{"product_id":"darllen-yn-well-gwella-fesul-tamaid-9781913134990","title":"Darllen yn Well: Gwella Fesul Tamaid","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Gwella Fesul Tamaid yn rhaglen hunangymorth hanfodol, awdurdodol, seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi cael ei defnyddio gan ddioddefwyr bwlimia ers dros 20 mlynedd. Mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am fioleg a seicoleg bwlimia a sut i'w drin.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn essential, self-help programme based on evidence used by bulimia sufferers for over 20 years. It comprises the latest information about the biology and psychology of bulimia and how to treat it.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781913134990\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781913134990\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDarllen yn Well: Gwella Fesul Tamaid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSchmidt, Ulrike; Treasure, Janet; Alexander, June\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£18.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£18.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-06-12\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGraffeg\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e237 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e156 × 234 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Amrywiol (yn Gymraeg) | EN: Miscellaneous (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Amrywiol (yn Gymraeg) | EN: Miscellaneous (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Ulrike Schmidt yn athro anhwylderau bwyta yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn seiciatrydd ymgynghorol ar anhwylderau bwyta yn yr Uned Anhwylderau Bwyta yn Ysbyty Maudsley, Llundain. Mae ei hymchwil yn trafod pob agwedd ar anhwylderau bwyta, o achosion i driniaethau. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn datblygu triniaethau newydd, yn enwedig ymyriadau byr sy’n gallu cael eu rhannu yn eang. Mae hi’n awdur nifer o lyfrau hunangymorth poblogaidd a rhaglenni therapi ar-lein arobryn. Mae Janet Treasure, OBE, PhD, FRCP, FRCPsych, yn athro a seiciatrydd sy’n gweithio ym meysydd ymchwil ac addysgu yng Ngholeg y Brenin, Llundain ac yn glinigwr yn Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG De Llundain a Maudsley (www.thenewmaudsleyapproach.co.uk). Mae diddordebau ymchwil yr Athro Treasure yn cynnwys gweithio ar y cyd â chleifion a gofalwyr gan ddefnyddio ymchwil drawsfudol i ddatblygu mathau newydd o driniaeth. Datblygodd June Alexander anorecsia nerfosa pan oedd hi’n 11 oed, salwch a heriodd ei bywyd a’i ffurfio. Daeth cariad tuag at eiriau yn fodd iddi oroesi. Fe gadwodd ddyddiadur a datblygodd yrfa mewn newyddiaduraeth. Ers 2006 mae June wedi defnyddio profiadau bywyd a sgiliau llenyddol i ysgrifennu am anhwylderau bwyta. Mae hi’n ymgeisydd PhD ac yn aelod o sefydliadau yn Awstralia a sefydliadau rhyngwladol, yn cynnwys AED, F.E.A.S.T. ac NEDC. Ei gwefan: www.thediaryhealer.com.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r llyfr yn darparu arweiniad cam wrth gam ar gyfer newid sy’n seiliedig ar ymchwil gadarn. Mae’r iaith bob dydd, yr astudiaethau achos cyfoes ysgogol a’r storïau a’r darluniau deniadol yn Gwella Fesul Tamaid yn cynnig anogaeth, gobaith a safbwyntiau newydd i bob darllenydd. Mae’r llyfr bach yma’n llenwi bwlch yn yr angen am wybodaeth hawdd ei deall am fwlimia nerfosa, anhwylder bwyta difrifol a chyffredin. Mae Ulrike Schmidt a Janet Treasure yn ymchwilwyr ac arbenigwyr byd-enwog ar anhwylderau bwyta ac mae June Alexander, a fu’n dioddef o anorecsia a bwlimia ei hun, yn awdur uchel ei pharch ac yn eiriolwr sy’n adnabyddus ledled y byd dros ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta. Mae Gwella Fesul Tamaid yn adnodd gwerthfawr – i ddioddefwyr, i’w teuluoedd ac i’r gweithwyr iechyd proffesiynol a’r gofalwyr sy’n eu trin. ‘Mae Gwella Fesul Tamaid yn arweiniad cam wrth gam llawn darluniau deniadol ar gyfer goresgyn anhwylderau bwyta. Trwy hanesion difyr ac ymarferion cadarn sy’n adlewyrchu degawdau o brofiad clinigol yr awduron, mae’r llyfr hwn yn tywys y darllenydd gam wrth gam tuag at adferiad. Mae cynhesrwydd, tosturi a dealltwriaeth drylwyr yn llifo o bob tudalen, gan gyfuno safbwyntiau dau o’r clinigwyr anhwylderau bwyta uchaf eu parch yn y byd a safbwynt goroeswr\/eiriolwr. Nid yw’r canllaw hwn yn defnyddio jargon ac mae’n cynnig cyngor cadarn i unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta. Adnodd heb ei ail i bob llyfrgell a chyfaill mynwesol i bawb sy’n ystyried gwella.’ – Cynthia Bulik, PhD, FAED, Athro, Karolinska Institutet, Sweden a Phrifysgol Gogledd Carolina, Unol Daleithiau America, awdur Midlife Eating Disorders a Binge Control.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821166039414,"sku":"9781913134990","price":18.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781913134990_5780e8b0-1822-4baa-b0b2-09d06ca9c90d.jpg?v=1790365778","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/darllen-yn-well-gwella-fesul-tamaid-9781913134990","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}