{"product_id":"darllen-yn-well-petai-r-byd-i-gyd-yn-9781913245559","title":"Darllen yn Well: Petai'r Byd i Gyd Yn...","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Taid yn rhoi pensil lliwiau'r enfys i mi ac yn dweud: Ysgrifenna a thynna luniau, ysgrifenna a thynna luniau dy freuddwydion di i gyd. Llyfr lluniau annwyl am y cariad rhwng merch fach a'i thaid, ac am gadw'r cariad hwnnw'n fyw trwy atgofion.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGrandpa gives me rainbow pencils, and tells me: Write and draw pictures, write and draw pictures of all your dreams. A charming picture book about the love between a young girl and her grandfather, and about keeping that love alive through memories.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781913245559\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781913245559\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDarllen yn Well: Petai'r Byd i Gyd Yn...\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCoelho, Joseph\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-01-08\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAtebol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyf., Testun\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eColpoys, Ms. Allison\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e235 × 276 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr stor-a-llun clawr caled sy’n ymdrin ag ambell bwnc digon anodd a heriol yw Petai’r byd i gyd yn … , addasiad o gyfrol wreiddiol gan yr awdur, bardd a’r dramodydd Joseph Coelho a’r arlunydd arobryn Allison Colpoys. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys fel cyfrol syml ddigon, wrth i’r awdur fynd â ni ar daith unigryw drwy gyfnodau’r flwyddyn, sydd hefyd yn cynrychioli cyfnodau bywyd dyn. Ond mae’r themâu o golled, hiraeth ac atgofion yn ei dyrchafu i dir ingol a theimladwy uwch wrth i wyres ddisgrifio’r berthynas arbennig rhyngddi hi â’i thaid, ac yn ddiweddarach ddygymod â’r hiraeth o’i golli a’r drysorfa o atgofion sydd ganddi amdano. Mae’r stori’n llwyddo i ganfod rhyw gydbwysedd rhwng hiraethu am golled ac ymhyfrydu mewn bywyd a dathlu atgofion. Llwydda hefyd i gyflwyno colled a’r modd yr ydym yn hiraethu am anwyliaid ochr yn ochr â’r cysur a geir oddi wrth atgofion. Mae’r iaith yn delynegol ac yn cyd-fynd yn hyfryd â’r arlunwaith unigryw, sy’n gyfoethog a blodeuog ac yn hwyluso’r llwybrau i fyd y dychymyg, sy’n rhan mor greiddiol o’r stori, ac yn siŵr o gynnig cysur i unrhyw blentyn sy’n wynebu colli rhywun sy’n agos atynt. Pendilia’r arlunwaith o’r prysur i’r tawel, gan gynnig amrywiaeth hyfryd o un dudalen i’r llall drwy’r gyfrol. Elfen ychwanegol yw’r cefndir diwylliannol gwahanol sydd i’r gyfrol a’r cymeriadau BAME sy’n ganolog iddi. Daw hyn â lliw a chyfoeth ychwanegol i’r stori, yn enwedig wrth i Taid adrodd hanesion amrywiol o’i orffennol i’w wyres fach. Ceir sôn am deigrod, nadroedd a melysion Indiaidd, a cheir gwerthfawrogiad hefyd o bethau syml bywyd, yn cynnwys teganau ail-law, pensiliau a phaent lliw a mynd am dro law yn llaw yng nghwmni rhywun annwyl. Mae cymaint o’r themâu yma mor berthnasol i’r cyfnod rydyn ni’n byw ynddo heddiw a’r modd yr ydym i gyd wedi gorfod ailasesu ac ailwerthuso ein bywydau yn sgil y pandemig byd-eang. Efallai nad hon yw'r gyfrol stori-cyn-cysgu gyntaf y byddai plentyn neu riant yn gafael ynddi bob nos, ond cyfrol sy’n bendant yn werthfawr ar sawl lefel arall. Cyfrol i’w darllen ar y cyd, i fyfyrio drosti, ond hefyd i’w gwerthfawrogi a’i mwynhau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821167513974,"sku":"9781913245559","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781913245559_a43a6fab-bf00-4bb6-ba63-9f6d9a0d3204.jpg?v=1790365856","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/darllen-yn-well-petai-r-byd-i-gyd-yn-9781913245559","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}