{"product_id":"darllen-yn-well-datod-straeon-am-ddementia-9781800990449","title":"Darllen yn Well: Datod — Straeon am Ddementia","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol bwysig yn trafod dementia gan bobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y salwch – rhieni, wyrion, plant, priod, gweithwyr gofal, nyrsys, doctoriaid ac arbenigwyr yn y maes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn important volume that discusses dementia by those who are directly affected by the condition - parents, grandchildren, children, partner, care workers, nurses, doctors and specialists in the field.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800990449\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800990449\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDarllen yn Well: Datod — Straeon am Ddementia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStraeon am Ddementia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGeorge, Golygydd: Beti\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-10-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e160 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e148 × 210 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWy’n cofio bod ar gwrs rhywbryd a chlywed rhywun yn disgrifio dementia fel gwylio daeargryn yn effeithio ar silffoedd llyfrau. Ystyriwch y llyfrau fel y profiadau ac atgofion a gewch yn ystod eich bywyd. Dros y blynyddoedd, fe osodwch chi’r llyfrau ar silffoedd y cof, gan ddechrau ar y gwaelod. Caiff eich atgofion cynharaf eu cadw ar y silffoedd isaf, ac rydych chi’n parhau i lenwi’r silffoedd tuag i fyny. Yna daw dementia ar ffurf daeargryn ac ysgwyd y silffoedd. Y llyfrau sydd ar y silffoedd uchaf fydd y cyntaf i syrthio, tra bod y llyfrau ar y silffoedd islaw yn dueddol o aros yn eu lle’n hirach. I mi, roedd y ddelwedd hon yn drawiadol ac yn un hynod effeithiol wrth geisio esbonio mewn modd syml sut yr oedd yr ymennydd yn dirywio gyda’r cyflwr, y ffordd y mae’r atgofion mwyaf diweddar yn cael eu colli a’r rhai cynharaf yn para hiraf. Mae bron yn amhosib dirnad proses y golled, y breuo a’r dirywiad, ac mae bron yn amhosib dirnad beth yw natur y clefyd difaol hwn. Yn y gyfrol Datod , mae Beti George wedi casglu nifer o ysgrifau ac erthyglau byrion ynghyd gan sawl cyfrannydd er mwyn rhoi golwg 360° i ni ar ddementia. Cyfrol eglur, wybodus, ddiflewyn-ar-dafod yw hon, ond un sy’n llawn empathi ac emosiwn hefyd. Tipyn o gamp. Cyfrol gymharol fechan yw hi o ran ei hyd, ond mae’n ddigon, ac mae’n gwneud gwaith aruthrol rhwng ei dalennau. Drwy gyfrwng ffenestri eu hysgrifau mae gofalwyr a pherthnasau, gan gynnwys un cyfweliad gyda rhywun sydd â dementia arni, yn rhoi golwg i ni ar sut beth ydy byw gyda dementia. Mae’r testimoni’n ddirdynnol, digon i lorio’r darllenydd heb sôn am y bobl ddewr a dygn sy’n parhau, ddiwrnod ar ôl diwrnod, i gynnal a chadw eu hanwyliaid tra bod y clefyd creulon a didostur hwn yn creu dinistr. Mae’r system iechyd yn eu herbyn a gofal yn ddrud – mae’n amlwg y caiff pobl sydd â dementia eu siomi, a’u teuluoedd hefyd, sy’n gwneud sefyllfaoedd trist yn rhai annioddefol, bron. Dro ar ôl tro, mae’r ffaith bod y Gymraeg yn hanfodol i les a chysur pobl yn adleisio drwy’r gyfrol fel cytgan, gan bwysleisio bod cerddoriaeth, canu ac emynau yn fodd i leddfu ofnau am eu bod oll yn ffyrdd uniongyrchol yn ôl at y blynyddoedd cynnar. Yn ogystal, ceir erthyglau eglur a hawdd eu darllen gan feddygon, gwyddonwyr ac arbenigwyr ar y cyflwr o ran y goblygiadau corfforol, meddygol a gwyddonol. Maent yn esbonio’n union beth sy’n digwydd. Ceir trafodaeth ar yr adnoddau a’r gwasanaeth sydd ar gael i bobl. Mae’r wybodaeth yn hollol realistig ond ar yr un pryd, nid yw’n gwbl ddiobaith chwaith. Dyma gyfrol sy’n gwneud cymwynas fawr â ni bob un, oherwydd mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonom naill ai’n adnabod rhywun â dementia, neu’n perthyn i rywun, yn gofalu am rywun, neu’n dioddef o ddementia ein hunain. Mae’n bryd i ni i gyd fod yn trafod dementia.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820253417846,"sku":"9781800990449","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800990449_3586333a-3ecb-497d-b728-45ce20efd920.jpg?v=1790354959","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/darllen-yn-well-datod-straeon-am-ddementia-9781800990449","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}