{"product_id":"dolffin-gwyn-9781849671514","title":"Dolffin Gwyn","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTra bod Kara yn chwilio am noddfa wrth rodio'r tonnau yn llong ei thad oherwydd iddi gael ei bwlio yn yr ysgol am ei bod yn dioddef o ddyslecsia, ac am ei bod yn poeni'n ddirfawr am ddiflaniad anesboniadwy ei mam, mae Felix yn ddig wrth ei rieni am symud i fyw ar yr arfordir gan ei fod yn colli cwmni ei ffrindiau yn Llundain.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBullied at school for her dyslexia and troubled by her mother's unexplained disappearance, Kara seeks sanctuary sailing the ocean's waves in her father's boat. Meanwhile, Felix resents his well-meaning parents for dragging him to live by the coast and misses his old friends back in London.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781849671514\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781849671514\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDolffin Gwyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Gill\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-02-21\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeek, Elin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e288 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e22 × 214 mm; depth 134 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Dolffin Gwyn yn nofel fywiog, synhwyrus, amlochrog yn adrodd stori merch o’r enw Cara a'i ffrind newydd Felix. Mae’n stori am gadwraeth ac am ddarganfod prydferthwch y môr a’r bywyd gwyllt sydd yn byw ynddo. Ond mae’n stori hefyd am golled a galar, a dygymod ag ansicrwydd ac ofn. Yn ychwanegol, mae’n stori am fod yn wahanol, am fod yn egwyddorol ac yn deg. Ond er bod y themâu hyn yn awgrymu nofel drom, mae’r cymeriadu a’r stori mor gryf fel bod y darllenydd yn cael ei gario’n ddidrafferth o un dudalen i'r nesaf, gan ymgolli yn hanes y cymeriadau. Cara yw prif gymeriad y nofel – merch ysgol sy'n ceisio dygymod â diflaniad ei mam flwyddyn ynghynt. Mae’r stori'n digwydd mewn tref bysgota fechan lle mae’r rîff cwrel dŵr oer dan fygythiad gan bysgotwr diegwyddor. Roedd mam Cara yn arwain prosiect gwarchodaeth yn yr ardal ac mae Cara wedi etifeddu bwriadau da ei mam. Mae Felix yn fachgen o Lundain sydd o'r un oed â Cara. Er bod ganddo rai anableddau, mae’n darganfod ei fod yn hwyliwr o reddf a thrwy Cara daw i werthfawrogi bywyd y môr. Daw cyfle i dynnu sylw at y frwydr i ddiogelu’r rîff pan gaiff dolffin gwyn ei olchi ar y traeth, a rhwyd blastig wedi ei chlymu amdano. Mae Cara a Felix yn llwyddo i arwain ymgyrch i achub y dolffin a diogelu’r rîff. Mae’n stori amlochrog a daw uchafbwynt dramatig iawn iddi wrth i Cara a Felix achub Jake, mab y pysgotwr diegwyddor, o ganol storm fawr. Mae’r bennod sydd yn disgrifio Felix yn hwylio’i gwch drwy’r storm i’r harbwr diogel yn enghraifft o ysgrifennu gwirioneddol afaelgar a synhwyrus. Bydd pob darllenydd yn sicr yn uniaethu â drama fawr y bennod honno. Dyma gyfrol gwerth ei darllen o ran stori a chymeriadu, ond mae’n ddeunydd darllen grymus hefyd oherwydd y gwerthoedd y mae’n eu cynrychioli. Daw cadwraeth y môr yn destun deniadol ac angenrheidiol trwy gyfrwng y nofel, gan bwysleisio yr un pryd werth cynhenid pob person a phob creadur, ac mae lle a gwerth yr ysbrydol fel rhan o fywyd bob dydd yn is-lais ychwanegol drwy'r cyfan. Gallai Cara, dan law ysgrifennu gwanach, fod yn gymeriad hynod ddiflas a hunandybus, ond yn y nofel hon y mae’n ferch annwyl, er yn styfnig, ac yn un sy'n ennyn cydymdeimlad yr un pryd. Hon yw'r ail nofel gan Gill Lewis sydd wedi'i haddasu i’r Gymraeg ac mae Elin Meek wedi llwyddo i ddefnyddio cyfoeth o enwau creaduriaid y môr yn rhwydd a didrafferth. Ond – ac 'ond' bychan yw hwnnw, mae ynddi nifer o gamgymeriadau argraffu y gellid bod wedi eu hosgoi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820893213046,"sku":"9781849671514","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781849671514_916239a3-8cbc-4e95-afdb-59ba198471cd.jpg?v=1790361865","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/dolffin-gwyn-9781849671514","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}