{"product_id":"dawn-dweud-john-morris-jones-9780708324677","title":"Dawn Dweud: John Morris-Jones","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBywgraffiad sy'n cynnig ymdriniaeth feirniadol o gyfraniad John Morris-Jones, un o wŷr amlwg ei gyfnod mewn cylchoedd academaidd ac eisteddfodol, i hanes yr iaith a'i diwylliant. Ar yr un pryd, ceir darlun o'r dyn teulu wedi'i seilio ar gyfresi hynod ddifyr o lythyrau personol at ei wraig a'i gyfeillion.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA biography of John Morris-Jones (1864-1929), Welsh grammarian, academic and poet. This book offers a critical analysis of his contribution, as well as a portrait of him as a family man, based on a fascinating series of personal letters to his wife and friends.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780708324677\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780708324677\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDawn Dweud: John Morris-Jones\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJames, Allan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-11-28\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Prifysgol Cymru \/ University of Wales Press\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e324 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 216 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau a Thestunau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies and Texts (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Astudiaethau Llenyddol (yn Gymraeg) | EN: Literary Studies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRhagair Lluniau Cyfnod Cynnar Rhydychen: Coleg yr Iesu, PontMagdalen a’r Dafydd Y Bodleian, Syr John Rhªs a’r Darpar Ysgolhaig 1890–1895 Dewis Gyrfa: JohnMorris-Jones a’r Agenda Ieithyddol 1895 Yr Athro: Bangor a Llanfair Hynafiaeth yr Orsedd: Yr Ymchwilydd yn Herio Traddodiad JohnMorris-Jones a’r Eisteddfod Genedlaethol: Athro’r Genedl Caniadau JohnMorris-Jones (1907) The Nationalist a’r ‘Macwyaid’ (1907–1911) 1911–1918 Y Beirniad, y Gramadegydd a’r Rhyfel Byd Cyntaf 1918–1925 Taliesin, Ffrainc ac America 1925–1929 Cerdd Dafod a’r ‘Sant’: Diwedd Cyfnod Nodiadau Mynegai\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Allan James wedi ymddeol fel Prif Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSeiliwyd y gyfrol hon ar lyfr cynharach gan Allan James a luniwyd ar wahoddiad Dr R. Brinley Jones yn rhan o’r gyfres Writers of Wales ac a gyhoeddwyd yn 1987. Mae’r gyfrol hon yn llawer llawnach na’r gyfrol Saesneg, a manteisiodd yr awdur ar bob cyfle i ychwanegu defnyddiau a gyhoeddwyd oddi ar ymddangosiad y gyfrol wreiddiol. Adroddir hanes yr athrylith o Lanfair Pwllgwyngyll a aeth i Rydychen i astudio Mathemateg ac a ddaeth oddi yno yn awdurdod ar y Gymraeg. Trefnwyd y deunydd ar ffurf deuddeg pennod gronolegol a chan drefnu’r deunydd yn bynciol o fewn y gronoleg honno. Oherwydd hynny, yn anorfod, fe geir peth ailadrodd yn y cofiant, yn y penodau cynharaf yn fwyaf arbennig. Cawn ddarlun llawn a chynnes o’r gwrthrych – y gwneuthurwr clociau a fyddai bob amser yn hwyr i’w ddarlithiau, ysgolhaig a drosglwyddodd drefn a chynildeb, disgyblaeth a manylder y mathemategydd i ddeddfau iaith a barddoniaeth. Nid yw’r awdur yn brin o dynnu sylw at yr anghysonderau amlwg a oedd yng ngyrfa a bywyd y gwrthrych – beirniad trylwyr a ffyddlon yr awdl yn yr Eisteddfod dros gyfnod hir, ond gelyn yr Orsedd; yr ymgyrchydd diflino dros yr iaith, ond un a ddarlithiai trwy gyfrwng y Saesneg. Fe welwn y darlithydd ffurfiol, swil, yn ogystal â’r penteulu croesawus, llawen; y gŵr a’r tad annwyl yn ogystal â’r dadleuwr digymrodedd. Yn wir, fe’i disgrifiwyd fel un a oedd yn gawr o ddeallusrwydd ond un a chanddo galon fawr ar yr un pryd. Mae’r cofiant hwn yn waith hylaw i’r sawl a fyn wybod mwy am un o wŷr mawr Môn a Chymru gyfan, un a gyfrannodd yn hael i ddadeni llenyddol ei ddydd, nid lleiaf trwy ddiffinio a gosod trefn ar reolau orgraff a gramadeg y Gymraeg ac ar gyfundrefn Cerdd Dafod, y cyfan yn gyfraniadau hollbwysig i ysgolheictod Cymraeg.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58818908258678,"sku":"9780708324677","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780708324677.jpg?v=1790346325","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/dawn-dweud-john-morris-jones-9780708324677","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}