{"product_id":"eira-llwyd-9781912173136","title":"Eira Llwyd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel fer, gynnil a thelynegol sy'n dilyn tri Iddew a garcharwyd yn ystod yr Holocost. Mae'n stori sy'n cyffwrdd y galon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA subtle and moving short novel which follows the lives of three Jews imprisoned in Nazi concentration camps during the Holocaust.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173136\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173136\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEira Llwyd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEvans-Jones, Gareth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-10-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAaron, Luned\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e104 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae darllen nofel gyntaf unrhyw awdur yn brofiad braf iawn – y gobeithion, y cyffro a’r ysfa i ddarganfod llais llenyddol newydd. Ac yn wir, wnaeth nofel gyntaf Gareth Evans-Jones, sy’n ddarlithydd yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, ddim siomi o gwbl yn hynny o beth. Nofel dwt a chryno yw Eira Llwyd sy’n mynd i’r afael ag un o gyfnodau mwyaf dirdynnol ein hanes ni yn ystod y ganrif ddiwethaf, sef profiadau tri Iddew sydd wedi’u carcharu gan y Natsïaid yn ystod yr Holocost. Mae rhyw wedd ddyddiadurol i’r nofel ond mae gwead ac arddull y dweud yn gynnil, sylwgar a choeth dros ben, gyda rhyw naws sinematig yn y modd y dadlennir profiadau’r tri chymeriad mewn pytiau byrion wedi’u rhyngblethu’n grefftus yn ei gilydd. Mae pob pennod wedi’i rhannu’n gyfres o gameos bychan, sy’n cynnig mewnwelediad eithriadol boenus ar adegau i fywyd dyddiol mewn gwersyll dan reolaeth ddidostur y Natsïaid. Mae’r cameos bychain yma fel rhyw swigod sy’n ymddangos ac yna’n diflannu, ac yn y gofod a adewir o’u hôl, mae yna archoll a cholled a phoen ddirdynnol. Weithiau, mae’r boen yn fwy, o ystyried yr hyn nad yw’n cael ei ddweud. O ystyried diwyg y gyfrol, gydag adrannau gwahanol wedi’u cyflwyno mewn ffontiau gwahanol i adlewyrchu stori’r gwahanol gymeriadau, fe allai’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny olrhain stori bob cymeriad ar wahân – o straeon yr oedolion stoicaidd i stori’r ferch ifanc sydd wedi’i gyrru i’r gwersyll gyda’i mam. Ond mae’r modd y mae’r straeon wedi’u cydblethu’n rhoi dyfnder arbennig i’r gyfrol, gan danlinellu’r creulondeb oedd i’w weld yn drwch dan drefn y Natsïaid. Fel darllenydd, mae’n siŵr mai diolch i’r awdur y dylwn i ei wneud am gyflwyno’i stori yn y fath fodd pytiog a chynnil. Roedd ambell adran yn gwneud i mi wingo ac arswydo ac yn peri i mi droi’n groen gŵydd drosta i i gyd, a thrwy osgoi llusgo’r profiadau allan yn ormodol, mae’r hyn sy’n cael ei ddweud yn fwy pwerus ac iasol. Oes, mae yma ddioddef enbyd, ond mae yma ddyngarwch a chydymdeimlad hefyd rhwng y dioddefwyr a’i gilydd, a hynny sy’n rhoi’r llygedyn lleiaf o obaith wrth i amser fynd yn ei flaen. Chwip o nofel gyntaf gan awdur sensitif, deallus a sicr iawn ei grefft.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821140808054,"sku":"9781912173136","price":6.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173136_e8dc8af9-65e6-47ee-aa84-b6fef43c1b11.jpg?v=1790364896","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/eira-llwyd-9781912173136","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}