{"product_id":"david-lloyd-llestr-bregus-9781848517998","title":"David Lloyd - Llestr Bregus","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCofiant arbennig a dadleuol un o gantorion mwyaf disglair ac adnabyddus Cymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Tyrrai miloedd o bobl i weld David Lloyd yn perfformio, ac roedd 'melys lais' yr hogyn o Drelogan yn gyfarwydd drwy Gymru, Lloegr ac Ewrop.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA biography of the renowned Flintshire tenor, David Lloyd (1912-1969), who performed across Europe and the United States. This well-researched biography provides and honest portrayal of the man as well as the performer.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848517998\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848517998\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavid Lloyd - Llestr Bregus\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwynfryn, Hywel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-09-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e160 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e168 × 197 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e• Daw Hywel Gwynfryn o Ynys Môn yn wreiddiol • Mae ganddo ddiddordeb mawr ym myd adloniant Cymru • Cafodd yrfa hir ym myd darlledu ar y radio a'r teledu ac mae'n wyneb cyfarwydd i ni i gyd • Bu'n darlledu gyda'i raglen Helô Bobol ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer ac ar un adeg, ei uchelgais oedd cyfweld â phawb oedd yn siarad Cymraeg yng Nghymru • Mae Hywel yn siaradwr heb ei ail ac yn raconteur gyda'r gorau. Y mae clywed Hywel yn sôn am fawrion y genedl yn brofiad i'w drysori.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePan gafodd David Lloyd ddamwain gas yn 1954, roedd cryn amheuaeth a ddeuai fyth yn ei ôl i’r llwyfan. Felly beth fu ei hanes? Ydy hi’n wir fod David Lloyd wedi derbyn cytundeb gan gwmni opera’r Metropolitan yn Efrog Newydd yn y 1930au? A aeth i ganu ar lwyfan Glyndebourne heb gael clyweliad, hyd yn oed? A pha fath o ddyn oedd y tu ôl i’r llais? Ceir yr atebion i gyd, a llawer mwy, yn y cofiant difyr a dadlennol hwn. Mae Hywel Gwynfryn wedi archwilio casgliad llythyron David Lloyd, ynghyd â sgwrsio’n helaeth â Don Lloyd, nai David, er mwyn cyflwyno cipolwg unigryw i ni ar y tenor o fri a gipiodd galonnau Cymru â’i wedd olygus a’i lais cyfareddol. Mae yma hefyd doreth o luniau sydd heb eu gweld yn gyhoeddus o’r blaen.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820873191798,"sku":"9781848517998","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848517998.jpg?v=1790361591","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/david-lloyd-llestr-bregus-9781848517998","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}