{"product_id":"cysgod-y-cryman-9780863837104","title":"Cysgod y Cryman","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAil argraffiad ar bymtheg o un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed yn yr iaith Gymraeg yn darlunio bywyd cefn gwlad ym Mhowys, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhwygiadau rhwng aelodau dwy genhedlaeth o berchnogion tir wedi i'r mab droi'n gomiwnydd ac anffyddiwr gan ennyn dicter ei dad. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1953.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe 17th edition of one of the most popular novels in the Welsh language depicting rural life in Powys, and in particular the friction between two generations of a landowning family when the son becomes a communist and aethist thus inducing his father's wrath. First published in 1953.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780863837104\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780863837104\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCysgod y Cryman\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eElis, Islwyn Ffowc\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-12-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e318 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e195 × 125 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNid ywn syndod o gwbl gweld fod y Cymry am ddal i ddarllen nofelau Islwyn Ffowc Elis. Y maen chwedleuwr tan gamp, fel yr oedd Daniel Owen, ac fe ŵyr pawb, ond ambell i feirniad, peth mor sylfaenol bwysig i nofelydd ydi medru dal cynulleidfa efo stori dda. Y mae o hefyd yn medru ysgrifennu Cymraeg sydd fel sidan. Daeth ei fedr eithriadol fel dyn geiriau ir golwg yn ei ysgrifau Cyn Oerir Gwaed , ac y mae iw gweld yr un mor amlwg yn ei nofelau ai storïau byrion. Y maen medru bod yn gyfareddol  darllenwch rai or disgrifiadau ar ddechrau penodau Cysgod y Cryman i weld mor wir ydi hyn. Dyma nodweddion, om darlleniad cyntaf or nofel, yn 1953, am trawodd i mor gryf rŵan âr adeg honno. Ond, bobol bach, y maer blynyddoedd rhwng 1953 a 2002 wedi newid safbwyntiau ein cymdeithas ni yn chwyldroadol. Y mae, yn y nofel, elfennau y cyfeiriodd Islwyn Ffowc Elis atynt mewn ysgrif ar 'Y Nofelydd ai Gymdeithas', sef: '. . . safonau a rhagdybiau cydnabyddedig ei gyfnod ai gymdeithas, [elfennau meddai] nad yw [nofelydd] yn debyg o ymyrryd rhyw lawer â [hwy] rhag tarfui gynulleidfa.' Rhagdybiau Anghydffurfiwr o Genedlaetholwr o Gymro, yn 1953, a geir yn Cysgod y Cryman . Ystyriwn, er enghraifft, Harri Vaughan, arwr a phrif gymeriad y nofel hon: y mae rhai oi nodweddion  cymeradwy ar y pryd  bellach yn ddigon i saethu ffeministiaid i orbit. Y maer un peth yn wir am Edward Vaughan, tad yr arwr, a pherchennog fferm sylweddol, sef Lleifior, yn Nyffryn Aerwen. Yn ei ysgrif ar 'Y Nofelydd ai Gymdeithas' sonia Islwyn Ffowc Elis am rwymedigaeth y nofelydd 'i rwystroi ragfarnau rhag duo gormod ar ei ddihirod a gwynnu gormod ar ei arwyr'. Wrth ddarllen y nofel eto yr ydw in rhyw deimlo fod yna ymagweddu go bendant tuag at rai cymeriadau ynddi. Nid mater o fod yn y nofel gymeriadau 'da' a rhai 'drwg' ydi hyn  y mae cymeriadau or fath yn y rhan fwyaf o nofelau  ond fod yr awdur o bryd iw gilydd yn cyfarwyddo ein hymateb yn lle gadael inni ymateb yn ôl portread a gweithredoedd y cymeriadau eu hunain. Dyma un enghraifft: y mae Wil James, sydd yn gweithio ar fferm Lleifior, yn ddihiryn; y mae ei weithredoedd ai eiriaun dangos hynny. Y maen mynnu siarad Saesneg â Karl, Almaenwr a ddaeth i weithio yn Lleifior pan oedd yn garcharor rhyfel ac a ddaeth yn ei ôl yno ar ôl y rhyfel. Dyma a ddywed Islwyn Ffowc Elis yn y nofel: 'Yr oedd Wil James yn un or rhai a siaradai Saesneg â Karl. Nid oedd ganddo mor crebwyll i wybod bod Karl yn fwy o feistr ar unrhyw iaith nag ydoedd ef.' Y maer ail frawddeg yn sylw uniongyrchol yr awdur, y maen dweud wrthym sut i ymateb. Ymhellach, y mae Karl yn gallu dweud, 'Yr wyf o hyd yn ddiysmygwr', chwithdod ieithyddol nad yw Wil James yn euog oi debyg. Y mae yn y nofel nifer o sylwadau fel hyn syn goruchwylio ymateb y darllenwr. Pan ymddangosodd y nofel gyntaf, cyhuddwyd Islwyn Ffowc Elis o wneud Karl mor dda nes ei bod yn anodd credu ynddo. Ond y maen gwbl glir fod ei hunanymwadiad mor eithafol nes bod yn negyddol, hynny yw, y mae cryfder Karl yn wendid. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn fwy craff nag oedd yn amlwg i amryw oi feirniaid cynnar. Prif bwnc y nofel ydi lle traddodiad, syn cynnwys system economaidd a hen systemau o lywodraethu, ym myd Harri Vaughan ai gymdeithas. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn flaengar yn ei bwnc achos yr oedd yn ymdrin â materion a ddaeth i strydoedd amryw o ddinasoedd y byd rai blynyddoedd ar ôl cyhoeddir nofel: bu myfyrwyr yn y Sorbonne yn taflu cerrig ac yn baricedio strydoedd Paris, a phobol ifainc Tokyon taflu bomiau petrol yn Japan. Yr oedden nhw, fel Harri Vaughan yn ei ffordd ef ei hun, yn gwrthryfela yn erbyn awdurdod a systemau a darddai o draddodiad. Y maer pwnc yn dal gyda ni. Ond fe gynigir neges bwysig yn Cysgod y Cryman , sef mai trwy gyfaddawd y maer hen ar newydd yn debyg o ddod i ryw fath o sefydlogrwydd mwy cyfiawn. Trwy berthynas Harri Vaughan ai dad y cyfleir hyn yn y nofel. Yr oedd hin bleser darllen y nofel hon unwaith yn rhagor, a gweld elfennau ynddi mewn ffordd wahanol. Y mae to ar ôl to o bobol ifainc o Gymry wedi cymryd at y nofel hon; yr oeddent, ac y maent, yn ddoeth o wneud hynny. Y mae hin nofel syn bleser iw darllen. Y mae ei hawdur, uwchlaw popeth, yn ysgrifennwr Cymraeg tra nodedig, a beth bynnag arall sydd yn newid o ddarllen y nofel dros y blynyddoedd, y mae ei rhagoriaeth fel testun Cymraeg yn dal yn rhyfeddod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819052700022,"sku":"9780863837104","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780863837104_618ddce7-d449-491d-9f1f-724f8b616d02.jpg?v=1790353020","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cysgod-y-cryman-9780863837104","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}