{"product_id":"darganfod-newid-hinsawdd-9781804162460","title":"Darganfod! Newid Hinsawdd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNewid Hinsawdd. Wyt ti'n gwybod beth sy'n achosi i'n planed ni gynhesu mor sydyn? Neu sut all cynhesu byd-eang arwain at dywydd eithafol? Mae Darganfod! Newid Hinsawdd yn orlawn o ffeithiau diddorol a lluniau anhygoel o'n planed sydd mewn perygl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThis timely entry into the award-winning DKfindout! series, explores the past, present, and future of our climate. In 2019 kids around the world went on strike for the future of our planet, and for their own futures. This amazing book on climate change for kids covers what we can do every day as potential activists to help prevent further damaging changes to the climate.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781804162460\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781804162460\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDarganfod! Newid Hinsawdd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDK\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-07-05\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLleinau, Sioned\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e68 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e187 × 240 mm; depth 8 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Gwyddoniaeth - Byd Natur (yn Gymraeg) | EN: Science - Nature (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — C018179\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e“It is unequivocal.” Mae newid hinsawdd yn digwydd. Dyna mae adroddiad diweddaraf yr IPCC (2022) yn ei ddweud. Does dim amheuaeth ei fod yn effeithio ar ein planed erbyn hyn – mae angen i ni weithredu, a hynny cyn ei bod hi’n rhy hwyr! Gyda chymaint o bethau eraill yn digwydd yn y newyddion, fel y rhyfel yn Wcráin, yr argyfwng costau byw ac ati, hawdd yw anghofio’r argyfwng amgylcheddol a’i wylio’n llithro i lawr yr agenda. Ac mae prif weinidog newydd y DU newydd ddweud na fydd o’n teithio i’r gynhadledd enfawr COP27 eleni – pa fath o esiampl mae hynny’n ei gosod? Yn ddiweddar, erfyniodd y cyflwynydd enwog, Syr David Attenborough, arnom i roi stop ar newid hinsawdd er mwyn achub y blaned. Mae’r fideo yn ddirdynnol ac yn werth ei weld – mae’n rhan o gyfres Frozen Planet II ar y BBC. Pan oeddwn i'n blentyn, llyfrau Dorling Kindersley oedd fy ffefryn. Yn wir, roeddwn i’n eu llowcio. Llongau. Trenau. Adeiladau. Ymlusgiaid. Adar. Roedd gen i’r cyfan! Heb os, rhain yw’r llyfrau ffeithiol gorau sydd ar y farchnad, o ran eu delwedd a’u cynnwys. Maen nhw mor llachar a gweledol, gyda lluniau trawiadol i ddenu sylw cenhedlaeth o blant ifanc sydd wedi tyfu i fyny o flaen sgriniau. Nid gwerslyfrau llychlyd a diflas mo’r rhain! Mae’r gwaith dylunio a gosod yn ardderchog, gyda thudalennau yn orlawn o ffeithiau diddorol ond wedi eu gwahanu’n dameidiau bach mewn ffont amlwg. Dwi wedi bod fel tôn gron yn sôn am y diffyg llyfrau ffeithiol Cymraeg da sydd ar gael. Nid pawb sydd eisiau darllen storïau am dylwyth teg neu’r Mabinogi. Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig ydi cael cyfresi ffeithiol a difyr, sy’n gallu bwydo chwilfrydedd ac awydd plant ifanc am wybodaeth. O edrych ar beth sydd ar gael ar y silffoedd yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ry’n ni ar ei hôl hi braidd. I ble mae’r llyfrau ffeithiol wedi mynd? Dyna pam wnes i wirioni pan welais i fod Rily wedi addasu un o lyfrau DK o’r gyfres wych Find Out! \/ Darganfod! Addasiad o adolygiad oddi ar wefan Son am Lyfra \/ An adaptation of a review from the Son am Lyfra website.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820472275318,"sku":"9781804162460","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781804162460_06b74cb8-8996-4625-9765-27e28d2ac726.jpg?v=1790357241","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/darganfod-newid-hinsawdd-9781804162460","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}