{"product_id":"cymru-fydd-9781739097509","title":"Cymru Fydd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? I Koi a'i ffrindiau, mae'n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWales 2090. An independent, thriving, powerful country that has claimed its place in world affairs since 2049. But who really governs in paradise? For Koi and his friends, living here is a nightmare, and from a young age he learns that apathy is a dishonour.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781739097509\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781739097509\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCymru Fydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Wiliam Owen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-11-08\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eO'r Pedwar Gwynt\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e432 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 197 mm; depth 18 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eFSC certified (mixed sources) — FSC C013056\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Wiliam Owen Roberts (1960-) yn byw yng Nghaerdydd ac yn awdur chwe nofel: Bingo! (1985), Y Pla (1987), Paradwys (2001), Petrograd (2008), Paris (2013) a Cymru Fydd (2022), yn ogystal â chyfrol o straeon byrion, Hunangofiant (1990). Mae hefyd wedi ysgrifennu cryn dipyn ar gyfer y llwyfan, y radio a’r teledu. Cyfieithwyd ei nofelau i dros ddeg o ieithoedd. Dewiswyd ei waith ar gyfer y flodeugerdd Best European Fiction gan Dalkey Archive ac ar gyfer gwobr gyfieithu English PEN.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCymru 2090. Gwlad annibynnol. Gwlad lewyrchus. Gwlad sofran rymus sydd wedi hawlio ei lle ar lwyfan y byd ers 2049. Ond pwy sydd yn rheoli? Ac a yw byw yn y wlad hon yn fêl ar fysedd pawb? I Koi a’i ffrindiau, mae’n hunllef. Daw Koi i ddeall yn gynnar iawn mai gwarth o beth ydi byw yn ddifater. Ond fel roedd y Cymrics eu hunain yn ei wybod trwy brofiad, mewn gwendid y perffeithiwyd pob mudiad chwyldroadol – hyd at yr awr pan fo’r gwan rhyw ddydd yn codi yn gry. Cyn y Rhyfel yn 2049, pobol ddigon disylw oedd y Cymry, a'u gwlad yn un o daleithiau tlotaf Gorllewin Ewrop – yn wlad nad oedd yn marw, ond nad oedd chwaith yn byw. Roedd angen gweledigaeth wrol i ddychmygu math arall o gymdeithas ar hen dir. Trwy drugaredd, boddwyd dinas Caerdydd o dan y tonnau. Mae Cymru Fydd yn mynd â ni trwy droeon personol a gwleidyddol cythryblus yn hanes dinasyddion ac arweinwyr Gwladwriaeth Cymru. Mae mwy nag un gwewyr yn herio eu rhagdybiaethau amdanynt eu hunain a'u gwlad. Ond mae'r hyn sy'n herio Koi yn fwy nag y gall o – na neb arall – ei ddychmygu. All o hyd yn oed hawlio mai yr un person ydi o yn 2100 ag yr oedd o yn 2090? ‘Sut le fydd y Gymru annibynnol? Cewch wybod o dreulio degawd yng Nghymru Fydd y mwyaf gwleidyddol o’n nofelwyr. Yn wyneb trychineb newid hinsawdd, mae dwy gymdeithas yn brwydro dros yr un darn o dir. Nofel wiw yw hon am fuddugoliaeth cenedlaetholdeb, ac am adferiad y Gymraeg hyd at derfynau’r wlad a thu hwnt. Cymru Rydd, Cymru Gadarn, Cymru Gymraeg! — Simon Brooks ‘Craff, carlamus, proffwydol. Mae hon yn nofel fydd yn newid eich meddwl am ddyfodol Cymru. Dyma’n canu darogan newydd.’ — Angharad Price ‘Pellucid, brilliant. Meticulously researched, a Brueghel painting come to life. [A] fine, sardonic, and agitated novel.’ — New Statesman yn trafod Y Pla\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819397222774,"sku":"9781739097509","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781739097509_46bbc244-d8e2-441b-b843-5be1d87679b2.jpg?v=1790353359","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/cymru-fydd-9781739097509","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}