn unig a ŵyr sut mae wedi llwyddo i ddenu a chadw Branwen Brân gyfoethog! Beth bynnag, mae’n torri ei gŵys ei hun wrth achub y Berig a’i phobl, diolch i gefnogaeth ymarferol ei gyn-gyd-weithwyr yn yr heddlu a’r Special Ops sy’n parhau i’w addoli a’i helpu i raddau anghredadwy. Mae’r nofel yn hawdd i’w darllen ond yn gwbl arwynebol – ac nid beirniadaeth yw hynny. Mae hyn yn angenrheidiol mewn nofel sydd yn ffantasi llwyr, yn union fel yn y cyfresi teledu. Eto i gyd, mi fuaswn i wedi mwynhau treiddio i’r berthynas ffrwythlon ddatblygodd mor sydyn rhwng Branwen a’i pherthnasau Gwyddelig, a deall yn llawer gwell beth gebyst ddenodd y ffasiwn ddynes at Goss! Nofel i ymlacio wrth ei darllen ydi Yr Eryr . Derbyniwch, da chi, bod y stori yn digwydd ac yn datblygu mewn cymuned nad yw’n bod, i bobl o’r fath nad ydych chi erioed wedi dod ar eu traws, mewn cyfnod pan mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn llwyddiannus, yn rhyngwladol ddeniadol ac yn denu buddsoddwyr o ’Merica bell. Derbyniwch y cyfan ar lefel arwynebol – a mwynhewch!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820133454198,"sku":"9781785622465","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785622465_0571e487-b8c1-4d4e-9973-f3c345a0bc92.jpg?v=1790354539","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/eryr-yr-9781785622465","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}