{"product_id":"dilyn-caradog-9781845276430","title":"Dilyn Caradog","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e'Mae gan y Rhufeiniaid arfau gwych – ond mae gyda ni'r Brythoniaid dân yn ein calonnau all doddi metel!' Dyna eiriau Caradog, y dewraf o frenhinoedd. Caradog yw arwr Morcant, y Silwriad bach. Breuddwyd Morcant yw dilyn ei arwr a brwydro i yrru'r Rhufeiniaid o'i wlad.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845276430\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845276430\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDilyn Caradog\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Sian\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-03-25\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e136 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 198 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C020637\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel hanesyddol ddifyr am bwysigrwydd ffyddlondeb, gwerth cyfeillgarwch, ac ystyr perthyn yw Dilyn Caradog gan Siân Lewis. Mae’r stori yn dilyn hanes Brython ifanc o lwyth y Silwriaid o’r enw Morcant. Wrth i awdurdod y Rhufeiniaid gynyddu bob dydd mae’n rhaid i Morcant ddilyn Caradog, pennaeth ei lwyth, ar gais anturus i drechu’r Rhufeiniaid unwaith ac am byth a’u gyrru allan o’i famwlad a’r holl ffordd ar draws y môr yn ôl i Rufain, ond mae nifer o rwystrau yn eu llwybr megis bradwyr, rhyfela a chefnfor mawr dwfn. Mae’r stori wedi ei seilio ar un o chwedlau enwocaf y Cymry, sef y chwedl am Caradog y Celt a gafodd ei gaethiwo gan yr ymerawdwr Clawsiws. Llwyddodd Caradog i ennill ei ryddid yn ôl wedi iddo wrthod moesymgrymu o flaen Clawsiws, ond mae gan y stori hon dro difyr wrth iddi gael ei ailadrodd o safbwynt newydd a gwahanol. Drwy gydol y nofel unigryw a diddorol yma cedwir y darllenydd yn ysu i gael gwybod y cam nesaf yn hynt a helynt Caradog a Morcant. Mae’r diweddglo yn llwyr werth yr aros gan orffen gyda chlo annisgwyl a chyffrous iawn. Cyflwynir y llyfr mewn clawr syml ond effeithiol wedi ei ddylunio a’i ddarlunio gan Anne Cakebread. Mae’r llyfr yn portreadu bywyd bob dydd Brython ifanc o lwyth y Silwriaid yn wych. Credaf fod y llyfr yma’n nofel dda a fyddai’n apelio’n arw at blant Blynyddoedd 5,6 a 7, er y gallai oedrannau eraill ei mwynhau hefyd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOnd mae'r ffordd yn anodd, ac yn arwain o Brydain i Rufain. Er gwaetha’r peryglon, a all Morcant gadw ei freuddwyd yn fyw?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820774822262,"sku":"9781845276430","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845276430_60b9c206-0772-4d0b-af30-c04f7e5a25f4.jpg?v=1790360288","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/dilyn-caradog-9781845276430","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}