{"product_id":"dan-y-ditectif-treigladau-9781855968028","title":"Dan y Ditectif Treigladau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Dan yn dditectif go arbennig - mae e'n dditectif treigladau! Tyrd ar daith ddifyr i fyd y llythrennau yng nghwmni Dan a'i chwyddwydr, ac ymhen dim o dro, mi fyddi dithau hefyd yn dditectif treigladau penigamp.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDan is a special detective - a mutation detective! Join Dan and his magnifying glass on a journey through the world of letters so that you can also become an excellent mutation detective.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781855968028\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781855968028\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDan y Ditectif Treigladau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWen, Dref\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-04-11\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e38 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 210 mm; depth 3 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eEr bod yna fyrdd o lyfrau tebyg ar gael, mae'r llyfr yma yn eithriad, ac yn gyfrol sy'n apelio at y synhwyrau mewn sawl ffordd. Mae'n hwyliog ac yn lliwgar, ac fe'n harweinir ar antur i fyd y treigladau yng nghwmni Dan y Ditectif, a hynny mewn modd llawn bwrlwm. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â threiglo yn cael eu cyflwyno mewn ffordd newydd a gwahanol iawn i'r rhesi ribidires yr oeddwn yn gorfod eu dysgu yn yr ysgol, sef p t g b d g ll m rh! Er mai'r un ydyw'r rheolau â'r hyn a gyflwynwyd yn y gwersi yn y bôn, mae'n ddifyr iawn gweld y cyflwyniad lliwgar a'r ymarferion hwyliog, ac nid ydynt yn edrych fel tasgau anodd, academaidd. Mi ddylai'r ditectif a'i anturiaethau apelio'n fawr at blant, ac ar y dudalen olaf ceir tystysgrif i nodi llwyddiant. Gall pris y llyfr, sef £5.99, ymddangos braidd yn ddrud, ond mae'n cynnwys pob dim sydd ei angen er mwyn dysgu am reolau treigladau, a hynny mewn ffordd ddifyr fydd yn apelio at blant, athrawon a rhieni. Mae'r defnydd o luniau yn benigamp a rhaid canmol y delweddau lliwgar a'r dylunio. Mae'r tair adran – sef y treiglad meddal, trwynol a llaes – yn cael eu cyflwyno fesul un, ond mae'r disgybl yn cael ei arwain o un wers i'r llall mewn ffordd ddiymdrech. Dyma lyfr defnyddiol a hylaw, ac un i'w gadw o fewn cyrraedd wrth i chi lunio ebost, sgwennu llythyr neu lunio adolygiad o gyfrol am dreigladau!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820942496118,"sku":"9781855968028","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781855968028_233447da-b23b-4177-b5d2-c74d47f8ba03.jpg?v=1790362467","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/dan-y-ditectif-treigladau-9781855968028","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}