{"product_id":"drwy-r-beibl-drwy-r-flwyddyn-9781859946695","title":"Drwy'r Beibl Drwy'r Flwyddyn","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAddasiad o Through the Bible Through the Year gan John Stott. Ceir yma 365 o fyfyrdodau, yn tywys y darllenydd drwy'r Beibl yn ei drefn gronolegol. Mae'n cyfeirio at y prif wyliau eglwysig ac yn delio â phrif feini canolog y ffydd Gristnogol. Cyfrol a fyddai'n gwneud anrheg wych.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis title takes the reader through the entire Bible in one year. It offers the reader on overview of the Old and New Testaments, and a refresher on Christian teaching. From Creation to Christ, it relives the story of Jesus and the Acts, and reflects on Christian life and hope. A Welsh adaptation of Through the Bible Through the Year .\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781859946695\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781859946695\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDrwy'r Beibl Drwy'r Flwyddyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStott, John\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£14.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£14.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-09-29\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau'r Gair\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorris, Meirion\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e432 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Crefydd, Hanes Crefydd (yn Gymraeg) | EN: Religion, History of Religion (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Gweddïau, Myfyrdodau a Defosiynau (yn Gymraeg) | EN: Prayers, Meditations and Devotions (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad o fyfyrdodau athrawiaethol yn seiliedig ar brif themâu’r Beibl, ar gyfer bob dydd o’r flwyddyn, a geir yn y gyfrol hon. Seilir y sylwadau dyddiol ar adnod neu ddwy o’r Ysgrythur gan ddilyn patrwm y Calendr Cristnogol a luniwyd gan Grŵp Litwrgaidd Undebol Prydain. I aelodau’r eglwysi hynny sy’n dilyn y Calendr o Sul i Sul, bydd y gyfrol hon yn adnodd hynod werthfawr yn eu galluogi i wreiddio eu defosiwn personol yn addoliad cyhoeddus y gynulleidfa. Awdur y gyfrol yw John Stott, cyn-reithor eglwys enwog All Souls, Langham Place, Llundain, awdur toreithiog ac un o arweinwyr amlycaf yr adain efengylaidd yn Eglwys Loegr. Fel gŵr efengylaidd ei safbwynt, y mae’n awyddus i wreiddio themâu’r Calendr Eglwysig yn y Beibl ac yn hanes ymwneud Duw â’r byd fel Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Fel y mae’r Calendr yn rhannu i dri chyfnod, rhennir y gyfrol hon yn yr un modd, gyda’r cyfnod cyntaf (Medi i Ragfyr) yn canoli ar waith Duw y Tad yn paratoi ei bobl drwy’r Hen Destament ar gyfer dyfodiad y Meseia; yr ail gyfnod (Ionawr i Ebrill) yn canoli ar waith Duw yn Iesu Grist a’i weinidogaeth achubol, a’r trydydd cyfnod (Mai i Awst) yn olrhain gwaith yr Ysbryd Glân ym mywyd a gwaith yr eglwys. Fel Anglican o argyhoeddiad y mae Stott yn gymhedrol a deallus ei safbwynt. Daw hyn i’r amlwg yn y modd yn mae’n ymdrin â hanes y creu ym mhenodau agoriadol Genesis, gan fynnu nad ydy’r Beibl erioed wedi ei fwriadu gan Dduw i fod yn werslyfr gwyddonol. Nid yw’n gweld unrhyw anghytundeb rhwng disgrifiad barddonol Genesis o’r creu a damcaniaethau’r gwyddonwyr. Trueni na fyddai’r ffwndamentalwyr cibddall sy’n dod dan lach Richard Dawkins a’i debyg yn dilyn arweiniad John Stott. Yn yr un modd mae ei ddehogliad o ystyr y groes yn gytbwys ac yn cwmpasu’r gwahanol ddelweddau a geir yn y Testament Newydd i gyfleu arwyddocâd aberth Crist. Gellid defnyddio’r gyfrol hon nid yn unig i ddiben defosiwn personol, ond hefyd ar gyfer astudiaeth mewn grwpiau neu fel adnodd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Cyfieithwyd y gwaith i’r Gymraeg yn gelfydd gan Meirion Morris ac y mae ei drosiad yn ystwyth a darllenadwy. Rydym eto fyth yn nyled Cyhoeddiadau’r Gair am ychwanegu’r gyfrol hardd hon at restr faith a defnyddiol y wasg o lyfrau crefyddol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820951081334,"sku":"9781859946695","price":14.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781859946695_2847ff5f-aa08-4f6b-90e5-cbe823b618c2.jpg?v=1790362617","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/drwy-r-beibl-drwy-r-flwyddyn-9781859946695","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}