{"product_id":"dwi-n-gweld-malwoden-i-spot-a-snail-canllaw-cyntaf-byd-natur-my-very-first-spotter-s-guide-9781804163917","title":"Dwi'n Gweld Malwoden \/ I Spot a Snail — Canllaw Cyntaf Byd Natur \/ My Very First Spotter's Guide","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCanllaw cyntaf i blant bach sy'n caru byd natur. Cyhoeddwyd y llyfr hwn gan Rily mewn cydweithrediad â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Addasiad Cymraeg gan Eiry Miles.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNational Trust's My Very First Spotter's Guide nature board book with big flaps. An eye-catching new nature novelty series for babies that love spotting wildlife! This fantastic new board book builds babies' love of nature with easy-to-lift card flaps and a stimulating question-and-answer text. Where do snails live? How big is a butterfly? Join in the minibeast adventure.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781804163917\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781804163917\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDwi'n Gweld Malwoden \/ I Spot a Snail — Canllaw Cyntaf Byd Natur \/ My Very First Spotter's Guide\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCanllaw Cyntaf Byd Natur \/ My Very First Spotter's Guide\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eVincent, Kay\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-08-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMiles, Eiry\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFlexible plastic or vinyl cover\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr plastig neu finyl hyblyg\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e12 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 × 200 mm; depth 12 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh; English\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau Gair-a-Llun i Blant Dan 5 Oed (yn Gymraeg) | EN: Word-and-Picture Books for Children Under 5 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C122384\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r cyfnod pan mae plentyn rhwng 1 a 2 oed yn un heriol am nifer o resymau, ond er y diffyg cwsg a’r colli tymer achlysurol neu’r temper tantrums , mae ’na gyfnodau hyfryd hefyd sy’n helpu lleddfu unrhyw stress! Un o’r adegau neis hynny yw’r cyfle i eistedd gyda’ch plentyn (sy’n dangos mwy o ddealltwriaeth erbyn hyn) a mwynhau stori gyda’ch gilydd. Dwi’n ysgrifennu’r adolygiad yma ar ran fy mab, sy’n bymtheg mis, ac o fy safbwynt i fel rhiant. Roedd y clawr lliwgar yn apelio ato’n syth, gyda’r lluniau sgleiniog o greaduriaid yn ei ddenu i ddarganfod mwy. Ar ôl ei gnoi i gychwyn, eisteddodd i lawr a dechrau archwilio’r llyfr, gan ryfeddu a phwyntio at wahanol bethau. Ar hyn o bryd, mae llyfrau codi fflap yn boblogaidd iawn yn ein tŷ ni, ac mae’n ddifyr gwylio’r bychan yn datblygu ei sgiliau motor mân a’i chwilfrydedd naturiol wrth godi’r fflapiau i ddatgelu’r creaduriaid bach sy’n cuddio. Gall y bychan archwilio’r llyfr ar ei ben ei hun, ond wrth ddarllen â rhiant, mae cyfle da i gyflwyno a modelu iaith gan gynnwys geiriau disgrifio, lliwiau a geirfa cwestiynu, i enwi dim ond rhai. Bellach, mae o’n gallu dweud ambell gair syml ac mae’r llyfr yma’n grêt i ddatblygu ei eirfa. Byddai plant ychydig yn hŷn, hyd at 3 oed, yn mwynhau’r llyfr hefyd. Gan ei fod yn llyfr dwyieithog fe gewch chi ddau lyfr am bris un, mewn ffordd! Rydym bellach wedi darllen ac ailddarllen y llyfr sawl gwaith, a dydi’r lluniau syml a llachar byth yn diflasu. Mae fel petai ei fod yn darganfod y llyfr o’r newydd ar bob darlleniad. Ffrwyth partneriaeth rhwng y wasg a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r llyfr yma. Yn ffodus iawn, mae llawer o adeiladau’r ymddiriedolaeth o’n cwmpas yn lleol, a nifer ohonynt gyda gerddi a choedwigoedd ar eu tir. Mae Gerddi Bodnant cyfagos yn rhywle gwych i fynd am antur gyda’r llyfr a chwyddwydr i chwilio am drychfilod a phethau tebyg. Mae llawer iawn o lyfrau codi fflap neu dynnu a gwthio ar gyfer plant bach, felly beth sy’n gwneud y llyfr yma’n wahanol? I gychwyn, mae o wedi derbyn sêl bendith asiantaeth sy’n uchel ei pharch, ac mae nod clodwiw i’r llyfr, sef ceisio cyflwyno cariad at fyd natur o’r cychwyn cyntaf. Fe wyddwn ni oll fod bioamrywiaeth a byd natur o dan fygythiad enbyd o ganlyniad i weithrediadau dynol. Trwy gyflwyno’r pwnc mewn ffordd syml a hwyliog fel mae’r llyfr hwn yn ei wneud, y gobaith yw bydd ein plant yn tyfu i fyny gyda chariad a pharch tuag at natur a bywyd gwyllt. Wedi’r cyfan, nhw yw ceidwaid dyfodol ein planed.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820499800438,"sku":"9781804163917","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781804163917_c8df81ea-bf95-4d6f-b905-f87d1880911b.jpg?v=1790357486","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/dwi-n-gweld-malwoden-i-spot-a-snail-canllaw-cyntaf-byd-natur-my-very-first-spotter-s-guide-9781804163917","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}